Rhagbrofol Cwpan y Byd: Cymru 1-1 Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd
![Fe rwydodd Kieffer Moore ei wythfed gôl ryngwladol i unioni'r sgôr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/112E0/production/_121586307_gettyimages-1236605351.jpg)
Fe rwydodd Kieffer Moore ei wythfed gôl ryngwladol i unioni'r sgôr
Mae Cymru wedi gorffen yn ail yng Ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ar ôl sicrhau pwynt gwerthfawr yn erbyn Gwlad Belg.
Er bod Cymru eisoes yn sicr o le yn y gemau ail gyfle ar gyfer Qatar 2022 mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru ymhlith prif ddetholion gemau'r ail gyfle.
Mae hynny'n golygu y bydd gan Gymru gêm gartref yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.
Kieffer Moore sgoriodd y gôl hollbwysig i'r cochion yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Fe ddechreuodd Cymru yn eiddgar ond o fewn 12 munud fe sgoriodd Kevin De Bruyne i'r ymwelwyr gydag ergyd isel o ymyl y cwrt cosbi.
![Roedd Kevin De Bruyne yn wefreiddiol ar adegau yn yr hanner cyntaf, ond fe gafodd lai o ddylanwad wedi'r egwyl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16100/production/_121586309_gettyimages-1236607370.jpg)
Roedd Kevin De Bruyne yn wefreiddiol ar adegau yn yr hanner cyntaf, ond fe gafodd lai o ddylanwad wedi'r egwyl
Wedi 26 munud roedd yna ymgais arall gan De Bruyne - o 30 llath y tro hwn - wedi pas wael gan Ben Davies ond roedd ei ergyd yn rhy uchel.
Ond toc wedi hanner awr tro'r cochion oedd dathlu wedi i Kieffer Moore sgorio gyda'i droed chwith wedi croesiad gan Dan James - ac roedd y ddau dîm yn gyfartal.
Cyn hanner amser roedd Gwlad Belg yn anlwcus i beidio sgorio eto wedi i Ben Davies gael ei gosbi ac roedd yna ymgais aflwyddiannus gan Moore o bell i gyfeiriad y gôl - y sgôr ar yr hanner 1-1.
![Kieffer Moore yn dathlu'r gôl a ddaeth â'r sgôr yn gyfartal toc wedi hanner awr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C4C0/production/_121586305_gettyimages-1236608460.jpg)
Kieffer Moore yn dathlu'r gôl a ddaeth â'r sgôr yn gyfartal toc wedi hanner awr
Doedd dim newid i'r naill dîm na'r llall ar ddechrau'r ail hanner.
Wedi rhai munudau roedd yna gyfle i Gymru wedi i Dedryck Boyata wneud camgymeriad - cafwyd croesiad isel llwyddiannus gan Daniel James ond roedd ergyd Connor Roberts i gyfeiriad y gôl yn rhy lydan.
Wedi awr o chwarae roedd yna ofnau bod Neco Williams wedi cael anaf wedi iddo wrthdaro yn erbyn Aaron Ramsey - yna cryn oedi yn y chwarae wedi anaf i Kieffer Moore wedi iddo yntau ergydio yn erbyn Dedryck Boyata.
Cyn diwedd y gêm roedd yna gryn droseddu ymhlith chwaraewyr y ddau dîm ac roedd cerdyn melyn i Kieffer Moore.
Ond roedd Neco Williams, Conner Roberts a Daniel James ar dân ac yn awyddus i blesio'r miloedd o gefnogwyr.
![Dywedodd y rheolwr Robert Page ei fod yn emosiynol ar ddiwedd y gêm](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/76A0/production/_121586303_gettyimages-1236610134.jpg)
Dywedodd y rheolwr Robert Page ei fod yn emosiynol ar ddiwedd y gêm
Gwlad Belg gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant yn ystod y gêm ond fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael a sicrhau pwynt.
Mae Cymru felly gam yn nes at gyrraedd Pencampwriaeth Cwpan y Byd - a hynny am y tro cyntaf ers 1958.
Fydd Joe Morrell ddim yn chwarae yn y gêm ail gyfle wedi iddo gael cerdyn melyn am ddal Axel Witsel.
![Neco Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E018/production/_121586375_gettyimages-1236610271.jpg)
Roedd Neco Williams yn un o chwaraewyr gorau Cymru ar y noson
Roedd Morrell, Aaron Ramsey, Joe Allen, Harry Wilson, Sorba Thomas, Chris Gunter a James Lawrence eisoes wedi cael cerdyn melyn yn ystod y gemau.
Yn gynharach ddydd Mawrth roedd yna gyhoeddiad na fyddai capten Cymru, Gareth Bale, yn chwarae gan ei fod yn gwella o anaf.
Bydd Cymru yn canfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar 26 Tachwedd ac fe fydd y gêm ail gyfle yn cael ei chwarae ym mis Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021