Bygwth gwahardd plant o'r ysgol am greu fideos TikTok

  • Cyhoeddwyd
TikTok

Fe allai plant sy'n creu fideos TikTok ar dir ysgol mewn dwy sir yn y gogledd gael eu gwahardd o'r dosbarth.

Mae cynghorau sir Conwy a Dinbych wedi ysgrifennu at rieni yn rhybuddio y gallai'r heddlu gael eu galw mewn rhai achosion.

Daw yn sgil pryderon bod plant yn dilyn esiamplau eraill ar yr ap rhannu fideos, ac yn creu deunydd anaddas.

Ymhlith y fideos sy'n cael eu rhannu mae rhai yn annog plant i daro athrawon neu ddifrodi adeiladau'r ysgol.

Mae rhai yn creu cyfrifon ysgol ffug ac yn rhannu deunydd anaddas arnynt.

Mae'r cynghorau wedi gofyn i rieni edrych ar gyfryngau cymdeithasol eu plant a sicrhau fod unrhyw ddeunydd perthnasol wedi ei ddileu.

'Ni ddylai plant saith oed fod ar TikTok'

"Yn amlwg rydyn ni'n deall fod plant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ond dydyn ni ddim am i unrhyw un ddioddef oherwydd hyn," meddai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts o Gyngor Sir Ddinbych.

"Rydyn ni'n cefnogi ein hysgolion uwchradd ac yn pwysleisio i ysgolion gynradd na ddylai plant mor ifanc a saith fod ar TikTok."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

"Yn amlwg dydy hi ddim yn addas i recordio pobl heb iddyn nhw wybod, ac os taw dyma'r math o beth sy'n digwydd, rydw i'n cefnogi ysgolion wrth iddynt fynd i'r afael â hyn.

"Mae'r cyfyngau cymdeithasol yn broblem barhaus i'n cymdeithas. Rydw i'n ddiolchgar fy mod i wedi tyfu lan heb ffôn symudol a phan nad oedd cyfryngau cymdeithasol yn broblem."

Yn eu llythyr at rieni, dywedodd y cynghorau y byddai ysgolion yn parhau i fonitro'r cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf ac yn gweithredu lle mae'n briodol.

Pynciau cysylltiedig