£1.3m o grantiau plannu coed wedi mynd tu allan i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod £1.3m o grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun plannu coed wedi mynd at gyfeiriadau y tu allan i Gymru.
Mae cynllun Creu Coetir Glastir yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer buddsoddi i greu coetir newydd.
Dros y misoedd diwethaf, mae BBC Cymru wedi tynnu sylw at sawl enghraifft benodol o gynlluniau posib lle mae cwmnïau yn bwriadu prynu ffermydd gyda'r bwriad o blannu coed.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Cefin Campbell mai "nid lle Llywodraeth Cymru... yw llenwi pocedi cwmnïau rhyngwladol wedi eu lleoli yn Llundain".
Mae'n poeni hefyd am yr effaith mae plannu coed ar dir fferm yn ei gael ar gymunedau Cymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ffigyrau dan sylw yn "cynnwys elusennau coetir ledled y DU sydd â gweithwyr yng Nghymru ond cyfeiriadau i'w prif swyddfa y tu allan i Gymru".
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) sydd wedi dod i law Newyddion S4C yn dangos bod £1,306,561 wedi mynd i gwmnïau sydd â'u cyfeiriadau y tu hwnt i Glawdd Offa ers cyflwyno'r grantiau cyntaf yn 2015.
Mae hynny'n cynrychioli 14% o'r holl arian sydd wedi ei neilltuo fel rhan o'r cynllun Creu Coetir Glastir.
Yn ystod y cyfnod o gyflwyno grantiau ym mis Ebrill 2019, aeth chwarter y grantiau allan o Gymru.
Yn ystod mis Mawrth y llynedd, unwaith eto, cyfeiriadau y tu hwnt i'r ffin oedd yn derbyn dros 20% o'r arian.
"Dyma gadarnhau ein hofnau," meddai Mr Campbell, "bod arian cyhoeddus, trwy'r cynllun 'Creu Coetir Glastir' yn llifo dros y ffin o Gymru i bocedi mentrwyr rhyngwladol sy'n gyfrifol am gymryd tir amaeth Cymreig er mwyn gwneud yn iawn am eu hôl troed carbon.
"Mae arian sydd wedi ei glustnodi drwy Glastir fod i gefnogi ffermwyr yng Nghymru," ychwanegodd llefarydd amaeth a materion gwledig Plaid Cymru.
"Ma' nhw'n wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd, ma' gwir angen y gefnogaeth ar ffermwyr Cymru."
'Coed o flaen pobl'
Ychwanegodd: "Nid lle Llywodraeth Cymru yn fy marn i yw llenwi pocedi cwmnïau rhyngwladol wedi eu lleoli yn Llundain.
"Beth y' ni'n weld yw ffermydd cyfan yn cael eu prynu er mwyn plannu coed.
"Be mae hynny'n olygu yw bod coed yn dod o flaen pobl a bod diboblogi cefn gwlad yn dod yn fater difrifol iawn ac mae'n gwedd newid natur ein cymunedau ni ac yn fygythiad i'r iaith Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni eisiau cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir Cymru i blannu mwy o goed, a hynny ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd.
"Rydym wedi sefydlu gweithgor i ystyried sut y gallwn sicrhau nad yw creu coetir yn tarfu ar gymunedau a phatrymau perchnogaeth tir presennol.
"Rydym yn ymwybodol iawn o'r pryder ynghylch nifer fach o ffermydd yn cael eu gwerthu i gronfeydd buddsoddi y tu allan i Gymru i greu coetir. Nid ydym yn credu bod y ffigurau hyn yn dangos hynny.
"Mae'r ffigyrau hyn yn cynnwys elusennau coetir ledled y DU sydd â gweithwyr yng Nghymru ond cyfeiriadau i'w prif swyddfa y tu allan i Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020