Siom i berchnogion Wrecsam yn eu gêm fyw gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Gemma Thomas/CPDWrexham
Disgrifiad o’r llun,

Sêr Hollywood yn cael gweld Wrecsam yn fyw am y tro cyntaf

Fe gafodd cefnogwyr Wrecsam a deithiodd i Maidenhead i weld eu tîm yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth dipyn o syndod i weld pwy oedd ar y teras gyda nhw.

Roedd perchnogion newydd y clwb, yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi teithio i weld y clwb yn fyw am y tro cyntaf.

Siom gafodd y cefnogwyr a'r perchnogion newydd gyda pherfformiad y tîm serch hynny.

Fe gollodd Wrecsam o 3-2 gan chwarae am dros hanner y gêm gyda 10 dyn.

Ffynhonnell y llun, George Tewkesbury
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Wrecsam o 3-2

Er i bresenoldeb Reynolds a McElhenney greu cynnwrf yn y dorf o ryw 1,600, roedd digon o gyffro ar y cae hefyd.

Roedd Kane Ferdinand a Jay Mingi eisoes wedi rhoi Maidenhead ddwy ar y blaen pan welodd Bryce Hosannah gerdyn goch am dacl flêr iawn wedi dim ond 31 munud.

Er hynny fe lwyddodd Paul Mullin gael gôl yn ôl i Wrecsam cyn yr egwyl i gwtogi'r fantais.

Ffynhonnell y llun, Bethan Sear
Disgrifiad o’r llun,

Cyron, 11, a Freya, 8, yn cael cyfarfod y sêr yn Wrecsam ddydd Mercher

Ffynhonnell y llun, George Tewkesbury
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o gyffro wrth i Wrecsam chwarae am dros hanner y gêm gyda 10 dyn

Yn fuan wedi'r egwyl fe wnaeth Jordan Davies sgorio gôl i ddod â Wrecsam yn gyfartal 2-2.

Ond chwalwyd eu gobeithion o'r newydd pan lwyddodd Josh Kelly i gipio mantais y tîm cartref yn ôl gyda 15 munud yn weddill.