Galw am achub safle gwaith coed Meifod sy'n 'drysor'
- Cyhoeddwyd
Mae safle yn Ninbych sydd yn rhoi cyfle i bobl ag anableddau wneud gwaith pren yn "drysor" ddylai ailagor, yn ôl teuluoedd y rheiny sy'n ei ddefnyddio.
Mae'r awdurdod lleol yn ystyried dyfodol Cynnyrch Coed Meifod, sydd wedi bod ar gau ers dechrau'r pandemig.
Ymhlith yr opsiynau mae ailagor gyda llai o wasanaethau, rhoi'r ganolfan i sefydliad allanol, neu ei chau.
Mae teuluoedd wedi rhybuddio nad oes angen "newid rhywbeth sy'n gweithio mor dda".
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych, sydd yn rhedeg y safle, y byddai "cynlluniau cefnogi unigol" yn helpu i gefnogi defnyddwyr Meifod pe bai "unrhyw foderneiddio neu welliannau" yn cael eu cyflwyno.
Mae Eurwyn Davies, 64 o Lannefydd, wedi bod yn mynd i Meifod neu'r safle blaenorol ers ei fod yn 16 oed.
"Dyna ydy ei fywyd o wedi bod, roedd o'n mynd bob dydd ac wrth ei fodd yn mynd yna," meddai ei chwaer, Megan Thomas, sydd yn 74.
"Maen nhw fel un teulu mawr yna, i gyd yn edrych ar ôl ei gilydd.
"Aeth Eurwyn i lawr yn ofnadwy ar ôl i Meifod stopio - oedd o'n isel ofnadwy ac yn gwneud dim ond gorwedd ar y soffa yn torri'i galon.
"Dwi'n meddwl 'sa hi'n bechod 'san nhw'n ei gau o lawr. Dwi ddim yn gweld pam bod isio newid rhywbeth sy'n gweithio mor dda."
Yn ôl dogfennau'r cyngor, mae sawl rheswm dros newid y ddarpariaeth, gan gynnwys cwymp yn y nifer sy'n cael eu cyfeirio at Meifod a'r gostyngiad yn nifer y defnyddwyr cyn y pandemig.
Mae'r safle hefyd yn ddrytach i'w redeg na gwasanaethau amgen, ac mae pryderon hefyd ynghylch costau cynyddol pren a gwres.
Meifod yn 'drysor'
Ond mae'r lle yn "drysor" yn ôl Brenda Jones o Ruthun. Mae'n dweud bod ei mab 25 oed, Dewi, yn ei "nefoedd" ym Meifod.
"Does 'na ddim byd tebyg i Meifod, full stop.
"Mae gen i ffrindiau mewn siroedd eraill fuasai wrth eu bodd tasa'u plant nhw yn cael mynd i rywle fel Meifod.
"Yn hollol syml, mae Meifod yn em, ac mi ddylen nhw sylwi ei fod o… Mae'n cynnig be' sydd ddim i'w gael yn unlle arall."
Mae Brenda'n teimlo'n "chwerw iawn" am yr opsiynau sydd wedi eu cyflwyno gan y cyngor, ac a gafodd eu cyflwyno i'r teuluoedd mewn "ymarfer ymgysylltu" diweddar.
"Roedd angen opsiwn arall, ond chafodd hi mo'i chynnig," meddai. "Yr opsiwn arall fyddai agor Meifod fel oedd o cynt."
Mae hi'n credu bod mwy o alw am y gwasanaeth na'r hyn mae'r cyngor yn ei honni, gan ddweud bod "'na ddim gwaith yn y gymuned" fyddai'n addas i rai defnyddwyr Meifod.
Bydd cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried y mater ar 23 Tachwedd, ond mae pwyllgor craffu wedi argymell ei ailagor dan reolaeth y sir a buddsoddi mwy yn y safle.
"Dwi'n gobeithio wnawn nhw dderbyn yr argymhelliad am wariant sylweddol ar Meifod i'w ailagor o," meddai Brenda.
"Ac yn ail, dwi'n gobeithio wnawn nhw sylweddoli, os wnawn nhw ddod â phethau eraill i mewn i Meifod, mi fedran nhw'i ddifetha fo.
"Ydy, mae pren yn ddrud - ond mi fedrwch chi wario £1,000 ar bren ac fe gewch chi ddwywaith hynny yn ôl drwy greu dodrefn allan ohono fo."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn "gwybod cymaint mae'r gymuned yn gwerthfawrogi Meifod" wrth drafod ei ddyfodol.
"Rydym ni wedi gweithio gyda phobl oedd yn defnyddio Meifod, eu teuluoedd a chyfranddalwyr yn ystod y broses hon a byddwn yn parhau i gweithio gyda nhw wrth inni symud ymlaen," meddai.
Ychwanegodd y byddai "unrhyw foderneiddio neu welliannau" i'r gwasanaeth yn dod ochr yn ochr â "chynlluniau cefnogi unigol" fyddai'n "galluogi unigolion i ddelio ag unrhyw newidiadau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021