Cyfres yr Hydref: Merched Cymru 29-19 Merched De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Carys Phillips yn dathlu sgorio caisFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Carys Phillips yn dathlu sgorio cais

Mae hat-tric o geisiau gan y cyn-gapten, Carys Phillips wedi helpu sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i Gymru, o 29 i 19, yn erbyn De Affrica yng ngemau Cyfres yr Hydref.

Roedd yn berfformiad cofiadwy i'r bachwr sydd wedi gorfod brwydro i ddychwelyd i 15 cyntaf ei gwlad wedi bwlch o ddwy flynedd.

Ond er y bu'n rhaid aros am dros 50 o funudau cyn i'r gwrthwynebwyr ymosod o ddifri fe darodd De Affrica'n ôl gyda thri chais.

Fe wnaeth Cymru reoli'r chwarae a'r meddiant yn gyfan gwbl yn yr hanner cyntaf.

Roedd dathliad Phillips pan sgoriodd gais cyntaf y gêm yn amlygu gymaint roedd yn ei olygu iddi.

Fe diriodd Ffion Lewis wedyn wrth iddi hithau ddychwelyd i'r tîm ac ychwanegodd Elinor Snowsill bwyntiau gyda dau drosiad a chic gosb i'w gwneud hi'n 17-0 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Balchder ar wyneb Ffion Lewis wrth iddi dirio

Daeth ail gais Phillips yn fuan yn yr ail hanner yn sgil pwysau yn y sgarmes, ond fe fethodd Snowsill â throsi wrth i'r bêl daro'r postyn.

Daeth pwyntiau cyntaf De Affrica yn sgil cais unigol campus gan Nomawethu Mabenge, a throsiad llwyddiannus i'w gwneud hi'n 22-7.

Bu'n rhaid i Gymru wneud fwy o waith amddiffyn yn y munudau dilynol, ac roedd yna gais i Zintle Mpupha cyn i Phillips dirio am y trydydd tro.

Daeth trydydd cais yr ymwelwyr reit ar y diwedd - gan Libbie Janse van Rensburg - ac ymgais aflwyddiannus i drosi oedd cic olaf y gêm.

Mae Cymru'n parhau'n ddiguro yn y gyfres ar ôl curo Japan 23-5 penwythnos diwethaf, ac fe fydd y trydydd prawf ddydd Sul, 21 Tachwedd yn erbyn Canada, eto ym Mharc yr Arfau.

Pynciau cysylltiedig