3 Llun: Lluniau pwysicaf Heledd Cynwal

  • Cyhoeddwyd
Heledd

Os fyddai rhaid i chi ddewis 3 llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Yr wythnos yma, Heledd Cynwal sy'n rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o'r lluniau sy'n golygu fwyaf i'r gyflwynwraig.

Ffynhonnell y llun, Heledd Cynwal
Disgrifiad o’r llun,

Heledd a'i thadcu

Dyma lun sy'n agos iawn at fy nghalon, mae o Dadcu a fi yn cael cwtsh ar achlysur fy medydd yn Eglwys Capel Dewi yn ardal Llanwrda, Sir Gâr.

David Cynwal Evans oedd ei enw (D.C i bawb yn lleol). Enw ddaeth o fferm y teulu, Cwm Cynwal.

Beth sy'n braf yw cafodd Dadcu, Mam, fi a Gwern (y mab) ein bedyddio yn union yr un eglwys. Yn drist iawn, buodd e farw pan o'n i ryw 4 mlwydd oed, ond yn ôl pawb oedd yn ei nabod, mae'r llun 'ma yn adlewyrchiad perffaith ohono, llawn hiwmor ac yn barod ei wên. Llun i'w warchod!

Ffynhonnell y llun, Heledd Cynwal
Disgrifiad o’r llun,

Noson priodas Heledd ac Ian

'Wi'n hoff iawn o naws y llun yma, ga'th ei dynnu ar noson priodas Ian a finne' gan ffrind o'r coleg, Lleucu.

Whare teg iddi, fuodd hi wrthi yn tynnu llunie' hollol anffurfiol o bawb oedd yno drwy'r nos yng ngwesty y Cawdor, Llandeilo.

Daliodd hi'r awyrgylch yn berffaith; y canu, chwerthin a'r dawnsio flat out! Roedd hon tuag at ddiwedd y noson a phethe'n dechre arafu. Diwrnod gwych!

Ffynhonnell y llun, Heledd Cynwal
Disgrifiad o’r llun,

Plant Heledd

Mae'r llun yma lan ar wal y gegin a mae wastad yn codi gwên.

Symudon ni yn ôl i Landeilo o Gaerdydd yn 2004, ac fe dda'th tri o blant yn agos iawn i'w gilydd. Bellach mae nhw yn eu harddegau ac yn hollol embarrassed o'r llun!

Braf yw cael edrych nôl ar gyfnod lle roedd y tri tipyn mwy diniwed!

Pynciau cysylltiedig