Y Gyllideb: Be' mae'r cynlluniau yn ei olygu i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Y Canghellor yn dal ei focs coch o flaen 11 Downing StreetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi cynnwys y gyllideb ddydd Mercher

Mi fydd y Canghellor Rishi Sunak yn datgelu ei gynlluniau gwariant wrth gyhoeddi ei gyllideb ddydd Mercher.

Mae o eisoes wedi cyhoeddi y bydd yna fuddsoddiad cyffredinol mewn gwasanaethau cyhoeddus, tra'n ceisio mynd i'r afael ag effaith y pandemig ar yr economi hefyd.

Mi fydd Llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn arian drwy fformiwla Barnett - a nhw fydd yn penderfynu ar be' fydd yr arian yna yn cael ei wario.

Mae ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies wedi bod yn edrych ymlaen at y cyhoeddiad, ac yn crynhoi rhai o'r prif bynciau trafod o safbwynt Cymreig.

Gwariant

Gwella mae'r rhagolygon ar gyfer maint cyllideb Llywodraeth Cymru, diolch i addewidion am ragor o wariant yn Lloegr.

Fe fydd Cyllideb Rishi Sunak ar ddydd Mercher yn cynnwys £5.9bn i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr er mwyn mynd i'r afael â gwaith gafodd ei ohirio yn ystod y pandemig - cyhoeddiad all arwain at £330m yn ychwanegol i Gymru.

Drwy fformiwla Barnett, mae canran o bob swm ychwanegol i Loegr ar gael i Lywodraeth Cymru wario fel y maen nhw eisiau.

Ond mae torri gwariant yn Lloegr hefyd yn effeithio ar Gymru.

Os ydy Mr Sunak yn lleihau'r arian i lywodraeth leol, trafnidiaeth neu addysg bellach, mi all hynny wasgu ar goffrau Llywodraeth Cymru.

A hyd yn oed os ydy'r arian yn cynyddu, cynyddu mae'r pwysau hefyd wrth i'r rhestrau aros dyfu.

Tomenni glo

Gobaith fawr Llywodraeth Cymru yw cael rhagor o arian i'w wario ar ddiogelu tomenni glo.

Gallai'r gwaith gostio hyd at £600m yn ystod y 10 mlynedd nesaf, medden nhw.

Eu blaenoriaeth yn y Gyllideb hon yw sicrhau mai'r Trysorlys yn Llundain, ac nid nhw, sy'n talu.

Mae hynny er gwaetha'r ffaith taw dyletswydd sydd wedi ei ddatganoli i Gaerdydd yw edrych ar ôl gwastraff y pyllau glo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 327 o domenni glo sydd wedi eu cofnodi fel rhai "risg uwch" yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael arian ychwanegol, yn ôl y Trysorlys, sydd hefyd yn dadlau bod Cymru eisoes yn derbyn setliad hael gan Lundain.

Ond doedd yr angen i glirio gwaddol oes ddiwydiannol Cymru ddim wedi ei ragweld ar ddechrau datganoli, meddai llywodraeth Mark Drakeford.

Yr economi

Gyda chostau yn cynyddu a nifer fawr wedi colli £20 yr wythnos o gredyd cynhwysol yn ddiweddar, mae 'na bwysau ar Mr Sunak i helpu pobol gadw dau ben llinyn ynghyd.

Bydd cyflwr yr economi yn sail i bopeth mae e'n ei ddweud.

Llynedd fe ddioddefodd yr economi ergyd na welwyd ei thebyg o'r blaen diolch i'r cyfnod clo cyntaf.

Er bod yr economi wedi tyfu yn gyflym ers hynny, dyw e dal heb gyrraedd yr un maint ag yr oedd e cyn y pandemig.

Gallai prognosis da gan yr OBR - y corff annibynnol sy'n marcio symiau'r Canghellor - godi gobeithion am yr arian fydd yn llifo i'r coffrau.

Wedi dweud hynny, i'r rhan fwyaf o bobl, yr arian yn eu cyfrifon yw'r arwydd cliriaf o gyflwr yr economi, nid y ffigyrau yn adroddiadau'r OBR.

Mae codiad yn yr isafswm cyflog a diwedd i rewi cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi eu cadarnhau gan y Trysorlys.

Ond Llywodraeth Cymru fydd yn gosod cyflogau i nifer yn y pendraw, gan gynnwys i nyrsys - ac mae'u hundeb nhw wedi gwrthod cynnig i godi cyflogau 3%.

Yr amgylchedd

Mae'r ddwy lywodraeth yn rhannu targed i gyrraedd sero-net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn canol y ganrif - her sy'n golygu newidiadau mawr yn yr economi ac yn ein ffordd o fyw.

Ddiwrnod ar ôl i Mr Sunak wneud ei ddatganiad yn Nhŷ'r Cyffredin, fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun i gyrraedd y targed.

Ond does wybod eto sut y bydd hyn yn cael ei ariannu, na faint o'r gost fydd yn disgyn ar ysgwyddau'r sector cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru'n anelu at sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050

Efallai bydd y Gyllideb - sy'n cael ei chyhoeddi rai dyddiau cyn cynhadledd mawr COP26 yn Glasgow - yn gyfle i Mr Sunak ddechrau egluro sut mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu gwireddi'r uchelgais.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio y bydd e'n edrych o'r newydd ar y manteision amgylcheddol o drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ag Abertawe.

Yr Undeb

Cytuno hefyd mae'r ddwy lywodraeth ar yr angen i gadw Cymru o fewn y Deyrnas Unedig.

Ond maen nhw'n anghytuno ar y ffordd orau i wneud hynny.

Wedi newid y drefn ar sut mae arian yn cael ei wario yn dilyn Brexit, bellach mae gan San Steffan yr hawl i wario mewn meysydd sydd wedi eu datganoli - pethau fel trafnidiaeth a hyfforddi.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ar sut i ddefnyddio'r pwerau newydd ac ar sut i wario'r arian sydd wedi disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud taw nhw ddylai benderfynu ble mae'r arian yn mynd, fel wnaethon nhw gyda'r biliynau a ddaeth i Gymru o Frwsel.