Ble ddylai cynlluniau ynni gwyrdd gael eu creu?
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o gynllun Gohebydd Ifanc y BBC, mae Nel Richards yn ymchwilio i'r tensiynau sy'n codi wrth ddatblygu isadeiledd ynni gwyrdd yng Nghymru.
Mae Nel yn 20 oed ac o bentref Craig Cefn Parc yn Sir Abertawe,ond bellach yn astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dychwelodd i Graig Cefn Parc i holi sut ymateb oedd i ddatblygiad posib yn yr ardal yn ddiweddar.
Yn haf 2019, cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer fferm solar ar 52 erw o dir amaethyddol braf yng Nghraig Cefn Parc, pum milltir i'r gogledd o Abertawe.
Ynghyd â'r paneli fyddai'n cynhyrchu 19.9 megawat o ynni, byddai offer ac isadeiledd ychwanegol yn cael eu codi, o gamerâu cudd i ffensys uchel a heolydd newydd drwy gaeau ffrwythlon.
Ymhen deufis, gwrthodwyd y cynllun gan Gyngor Abertawe dros bryderon am effaith negyddol ar ecoleg yr ardal.
Dwi'n byw yn lleol, ar lethr gyferbyn â'r tir dan sylw. Wrth i Lywodraeth Cymru anelu at greu cymunedau mwy gwyrdd, es i glywed gan bobl leol am y tensiynau gafodd eu hachosi gan y cynllun.
'Poeni am fywyd gwyllt y cwm'
Cwm glofaol oedd Craig Cefn Parc cyn i mi fyw yma, ond ardal werdd sy'n gartref i warchodfa natur o dan reolaeth yr RSPB yw hi erbyn hyn.
Pan gyflwynwyd y cynlluniau, roedd rhai yn pryderu am yr effaith ar fywyd gwyllt sydd wedi adfeddiannu'r cwm dros yr 50 mlynedd ddiwethaf.
Mae Dewi Lewis yn gwirfoddoli'n wythnosol yn y warchodfa natur sydd gerllaw ble fyddai'r fferm solar wedi bod.
"Mae effaith y math yma o ddatblygiad ar fywyd gwyllt yn gallu bod yn sylweddol", meddai Mr Lewis.
"Rydyn ni'n meddwl am ddarn o dir eithaf sylweddol oherwydd fod ffermydd solar yn gorfod bod yn rhai eithaf mawr er mwyn eu gwneud nhw'n broffidiol.
"Felly mae'r effaith ar drychfilod a phryfetach i ddechrau, oherwydd bydd braidd dim gwlybaniaeth yn y pridd o dan y paneli solar."
Yn ôl Mari Arthur, ymgynghorydd amgylcheddol i gwmni Afallen, sy'n helpu busnesau i wneud penderfyniadau mwy cynaliadwy, mae datblygiadau gwyrdd yn hollbwysig i adfer y blaned os yw'r datblygiadau mewn lle addas.
"Mae'n rhaid gweithio gyda'r cymunedau a meddwl, 'mae'n rhaid i ni gael solar, neu wynt neu tidal neu beth bynnag yn ein hardal ni- mae'n rhaid i ni gefnogi hwn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dewis y lle iawn i roi e'," meddai.
'Pam cymryd y tir amaeth?'
I Ioan Richard, cyn-gynghorydd yn yr ardal sydd yn byw yn lleol, byddai'n well adeiladu'r paneli solar ar adeiladau sydd eisoes yn y ddinas.
"Os ydyn ni'n mynd o fan hyn nawr i Dreforys, alla' i fynd â chi lan ar ben hewl sy'n edrych i lawr ar yr Enterprise Park - mae'n llawn o stordai, archfarchnadoedd, gweithdai, a does dim paneli solar ar ben unrhyw do, ar ben un o'r adeiladau mawr yna.
"Allen nhw gael solar panels dros y lle i gyd - ar ben yr adeiladau, ond dydyn nhw ddim yn 'neud e.
"Pam cymryd y tir amaeth pan mae lle lawr fan 'na?"
I ddeall mwy am sut byddai'r datblygiad wedi effeithio ar yr ardal, es i gwrdd ag Ann Lewis, sydd yn ffermio ar dir agos i ble fyddai'r fferm solar wedi bod.
O ystyried sefyllfa newid hinsawdd, meddai Ms Lewis, mae angen gweithredu - ond mae'n rhaid ystyried yn ofalus ble mae isadeiledd newydd yn cael ei osod.
"Dydw i ddim yn erbyn e, dwi jest yn meddwl efallai dylen nhw edrych ar ble fyddai modd gosod isadeiledd ynni adnewyddadwy lle na fyddai'n effeithio gymaint ar y gymuned."
Yn ôl Rupert Warwick, rheolwr prosiect i'r cwmni gyflwynodd y cais i godi'r fferm solar, Solar Securities, bydden nhw wedi cyd-weithio gyda'r ffermwr i sicrhau llwyddiant i amaethu'r tir.
Dywedodd Mr Warwick bod ffermydd solar yn gallu creu cynefinoedd newydd heb amharu'n ormodol ar fywyd gwyllt.
"Mae'n rhaid gweld cyfaddawdau ym mhob adran - datblygwyr, y llywodraeth, ac mewn cymunedau lleol," meddai.
Ychwanegodd bod ynni gwyrdd yn "fusnes" i rai cwmnïoedd "oherwydd mae'n cael ei adael i'r sector breifat".
Cyfrifoldeb i ni gyd
Dydy'r ddadl hon ddim yn unigryw i Graig Cefn Parc. Mae'r llywodraeth yn anelu at gymunedau mwy gwyrdd a mwy o adeiledd adnewyddadwy i leihau'r carbon sy'n cael ei allyrru.
Fel y dywedodd Ms Arthur: "Mae cyfrifoldeb arnom ni gyd."
Oes, mae angen gwneud yn siŵr nad yw datblygiadau fel ffermydd solar yn effeithio ar ein hecoleg leol - ond a ydym yn gallu bod yn or-ffwdanus dros yr argyfwng yma?
Ydyn ni'n hunanol yn gwrthod pob awgrym a all, un dydd, achub ein byd?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021