Disgwyl diwrnod prysur wrth i Gymru herio De Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gaerdydd fod yn brysur unwaith eto y penwythnos hwn wrth i Gymru groesawu De Affrica i Stadiwm Principality.
Bydd y gic gyntaf am 17:30 ddydd Sadwrn, gyda nifer o ffyrdd ynghau yng nghanol y ddinas rhwng 13:30 a 20:30 er mwyn sicrhau bod pob cefnogwr yn gallu cael mynediad i'r stadiwm mewn da bryd.
Bydd yn rhaid i'r holl gefnogwyr gyflwyno pàs Covid dilys er mwyn cael mynediad i'r gêm.
Mae penaethiaid Stadiwm Principality wedi pwysleisio yr wythnos hon fod yn rhaid gwisgo mygydau yn y stadiwm oni bai eich bod yn eich sedd.
Mae disgwyl y bydd dros 100,000 o bobl yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn, gyda gorymdaith newid hinsawdd wedi'i threfnu hefyd.
Bydd gorymdeithiau yn cael eu cynnal mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru a'r DU wrth i arweinwyr y byd gwrdd yn Glasgow ar gyfer cynhadledd newid hinsawdd COP26.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd "pob cerbyd sydd ar gael" yn cael ei ddefnyddio ddydd Sadwrn o amgylch y brifddinas.
Ond ychwanegon nhw "ni fydd ymbellhau cymdeithasol yn bosib ar y mwyafrif o wasanaethau ac rydym yn annog cwsmeriaid i gymryd hyn i ystyriaeth".
Mae gwybodaeth lawn am ba ffyrdd fydd ar gau a pha drefniadau eraill fydd mewn lle ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.
Ellis Jenkins yn dychwelyd
Seland Newydd oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, ac yn dilyn y gêm yn erbyn De Affrica bydd Ffiji ac Awstralia yn cael eu croesawu i'r brifddinas ar 14 a 20 Tachwedd.
Mae gan Gymru record dda yn erbyn De Affrica yn ddiweddar, gyda'r crysau cochion wedi ennill pump o'r saith gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad.
Ond y Springboks oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd, yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd Japan yn 2019 - cystadleuaeth yr aeth De Affrica ymlaen i'w hennill.
Ar y cae, bydd Ellis Jenkins yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers tair blynedd wrth i Gymru herio'r tîm sydd ar frig detholion y byd.
Mae'r blaenasgellwr yn un o chwe newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Seland Newydd, gyda Rhys Carre a Will Rowlands hefyd yn ymuno â'r pac.
Jenkins, 28, oedd seren y gêm yn erbyn De Affrica wrth i Gymru eu trechu 20-11 ym mis Tachwedd 2018, cyn iddo gael anaf difrifol i'w ben-glin yn y munud olaf.
Bydd Dan Biggar, Louis Rees-Zammit a Nick Tompkins hefyd yn dechrau yn erbyn y Springboks, tra bod Jonathan Davies yn gapten yn absenoldeb Alun Wyn Jones.
Mae dau flaenwr ar y fainc allai ennill eu capiau cyntaf - y prop WillGriff John a'r bachwr Bradley Roberts, a gafodd ei eni yn Durban yn Ne Affrica ond sy'n gymwys i chwarae dros Gymru am fod ei nain yn dod o Landysul.
Dydy gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref ddim yn fyw ar S4C eleni yn dilyn cytundeb gyda chwmni Amazon Prime.
Yn 2020 roedd gemau Cymru yn fyw ar Prime ac S4C, ond eleni uchafbwyntiau yn unig fydd gan S4C, a hynny rhyw awr wedi'r chwiban olaf.
Mae'r gemau ar gael gyda sylwebaeth iaith Gymraeg ar Prime.
Cyhoeddodd y BBC ac S4C ddydd Gwener y bydd gemau tîm merched Cymru yr hydref hwn - yn erbyn Japan, De Affrica a Chanada - yn cael eu darlledu'n fyw, gyda'r gyntaf ar S4C a'r ddwy arall ar y BBC.
Tîm Cymru
Johnny McNicholl; Louis Rees-Zammit, Jonathan Davies (c), Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Bradley Roberts, Wyn Jones, WillGriff John, Ben Carter, Seb Davies, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Liam Williams.
Tîm De Affrica
Damian Willemse; Jesse Kriel, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Handré Pollard, Herschel Jantjies; Ox Nché, Bongi Mbonambi, Trevor Nyakane, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (c), Kwagga Smith, Duane Vermeulen.
Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Franco Mostert, Jasper Wiese, Cobus Reinach, Elton Jantjies, Frans Steyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021