Dirwyon i ffermwyr am blannu coed dan gynllun llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ffermwyr sydd wedi plannu coed fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn dirwyon am dorri rheolau cynllunio.
Bu'n rhaid i un ffermwr dalu £15,000 wedi iddo gael e gyhuddo o dorri'r rheolau.
Mae hyn yn bygwth iechyd meddwl ffermwyr ac enw da'r cynllun, meddai NFU Cymru.
Dywedodd y llywodraeth bod yn rhaid casglu dirwyon pan nad yw amodau'r cytundebau yn cael eu cyrraedd.
'Teimlo fy mod wedi fy nhwyllo'
Mae cynllun Creu Coetir Glastir Llywodraeth Cymru'n cynnig grantiau sylweddol i ffermwyr blannu coed ar eu tir er mwyn cynyddu bioamrywiaeth ac atal effeithiau newid hinsawdd.
Mae hefyd yn rhan o'r cynllun i gael coedwig genedlaethol i ymestyn ar hyd a lled Cymru.
Bu'n rhaid i David Mills dalu dirwy o £15,000 eleni wedi iddo blannu 13,000 o goed ar 20 erw o'i dir pum mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Mr Mills, sy'n ffermio tir yn ardal Capel Isaf ger Aberhonddu, ddefnyddio contractwyr roedd y llywodraeth wedi eu cymeradwyo a grant gan Daliadau Gwledig Cymru i blannu'r coed.
Ond ddechrau'r flwyddyn, derbyniodd Mr Mills lythyr gan Daliadau Gwledig Cymru yn dweud ei fod wedi torri'r cynlluniau gwreiddiol - weithiau o 10cm yn unig - ac y byddai'n rhaid talu dirwy.
Dywedodd Mr Mills nad oedd unrhyw syniad ganddo fod yna broblem.
Cafodd y nifer cywir o goed eu plannu, meddai, a rhywun o Lywodraeth Cymru wnaeth gynllunio a chreu'r diagramau ar gyfer eu plannu.
Fe ddylai'r llywodraeth roi cymorth i ffermwyr blannu coed yn hytrach na'u cosbi am geisio helpu, meddai Mr Mills.
"Dwi wedi gofalu am goed unigol pan maen nhw wedi disgyn, weithiau dwi wedi treulio misoedd yn clirio eira fel bod modd iddyn nhw anadlu," meddai.
"Mi fyswn i wedi disgwyl cael fy nghymeradwyo, ond yn lle hynny, ges i ddirwy o £15,000."
Dywedodd Mr Mills y bu'n rhaid iddo dalu'r ddirwy yn syth am ei bod yn codi llog sylweddol.
Fe apeliodd yn erbyn y ddirwy ond roedd yn aflwyddiannus. Mae'n dweud fod ei holl ymdrechion i gysylltu â Llywodraeth Cymru a Thaliadau Gwledig Cymru wedi cael eu hanwybyddu.
"Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi cael fy nhwyllo," meddai Mr Mills.
"Rydw i eisiau cynyddu bioamrywiaeth - dydw i ddim yn gwneud hyn am unrhyw reswm heblaw fy mod i'n poeni am y peth."
Mwy na chosb ariannol
Mae NFU Cymru, sy'n cefnogi apêl Mr Mills, yn dweud eu bod yn cynrychioli dau ffermwr arall yn yr un sefyllfa.
Gall cosbi ffermwyr fel hyn ddarbwyllo eraill rhag cymryd rhan yn y cynllun, meddai Stella Owen, ymgynghorydd sirol i'r NFU.
"Dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw beth ar gyfer iechyd meddwl y ffermwr," ychwanegodd Ms Owen.
Mae Llywodraeth Cymru'n anelu at blannu 4,900 erw o goed bob blwyddyn, gan obeithio i ddyblu hyn i 9,800 y flwyddyn "cyn gynted â phosib".
Os yw'r llywodraeth am i ffermwyr gymryd rhan, dywedodd Ms Owen y dylai'r cynllun gael ei symleiddio i ganiatáu newidiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ganddynt "rwymedigaeth statudol i orfodi rheolau'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch casglu taliadau pan nad ydy amodau'r cytundeb wedi eu cyrraedd."
Ychwanegodd nad oedd modd gwneud sylw pellach ar achos Mr Mills gan fod ganddo dal hawl i apelio, ond eu bod yn adolygu rheolau presennol y cynllun Glastir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021