3 Llun: Lluniau pwysicaf Mared Williams
- Cyhoeddwyd
Y gantores Mared Williams sy'n dewis tri llun sy'n agos at ei chalon.
Dyma fi yn naw oed, efo fy mrodyr a'n chwaer yn 2006. Dwi'n caru'r llun yma achos doedd Mam a Dad methu cael fy mrawd lleiaf i eistedd efo ni am fwy na eiliad, felly roedd yn rhaid rhoi ffôn symudol Dad iddo, classic babi generation Z!
'Leni ydi'r flwyddyn gynta' lle 'dan ni gyd yn byw oddi cartref, naill ai yn coleg, y brifysgol, neu'n Llundain, yn gwneud pethau hollol wahanol - felly dwi'n meddwl amdanyn nhw lot. Yn enwedig ar ôl blwyddyn o fod adre gyda nhw i gyd.
Yn 2018, ges i'r cyfle i fynd i ganu mewn Eisteddfod yn y Gold Coast, Awstralia, o ganlyniad i ennill cystadleuaeth sioe gerdd yn Eisteddfod Llangollen.
Dim ond wythnos i ffwrdd ges i gan yr Academi Frenhinol i fynd, felly 'nath fi a Mam bacio bob dim i fewn i saith diwrnod a trio anwybyddu'r jet lag.
Dwi wedi dewis y llun penodol yma achos ar drip mewn tacsi bach tuag at y Blue Mountains, fe wnaethon ni gyfarfod cwpl o Gymru oedd wedi 'nabod fy ngwyneb o'r 'steddfod (dim ond y Cymry!). Ges i fy ngorfodi i ganu Ar Lan y Môr ar gopa'r mynydd - diwrnod hyfryd ond hollol boncyrs!
Mae'r llun olaf yn dal gymaint o atgofion.
Rydw i bellach wedi ail ymuno efo'r West End fel rhan o gast Les Misérables yn Theatr y Sondheim... OND mae'r llun yma wedi ei dynnu ar ôl sioe yn Chwefror 2020 tu allan i stage door, ryw bythefnos cyn i'r theatrau gau o achos Covid.
Dwi'n ysgwyd llaw Dad am ryw reswm gwirion, ac wedi fy amgylchynu gyda'r bws 52 seater o deulu a ffrindiau swnllyd a chefnogol a ddaeth i lawr o'r gogledd yn unswydd i wylio'r noson honno. Dros flwyddyn yn ddiweddarach dwi'n ôl am y tro yn Llundain wedi treulio'r cyfnod clo yn mwynhau bod adre yng Nghymru. Llun i'w drysori!