Eisteddfod AmGen 2021 'fel Prifwyl arferol, ond heb gae'
- Cyhoeddwyd
Bydd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud "popeth yn eu gallu" i ddychwelyd i faes traddodiadol yn 2022, yn ôl prif weithredwr y Brifwyl.
Ond awgrymodd Betsan Moses y bydd yn rhaid gwneud newidiadau i'r maes yn sgil y pandemig coronafeirws.
Cafodd y Steddfod ei gohirio am yr eildro ym mis Ionawr yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y bwriad bellach ydy cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 ac Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.
"Wrth gwrs mae pawb yn awchu i fynd yn ôl i'r cae," meddai Betsan Moses wrth Cymru Fyw ar drothwy Eisteddfod AmGen, sy'n dechrau ddydd Sadwrn.
"Yr unig beth sydd ar goll [eleni] yw'r sgwrsio yna ar y maes a chwrdd ag hen ffrindiau, felly mi 'newn ni bopeth yn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n gwireddu gŵyl yn 2022."
Awgrymodd y gallai'r ŵyl y flwyddyn nesaf fod yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ond y byddai'r trefnwyr yn "gwrando ar gynulleidfaoedd".
"Mae'n edrych yn gadarnhaol. Mi fydd 'na ŵyl ond falle fydd 'na newidiadau a hynny er mwyn diogelwch pobl ond hefyd o ran rhoi gwell profiad iddyn nhw.
"Dy'n ni ddim allan o'r gwaetha' achos bellach ma' angen ffeindio beth yw'r gost o fyw gyda Covid."
Bydd cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn dod i ben bron yn llwyr o ddydd Sadwrn, 7 Awst.
Os fydd amgylchiadau'n caniatáu, bydd dim rheolau ar faint o bobl allai gwrdd tu fewn na thu allan, a bydd canllaw i gadw pellter cymdeithasol yn cael ei ddileu.
Ond dywedodd Ms Moses bod yn rhaid i gytundebau a chynlluniau ar gyfer trefnu Eisteddfod y flwyddyn nesaf fod yn eu lle chwe mis cyn y digwyddiad. Bydd cyfarfod dros yr hydref i drafod gŵyl 2022.
'Pwysig gwrando'
"Does neb yn gwybod sut fydd pobl yn ymateb i'r holl gyfyngiadau'n llacio," meddai.
"Dy'n ni ddim yn gwybod eto beth fydd goblygiadau'r drydedd don. Fyddwn ni'n gofyn i gynulleidfaoedd sut maen nhw'n teimlo am bethau.
"Mae hynny'n rhywbeth ry'n ni wedi'i wneud ar hyd yr amser. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar ein cynulleidfaoedd."
Dydd Sadwrn, bydd Eisteddfod AmGen - fersiwn rithiol o'r Brifwyl - yn cychwyn gydag Eisteddfod Gudd - "gŵyl gerddoriaeth rithiol fwyaf erioed i'w chynnal yn y Gymraeg" gyda bron i 15 awr o gerddoriaeth yn cael ei ffrydio'n fyw.
Mae nifer fach o docynnau hefyd wedi'u gwerthu i wylio'r perfformiadau'n fyw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Ymysg y rheini sy'n perfformio y mae Eden, Alffa, criw Welsh at the West End, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub, gyda sesiynau ar leoliad gan Bryn Fôn a'r Band, Huw Chiswell, Kim Hon, Lily Beau a mwy.
"Y llynedd oedden ni'n ymwybodol iawn bod 'na wacter mawr felly oedden ni wedi rhedeg yr ŵyl ar hyd y misoedd yn arwain at wythnos yr Eisteddfod," meddai Ms Moses.
"Mae'n Steddfod arferol mewn gwirionedd, ond does 'na ddim cae. Mae 'na elfen o bobl yn dod at ei gilydd drwy'r llwyfan sydd ar y penwythnos agoriadol.
"Bydd seremonïau Gorseddol hefyd - wrth gwrs y byddan nhw'n wahanol ond mi fydd ganddyn nhw'r un parch a'r bri.
"Mae'n hyfryd ein bod ni'n gallu creu rhywbeth fydd yn wahanol ond fydd yr un mor unigryw."
Hyd yn oed cyn i'r pandemig daro, cafodd Maes B ei ohirio yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019 oherwydd y tywydd garw.
Mae'n golygu bod llawer o do ifanc y Steddfod wedi'u hamddifadu o dair blynedd o Faes B - un o brif atyniadau'r genhedlaeth iau yn y Brifwyl.
"I fi y flaenoriaeth yw creu ar gyfer y bobl ifanc achos mae hi wedi bod yn echrydus i bawb dros y cyfnod diwethaf ond hyd yn oed yn fwy fyth i bobl ifanc achos dros nos mae eu rhwydweithiau nhw o ran ysgol, cymuned, popeth wedi cael ei chwalu," meddai Betsan Moses.
"Mae Maes B yn un o'r arfau hollbwysig yna o ran chwalu'r ystrydeb o beth yw bod yn Gymraeg felly byddwn ni'n sicrhau y bydd yn dychwelyd."
Mae'r Eisteddfod eisoes wedi gorfod cwtogi ar nifer y staff llawn amser - o 13 i lawr i saith.
"Mae'r dyfodol tymor byr a'r tymor canolig yn ansicr. Wrth i gyfyngiadau lacio mae'r gynulleidfa dal yn bryderus," meddai Ms Moses.
"Mae 'na gymaint o gwestiynau o ran y costau ychwanegol a hefyd beth fydd yr incwm. Mae 'na oblygiadau o ran busnesau yn noddi a bydd yn rhaid i ni edrych ar ffynonellau incwm amgen.
"Mae'n rhaid i ni feddwl be' allwn ni wireddu - fel bod pethau'n edrych fel Steddfod ond bod y costau ddim yn dyblu.
"Pan ddaw Tregaron yn 2022, bydd hynny dair blynedd yn ddiweddarach [i'r dyddiad gwreiddiol] - bydde neb isie rhaglen tair blynedd yn ôl achos mae pethau wedi newid.
"Fel arfer bydde ganddo ni 15 neu 17 i wireddu Eisteddfod. Ni ddim am fynd nôl i'r hen achos mae'r ansicrwydd yn parhau - gymrith hi flwyddyn neu ddwy i weld beth yw'r strwythur fyddwn ni angen ar gyfer y dyfodol.
"Tan ein bod ni dros y gwaetha', mae'n rhaid i ni sylweddoli bod rhaid i ni weithredu o fewn yr arian sydd gynnon ni."
O ystyried hynny, felly, a fydd y Steddfod fyth yr un fath eto?
"Na fydd. Ond er tegwch, dyw'r un Steddfod yr un fath â'r un gynt," meddai Ms Moses.
"Ma'n rhaid ni gofio bod 'na dlodi digidol yng Nghymru felly yr hyn do'n i ddim eisiau ei 'neud oedd mynd yn ddigidol bur ac o'r herwydd bydda rhai o'n cynulleidfa craidd ni ddim yn gallu cael unrhyw fynediad i'r Steddfod.
"Dwi'n credu mai'r hyn ma' Covid wedi'i 'neud yw gwthio ni i sylweddoli mai nid jest cyfathrebu wyt ti drwy'r elfen ddigidol.
"Dwi'n meddwl bod y celfyddydau drwyddi draw wedi bod yn defnyddio'r digidol ar gyfer cyfathrebu ond ddim wirioneddol wedi gweld gwir potensial o ran rhannu cynnwys a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
"Ni wedi trio sicrhau bod y profiad digidol cystal - yn wahanol - ond cystal â'r profiad byw. Y sialens wrth fynd yn ôl i gae yw fel wyt ti'n cadw dy gynulleidfa ar hyd y byd yn rhan o'r digwyddiad.
"Ma' pawb wedi hen 'laru ar Zoom felly mae'n rhaid iddo fe fod yn hwyl. Mae'n rhaid i'r bobl yma fod yn rhan o'r sgwrs."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021