Rôl merched yn y Rhyfel Mawr
- Cyhoeddwyd
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd tua 280,000 o ddynion o Gymru yn y lluoedd arfog gyda thua 40,000 ohonynt yn colli eu bywydau.
Ar drothwy Sul y Cofio, wrth inni goffáu cenhedlaeth goll o feibion mae'n hawdd anghofio cyfraniad merched Cymru i'r ymdrech ryfel - ar faes y gad, mewn ysbytai, ffatrïoedd ac ar yr aelwyd gartref.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar gyfraniad allweddol merched Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr.
Cynnig gofal meddygol
Pan gyhoeddwyd rhyfel ar 4 Awst 1914, roedd nyrsys Cymru ymhlith y cyntaf i ddangos eu cefnogaeth. Wedi hyfforddi yn Ysbyty St Bartholomew yn Llundain, ymunodd Zillah Jones o Lanpumsaint â Gwasanaeth Nyrsio'r Llu Tiriogaethol. Gwasanaethodd ar fwrdd Carisbrooke Castle, llong oedd yn cludo milwyr wedi'u clwyfo yn Ffrainc yn ôl i Loegr.
Ym mis Hydref 1915 cyhoeddwyd un o lythyrau Zillah ym mhapur newydd Y Llan; ynddo mae cyfeiriad at 'dri Cymro' a fu'n teithio ar fwrdd y llong. Yn ôl Zillah pan ddaeth y teithwyr i ddeall mai Cymraes oedd hi fe ddechreuodd y tri 'siarad ar unwaith' fel nad oedd modd iddi 'ddeall yr un gair o'r hyn ddywedent.'
Yn fuan wedyn, symudodd Zillah i'r 4th Northern General Hospital yn Lincoln lle bu'n gwasanaethu tan ddiwedd y rhyfel.
Carfan arall o ferched fu'n gofalu am filwyr yn ystod y rhyfel oedd gwirfoddolwyr Y Groes Goch. Ar drothwy'r Rhyfel Mawr roedd dros 6,000 o ferched yn perthyn i'r Groes Goch Brydeinig.
Fel aelod brwd o'r gangen a sefydlwyd yn Llanberis fe ymunodd Jennie Williams â'r VAD (Voluntary Aid Detachment) yn 1915.
Treuliodd gyfnodau yn gweithio mewn ysbytai milwrol yn Birmingham a Brighton cyn symud i ysbyty yn ardal La Havre yng ngogledd Ffrainc ym mis Hydref 1916. Goroesodd i weld diwedd y rhyfel, ond erbyn mis Ionawr 1919, roedd Jennie yn dioddef o niwmonia wedi pwl o'r ffliw. Bu farw yn Ffrainc yn fuan wedyn.
Merched y ffatrïoedd
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn sgil rhagfarnau ynghylch rôl y ferch mewn cymdeithas, roedd y Llywodraeth yn amharod iawn i ganiatáu merched i gefnogi'r ymdrech ryfel yn gyhoeddus ond wrth i grafangau rhyfel wasgu fe'i gorfodwyd i newid ei safiad. Ar 17 Mawrth 1915 apeliodd y Bwrdd Masnach ar ferched di-waith rhwng 16 a 65 oed i gofrestru ar gyfer 'gwasanaeth rhyfel.'
Yn dilyn yr apêl, dechreuodd miloedd o ferched weithio yn y ffatrïoedd ffrwydron a sefydlwyd ledled Cymru - o Abertawe i Gaernarfon, i Lanelli a Wrecsam.
Troswyd ffatri cynhyrchu peiriannau amaethyddol, Powell Bros, yn Wrecsam at ddefnydd cynhyrchu ffrwydron. Cynyddodd y gweithlu o 100 i 900 gyda dros dri chwarter o'r gweithwyr yn ferched. Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd dros 10,000 o belenni tân yn wythnosol.
Roedd gwaith ffatri yn hynod beryglus gyda damweiniau angheuol yn digwydd yn llawer rhy aml. Un ffrwydrad o blith nifer oedd yr un a laddodd Edith Copham, Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins mewn ffatri ym Mhen-bre, Caerfyrddin ym mis Tachwedd 1918.
Gwasanaeth cenedlaethol
Yn dilyn ymchwiliad gan Y Swyddfa Ryfel yn 1916 fe ddatgelwyd bod nifer o ddyletswyddau megis coginio, glanhau neu waith gweinyddol yn cael eu cyflawni gan filwyr. Er mwyn rhyddhau mwy o filwyr i wasanaethu yn y rheng flaen, penderfynwyd y dylid annog merched i gyflawni swyddi o'r fath trwy gyflwyno Gwasanaeth Cenedlaethol i ferched yn 1917.
Ymunodd Elsie Towyn Jones o Landybïe â'r Women's Army Auxiliary Corps (WAAC) ym mis Hydref 1917. Wedi cyfnod fel Swyddog Cludiant yn Ffrainc cafodd ei dyrchafu yn Swyddog Cyflenwi a bu'n gyfrifol am gyflenwi holl iwnifformau'r WAAC.
Roedd galw mawr ar ferched i gyflawni gwaith amaethyddol nôl yng Nghymru hefyd. Sefydlwyd Byddin Tir y Menywod neu'r WLA - Women's Land Army - ym mis Chwefror 1917 a'u prif nod oedd cynyddu cynhyrchiant bwyd yn ystod y rhyfel.
Gwau i'r milwyr
Ffordd arall yr aeth merched ati i gyfrannu yng Nghymru oedd trwy wau sgarffiau, sanau a menig ar gyfer milwyr. Daeth gwau yn weithgaredd cenedlaethol bron â bod, gyda merched o bob oed a chefndir yn cyfrannu.
Ar draws y bröydd llechi cafwyd ymgais i sefydlu 'diwydiant' gwau hosanau. Agorwyd yr ystafelloedd gweithio cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Gorffennaf 1915. Erbyn terfyn y Rhyfel roedd 68 o ferched wedi derbyn hyfforddiant a thros 100,000 o barau o sanau wedi cael eu cynhyrchu.
Yn Nyffryn Nantlle, troswyd ystafell y band yn Nhal-y-sarn at ddefnydd y merched lleol. Yno, ar gyfartaledd cynhyrchwyd 1,600 pâr o sanau yn wythnosol! Gwelwyd ymdrechion tebyg ym Methesda hefyd gyda 50 o ferched yn derbyn hyfforddiant rhwng 1916 a 1918 gan gynhyrchu dros 70,000 pâr o sanau.
Fel rheol, straeon y milwyr sy'n hawlio ein sylw ar Sul y Cofio gan olygu bod lleisiau a phrofiadau merched yn cael eu hanwybyddu gan amlaf er gwaethaf eu ymdrechion hollbwysig. Os am ddysgu mwy am brofiadau merched yn ystod y Rhyfel Mawr ewch draw i wefan Archif Menywod Cymru, dolen allanol.
Hefyd o ddiddordeb: