Diamynedd gyda ‘siarad’ am achub y byd ar ôl bron â marw
- Cyhoeddwyd
Er iddo fod yn paratoi ers dwy flynedd i fynd i gynhadledd amgylcheddol y byd dydi Keith Jones ddim yn teimlo'n rhwystredig am fethu bod yno - mae'n teimlo'n lwcus ei fod o'n fyw.
Fel arbenigwr newid hinsawdd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn arferol byddai wedi bod yng nghanol y miloedd sy'n COP26 yn Glasgow, ond edrych ar y penawdau o bell mae o nawr yn ei gartref ger Deiniolen.
Ar 22 Gorffennaf, gyda'r paratoadau olaf yn cael eu gwneud, cafodd ei daro'n wael a'i ruthro i'r ysbyty yn Lerpwl ac aeth o ddim adref tan ganol mis Medi.
Rhuthro i'r ysbyty
"Nes i ddechrau cael cur yn fy mhen," meddai wrth gofio'n ôl. "Roedd cefn fy ngwddw yn dechrau brifo, a ro'n i'n sâl - 20 o weithia' nes i daflu i fyny. Ffoniais linell doctor 111, a hanner ffordd drwy'r sgwrs dyma hi'n dweud 'dos i'r ysbyty - rŵan!'
"Y peth ydi roedd Mam wedi cael union yr un peth 34 o flynyddoedd yn ôl. Dwi'n cofio hi'n gafael cefn ei phen a dwi'n cofio hi'n taflu fyny. Wnaeth hi orffen fyny yn Walton a wnaeth hi farw."
I Ysbyty Niwrolegol Walton aeth Keith hefyd ar ôl i brofion yn Ysbyty Gwynedd ddangos bod ganddo waed ar yr ymennydd, yn union fel ei fam.
"Dwi'n cofio mynd trwy ddrysau Walton a dyna fo, dwi'm yn cofio dim byd wedyn - y peth nesa' dwi'n cofio ydi deffro tair wythnos wedyn," meddai.
Yn ffodus, roedd y driniaeth - oedd yn golygu bod y meddygon yn cyrraedd yr aneurysm yn yr ymennydd drwy wthio tiwb i fyny'r goes a'r galon - yn llwyddiannus. Ond o fewn deuddydd roedd ei fywyd yn y fantol unwaith eto. Roedd wedi cael gwenwyn y gwaed. Cafodd ei wraig Ffion alwad brys i ddod â'r teulu i Lerpwl i'w weld o.
"Yn Saesneg y geiriau oedd 'he's very, very ill' a phan gyrhaeddodd hi dyma nhw'n dweud 'there's a chance he could die'. Adeg yma roedd fy mol i ar agor am ddyddiau - oherwydd straen y sepsis ar y corff doeddan nhw methu cario 'mlaen efo'r driniaeth. Felly ddaeth y plant i mewn i ddeud ta ta i Dad mwy neu lai."
Sepsis
Aeth y sepsis i mewn i'w iau ac arennau, ac i'r coluddyn mawr - ac roedd rhaid torri rhan ohono. Fe wnaeth meddygon hefyd ddarganfod cystiau (cysts) ar ei arennau a'i iau all arwain at drawsblaniad yn y dyfodol. Ar ben hynny fe gafodd yr haint C Difficile, strôc, a cholli 20kg - chwarter ei bwysau.
Ar ôl wythnosau o driniaeth a gofal fe wellodd a chafodd fynd adref ganol Medi.
Mae Keith yn diolch i bawb yn y gwasanaeth iechyd am ei helpu ac mae'n wynebu blynyddoedd o driniaeth a monitro. Gyda rhan o'i goluddyn mawr wedi ei dynnu, mae gwastraff ei gorff rŵan yn mynd i fag stoma sydd ar ei fol; gan fod ei iau yn cynhyrchu llai o gelloedd coch mae ei galon yn pwmpio ddwywaith yn gynt i gael yr ocsigen o gwmpas ei gorff; mae wedi newid ei ddiet gan nad ydi ei gorff yn gallu dygymod â phethau fel ffibr.
Ond mae'n dweud bod dau beth wedi ei helpu i wella: mae'n bengaled ac mae'n hoff iawn o fynydda.
Meddai: "Nes i gerdded pum milltir y dydd o'r blaen - gan feddwl do'n i ddim ond yn gallu symud fy nhroed modfedd pan nes i ddeffro yn yr adran gofal dwys ganol Awst.
"Ro'n i'n eitha' heini cyn mynd mewn achos ro'n i'n mynydda dwywaith yr wythnos. A dwi'n methu hynny rŵan."
Ac ar ôl profiad mor erchyll, mae mwy nag effaith corfforol.
"Nes i ddim delio yn iawn gyda fo i ddechrau," meddai. "Yn yr ysbyty ro'n i'n siarad efo seicolegydd oedd yn deud bod gen i guilt uffernol.
"Dwi'n gwybod dim bai fi ydi o, ac mai pethau sydd wedi digwydd i fi, ond ro'n i'n meddwl 'dwi wedi rhoi'r teulu drwy uffern', ac er sna'm byd faswn i wedi gallu gwneud am y peth, mae'r meddwl yn gallu bod yn afresymol pan ti mewn sefyllfa fel yna ar ôl trawma. Bob tro o'n i'n meddwl am y teulu o'n i'n crio, trwy'r amser."
'Alla i gyfiawnhau peidio gwneud hyn?'
A'i deulu, ac yn benodol dyfodol ei blant, ydi'r rheswm bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn rhan ganolog o'i fywyd ers cyhyd.
Mae Keith, sy'n llais cyfarwydd ar raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru, wedi bod yn gweithio yn y maes amgylcheddol ers blynyddoedd.
"Bob dim dwi'n gwneud efo'r amgylchedd dwi'n gwneud o drwy feddwl 'be' fydd effaith peidio gwneud hyn ar fy mhlant yn y dyfodol? Alla i gyfiawnhau peidio ei wneud o?'," meddai.
"Dw i'n canolbwyntio ar be' dw i'n gallu 'neud. Ydw i'n gallu helpu achub yr arth wen? Nachdw yn uniongyrchol, felly paid â thrio, ond ydw i'n gallu rhoi switch off i'r golau pan dwi ddim yn y stafell? Yndw. Ydw i'n gallu insiwleitio'r tŷ a gyrru llai? Yndw. Felly ti'n gorfod ei wneud o."
Ar ôl bod i gynadleddau COP ym Mharis, Bonn a Marrakesh, byddai wedi bod wrth ei fodd yn dysgu a rhannu gwybodaeth yn Glasgow, ond mae 'na bethau gwaeth na pheidio bod yno.
"Ydw i'n rhwystredig? Na - dwi'n falch o fod yn fyw. Mae persbectif yn ddiddorol. Nes i weld yr haul yn codi 'chydig o ddyddiau yn ôl. Fasa'n well gen i fod yn Glasgow neu sa'n well gen i fod yn fyw yn fama yn edrych ar y wawr? Opsiwn dau oedd orau gen i."
Angen gwneud mwy yn COP26
Mae wedi bod yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac yn gyndyn o roi sêl bendith i rai o'r penawdau positif oherwydd profiad y gorffennol.
"O'n i yn y gynhadledd ym Mharis ac roedd pawb yn deud 'dyda ni gyd yn wych', ond wnaeth 'na ddim byd ddigwydd go iawn," meddai.
"Yn y gwneud mae llwyddiant, dim yn y siarad am wneud. Pan maen nhw'n deud yn Glasgow 'mae 40 gwlad wedi deud eu bod nhw am stopio defnyddio glo', ti'n holi 'be' am y rhai sy'n defnyddio mwya' o lo?', ac maen nhw'n deud 'o na dydi nhw heb gytuno eto'. O reit, ai piso dryw oddi ar Ben Llŷn ydi hwn felly?"
Mae'n feirniadol o'r rhai sydd efo'r grym i wneud penderfyniadau ar bob lefel - o awdurdodau lleol i lywodraethau gwledydd - am ganmol eu hunain ar lwyddiannau, ac ar yr un pryd anwybyddu methiannau llawer mwy. Mae'n rhoi'r enghraifft o roi caniatâd cynllunio i bwerdai a diwydiannau cynhyrchu llygredig wrth ymfalchïo am fod ar frig yn y tabl ailgylchu.
"Ia, well done, well done," meddai. "Ond fyddwn ni'n ailgylchu mewn byd eithriadol o boeth a stormus efo dŵr ymhobman ac wedyn dim dŵr o gwbl. Dyna'r broblem ar y funud - 'da ni'n canolbwyntio ar y peaks of excellence ond mae gweddill y mynydd iâ yn mynd ymlaen business as usual."
Ac wrth drafod, mae'n dod i'r amlwg efallai bod un sgil effaith positif wedi dod o'i waeledd.
"Dwi'm yn gwybod am faint o amser dwi'n mynd i fod yn fyw ar y blaned yma, ond dwi yn gwybod bod bywyd yn rhy fyr ac mae pethau yn gallu digwydd i bobl - ac mae hynny'n rhoi persbectif i chdi.
"Felly un peth sydd wedi digwydd ers fy salwch i ydi bod fy ngoddefgarwch i - tolerance fi - o bethau mae pobl yn ddweud maen nhw am ei wneud yn isel iawn ar y funud. Maen nhw'n gorfod gwneud."