Gallai cwmnïau mawr sy'n plannu coed 'ddifrodi' natur
- Cyhoeddwyd

Mae Thomas Crowther ar rhestr fer gwobr Earthshot, sy'n cydnabod dyfeisgarwch allai achub y blaned
Mae cwmnïau mawr sy'n prynu ffermydd yng nghefn gwlad Cymru er mwyn plannu coed wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio'r tir i "liniaru eu heuogrwydd" am allyriadau.
Mae Thomas Crowther, sydd ar y rhestr fer am wobr Earthshot, hefyd yn rhybuddio y gallai plannu llawer o'r un math o goed ar ddarnau o dir fod yn "beryglus" i natur.
Yn ddiweddar, mae nifer o ffermydd yn y canolbarth wedi cael eu prynu gan gwmnïau buddsoddi mawr ar gyfer cynlluniau plannu coed.
Ond dywedodd y gwyddonydd bod angen gwarchod y tir er mwyn i natur wella yno.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ac wedi galw ar bobl Cymru i blannu coed yn eu gerddi os yn bosibl, mae cynlluniau cwmnïau mawr i wneud hyn ar raddfa fawr er mwyn mantoli allyriadau carbon wedi arwain at bryderon y bydd cymunedau'n cael eu "dinistrio".

Ynghyd â difrod ecolegol posib, mae pryderon y gallai colli tir amaethyddol niweidio cymunedau gwledig
Mae Mr Crowther, a gafodd ei fagu ym Mhrestatyn, ar y rhestr fer am wobr Earthshot - gwobr sy'n cydnabod dyfeisgarwch allai achub y blaned - am sefydlu Restor, platfform ar-lein sy'n cysylltu pobl sydd am weithio ar brosiectau natur.
Mae wedi beirniadu corfforaethau mawr sy'n prynu ffermydd yng nghefn gwlad Cymru er mwyn plannu coed.
Dywedodd: "Nid mater o liniaru euogrwydd [am allyriadau] ddylai hyn fod... fe fyddai hynny'n gam trychinebus i newid hinsawdd."
Wrth siarad yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, dywedodd y gallai colli bioamrywiaeth fod yn fwy o fygythiad na newid hinsawdd i'r blaned.
"Os fyddwn ni'n achub yr hinsawdd ond yn colli natur, mae hynny'n dal i olygu planed nad oes modd byw arno," meddai.

Bu Tom Crowther, sydd hefyd yn ymgynghorydd ecoleg i'r Cenhedloedd Unedig, yn annerch cynhadledd COP26
Ychwanegodd ei bod yn dod yn fwy eglur bod ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y blaned i 1.5 gradd yn dibynnu ar wneud llawer mwy i adfer byd natur.
Yn ei ymchwil mae Mr Crowther wedi amcangyfrif bod tua 3.04 triliwn o goed ar y Ddaear - 46% yn llai na phan ddechreuodd amaethyddiaeth rhyw 12,000 o flynyddoedd yn ôl.
Arweiniodd hynny at ymgyrch i blannu coed, ond mae Mr Crowther yn pwysleisio ei bod yn bwysig i bobl "ddeall nad mater o blannu coed yn unig yw hyn".
"Yn y mwyafrif o achosion," meddai, "yr hyn y byddwn yn gwneud go iawn yw gwarchod talpiau mawr o dir... mae angen gwarchod tua thraean o arwynebedd y ddaear fel y gall natur adfer a thyfu'n naturiol."
Fe wnaeth adroddiad diweddar gan reoleiddwyr amgylchedd yng Nghymru ganfod fod bron hanner y safleoedd lle mae natur wedi'i warchod ddim yn cael eu monitro oherwydd diffyg cyllid.
Yn y mannau lle'r oedd y wybodaeth ar gael, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod 60% o'r safleoedd mewn "cyflwr anffafriol".
Dywedodd Mr Crowther bod angen datrys hyn, ac y gallai technoleg a phlatfformau ar-lein gynorthwyo gyda'r monitro.


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021