Swyddogion o bosib â rôl ym marwolaeth ceisiwr lloches
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor mewn cwest i farwolaeth ceisiwr lloches yng Nghasnewydd wedi dod i'r canlyniad y gallai ymddygiad swyddogion mewnfudo fod wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Fe wnaeth Mustafa Dawood, 23, ddioddef anafiadau i'w ben ar ôl disgyn o do busnes golchi ceir tra'n cael ei erlid gan swyddogion.
Roedd wedi bod yn gweithio yn anghyfreithlon yn y busnes golchi ceir yng Nghasnewydd pan fu cyrch ar y safle gan swyddogion mewnfudo ym mis Mehefin 2018.
Roedd Mr Dawood wedi ffoi rhag erledigaeth yn Swdan, ond roedd ei gais am loches yn y DU wedi cael ei wrthod gan y Swyddfa Gartref.
Diffyg cyfathrebu rhwng swyddogion
Yn y cwest yng Nghasnewydd daeth y rheithgor i'r casgliad nad oedd y neges wedi cael ei basio ymlaen i'r holl swyddogion yn effeithiol na ddylid erlid Mr Dawood.
Penderfynwyd hefyd na wnaeth swyddogion symud yn ddigon pell oddi wrth Mr Dawood, ac na ddylai un swyddog fod wedi dal ei faton dros ei ysgwydd fel petai ar fin ei daro.
Daeth y rheithgor i'r casgliad hefyd nad oedd y swyddogion wedi'u hyfforddi'n briodol ar sut i erlid person.
Roedd y materion hyn o bosib wedi cyfrannu at farwolaeth Mr Dawood, meddai'r rheithgor.
Dywedodd y Crwner Caroline Saunders y byddai'n ysgrifennu at bennaeth y gwasanaeth am nad oedd hi wedi cael gwybod bod unrhyw newidiadau wedi'u cyflwyno i'r polisi erlid.
Fe wnaeth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) gyfres o argymhellion i'r Swyddfa Gartref yn sgil y farwolaeth, ac fe gafodd y cyfan eu derbyn.
Clywodd Llys Crwner Gwent fod swyddogion mewnfudo wedi cyrraedd y busnes golchi ceir toc wedi 10:00 ar 30 Mehefin 2018 wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau fod pobl yn gweithio yno'n anghyfreithlon.
Fe wnaethon nhw erlid Mr Dawood, wnaeth ffoi i do warws am ei fod yn credu y byddai'n cael ei arestio.
Dywedodd y swyddog oedd yn gyfrifol am y cyrch, Matthew Day ei fod wedi cynghori gweddill y swyddogion i beidio ag erlid Mr Dawood oherwydd pryder am ei ddiogelwch.
Ond fe ddywedodd swyddogion eraill nad oedden nhw'n cofio derbyn gorchymyn i atal yr ymdrech.
'Ei yrru adref - nid ei arestio'
Tra'n rhedeg i ffwrdd fe wnaeth Mr Dawood ddisgyn trwy'r to plastig i ystafell islaw, ble cafodd ei ddarganfod yn farw o ganlyniad i anafiadau i'w ben.
Dywedodd un o'r swyddogion oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw, Gregory Williams y byddai Mr Dawood wedi cael ei yrru adref - nid ei arestio - ac y byddai'r busnes wedi cael dirwy.
Ychwanegodd Mr Williams na fyddai Mr Dawood wedi cael ei yrru yn ôl i Sudan oherwydd y sefyllfa yno.
Dywedodd cyfarwyddwr Cymru'r IOPC, Catrin Evans fod marwolaeth Mr Dawood yn "ofnadwy o drist", ond bod eu hadolygiad wedi dod i'r casgliad nad oedd modd rhagweld ei farwolaeth am ei fod wedi rhedeg i ffwrdd yn syth wedi i'r swyddogion gyrraedd.
"Daeth ein hymchwiliad i'r casgliad fod ymddygiad y swyddogion yn gyffredinol o fewn y polisïau ac ni wnaeth yr un swyddog ymddwyn mewn modd fyddai'n arwain at gamau disgyblu," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018