Bywyd mam bachgen awtistig 'yn llawn ofn' heb gefnogaeth

  • Cyhoeddwyd
Huw and mum KarenFfynhonnell y llun, Karen Jankulak
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cymorth a gafodd Huw Wooding gan y bwrdd iechyd i ben ddiwedd 2019

Dywed mam i fachgen awtistig bod ei bywyd yn "erchyll" ac yn "llawn ofn" wedi i'r gofal a oedd yn ei dderbyn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddod i ben.

"Mae mor anodd deall," meddai Karen Jankulak, "pam na gawson ni gefnogaeth yn lle'r gwasanaeth hwnnw."

Wrth rannu ei phrofiadau am y tro cyntaf dywed Ms Jankulak bod ei mab - sydd ag awtistiaeth difrifol - wedi bod yn ymosod arni, yn hunan-anafu ac wedi difrodi eu cartref.

Yn dilyn adroddiad beirniadol gan yr ombwdsmon mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod wedi cael trafferthion staffio.

Fe ddaeth Nick Bennett i'r casgliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi achosi "anghyfiawnder sylweddol", dolen allanol i fam a'i mab 17 oed.

Mae mab Ms Jankulak, Huw Wooding, bellach yn 19 - nid yw'n gallu siarad ac mae ganddo anghenion dysgu.

Mae adroddiad Mr Bennett yn dweud ei bod hi'n debygol bod ymddygiad heriol Huw wedi gwaethygu heb help arbenigol.

Roedd seicolegwyr a seiciatryddion o wasanaeth arbenigol y bwrdd iechyd yn aml wedi helpu i atal neu i ddelio gyda'r ymddygiad.

Ond pan ddaeth y cymorth i ben ddiwedd 2019 ni chafodd cefnogaeth arall ei chynnig ac roedd Karen yn byw mewn "anobaith llwyr".

Ffynhonnell y llun, Karen Jankulak
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Huw yn ymosod ar unrhyw un o fewn ei gyrraedd, medd ei fam

"Fe fyddai e'n cnoi ei ddwylo ac yna ei freichiau pan fyddai ei ddwylo yn rhy ddolurus," meddai.

"Fe fyddai'n chwalu ac yn torri pethau ac roedd e fel petai'n gwybod beth oedd fwyaf peryglus - byddai'n chwalu darnau o wydr.

"Fe fyddai'n ymosod ar unrhyw un o fewn ei gyrraedd ond yn ei rwystredigaeth fe fyddai'n mynd amdana i hefyd.

"Dyma oedd ei ffordd e o ddangos ei anhapusrwydd," meddai.

'Dim tystiolaeth' o gynllunio wrth gefn

Ym mis Chwefror 2020 fe wnaeth Karen gwyno i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Chafodd hi ddim ymateb am fisoedd.

Yn Awst 2020 bu'n rhaid i Karen ffonio'r heddlu a mynd â Huw i'r adran ddamweiniau ac achosion brys gan fod ei ymddygiad yn drech na hi.

Yn ei adroddiad dywed Mr Bennett "fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd camau prydlon a gwneud trefniadau i ddiwallu anghenion clinigol y teulu ar ôl cau gwasanaeth seicolegol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Karen Jankulak bod y sefyllfa'n waeth gan nad oedd cefnogaeth ar gael iddi

Dywedodd hefyd ei fod yn rhannu pryderon Karen am effaith cael gwared o'r gwasanaeth ar deuluoedd eraill.

"Yn eu hasesiad risg dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn gwybod am dri unigolyn, a oedd yn 18 neu bron yn 18, ag anghenion parhaol," meddai.

"Mae'n parhau'n aneglur faint o gleifion iau a gafodd eu heffeithio ac a wnaeth y bwrdd iechyd gymryd unrhyw gamau i ddelio ag anghenion y cleifion hynny.

"Ni welais unrhyw dystiolaeth o gynllunio wrth gefn pe bai'r gwasanaeth seicolegol yn dod i ben, a olygai nad oedd y Bwrdd Iechyd na'r cleifion a oedd yn derbyn y gwasanaeth seicolegol yn barod ar gyfer y diwedd sydyn," ychwanegodd.

'Byw ar y dibyn'

Mae Huw bellach mewn coleg preswyl arbenigol.

Wrth rannu ei phrofiadau dywedodd Karen bod y cyfan wedi bod yn "wirioneddol ofnadwy".

"Roedd y sefyllfa yn waeth gan nad oedd y gefnogaeth a fyddai o help ddim ar gael.

"Ry'ch chi wastad yn byw ar y dibyn ac yna ry'ch chi'n disgyn oddi arno - dwi methu credu'n iawn be' ni wedi bod drwyddo," meddai.

Ffynhonnell y llun, Nick Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Nick Bennett bod yr achos yn un hynod o bryderus

Dywed prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, bod y bwrdd iechyd wedi anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at y teulu.

"Roedd hwn yn gyfnod hynod o heriol i'n tîm anableddau dysgu ac yn benodol i'r gwasanaeth seicolegol - roedd nifer o staff yn absennol o'r gwaith, nifer o swyddi gwag ac roedd ymdrechion i ddenu staff newydd yn aflwyddiannus," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y byddan nhw'n cydweithredu'n llwyr â'r cynllun sydd wedi cael ei gynnig gan yr ombwdsmon.

Ofnau am recriwtio staff

Dywedodd Wayne Crocker o Mencap bod yr adroddiad yn "ddamniol" a'i fod yn poeni ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

"Dwi'n ofni bydd arian, yn enwedig wedi Covid, yn cael ei wario ar wasanaethau rheng flaen eraill ac y bydd gwasanaethau arbenigol fel y rhain yn dod i ben."

Dywedodd yr Athro Edwin Jones o'r British Institute of Learning Disabilities bod recriwtio staff arbenigol yn broblem yng Nghymru.

"Does gennym ddim digon o arbenigwyr ymddygiadol neu bobl sydd â phrofiad yn y maes," meddai.

Mae cais wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru am sylw.

Pynciau cysylltiedig