'Angen mwy o gymorth i famau plant wedi'u geni'n gynnar'
- Cyhoeddwyd
Pan welodd Ceri Roberts o'r Felinheli ei babi am y tro cyntaf roedd e wedi'i orchuddio â thiwbiau a gwifrau, yn gwisgo masg ocsigen ac roedd e mewn crud cynnal (incubator).
Nid dyna oedd hi wedi'i ddisgwyl - ond fe anwyd Seth naw wythnos yn gynnar a dywed ei fam bod y cyfan yn "rollercoaster" o emosiynau gwahanol
Rhaid i famau sy'n geni plant yn gynnar gael mwy o gefnogaeth emosiynol, medd elusen.
Mae Bliss yn gweithredu ar ran teuluoedd babanod sy'n dod i'r byd cyn 37 wythnos yn y groth.
Mae Seth, sydd bellach yn chwech oed, yn blentyn iach ac wrth ei fodd yn yr ysgol gyda'i frawd Aron, sy'n bedair.
Daeth Aron hefyd yn gynnar, ond gyda help meddygol parodd y beichiogrwydd yn hwy, a daeth i'r byd ar ôl 35 wythnos yn y groth.
Roedd y ddau brofiad yn arswydus, ond yn fwy felly gyda'i phlentyn cyntaf, meddai Ceri.
"Roedd o'n sâl yn y dechra', roedd o angen dipyn o help i anadlu.
"Doedd o methu rheoli tymheredd ei gorff ei hun chwaith, wedyn roedd angen cymorth meddygol i 'neud hynny.
"Roedd o jyst angen datblygu tu allan i'r groth lle roedd o fod i ddatblygu fwy yn y groth."
"Roedd o jyst yn rollercoaster o emosiynau gwahanol. Wrth gwrs roedden ni'n hapus bod y lwmpyn yma wedi dod i'r byd - roedden ni mor hapus - ond roedd petha' yn gefn eich meddwl. Oedd 'na broblemau datblygiadol? Roedd hwnna i gyd yn eitha' dryslyd.
"A ffonio teulu a ffrindia' i dd'eud bod o 'di cyrraedd a phobl ddim yn siŵr iawn be i dd'eud - sut i ymateb. Roedd o'n gyfnod eitha' scary i dd'eud y gwir, yn edrych 'nôl arno fo."
8% yn cael eu geni'n gynnar
Dywed elusen Bliss fod y cymorth seicolegol i deuluoedd babanod cynnar yn anghyson.
Yn flynyddol mae oddeutu 2,400 o fabanod sydd angen cymorth wedi'u geni yn gynnar, medd yr elusen, sef oddeutu 8% o'r babanod sy'n cael eu geni yng Nghymru.
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn nodi bod 2,800 o fabanod wedi cael gofal arbenigol yn 2020 wedi iddynt gael eu geni cyn pryd.
Ar ddiwrnod rhyngwladol codi ymwybyddiaeth am fabanod cynnar, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod gwella'r ddarpariaeth seicolegol i rieni newydd babanod bregus yn flaenoriaeth.
'Goblygiadau tymor hir'
"Pan fydd babi yn cael ei eni cyn pryd neu'n sâl ac angen gofal newydd-enedigol, mae rhieni yn aml yn dweud bod eu byd wedi'i droi wyneb i waered," meddai rheolwr polisi ac ymchwil elusen Bliss, Josie Anderson.
"Mae'n rhoi llawer iawn o straen a phryder ar deuluoedd."
Dywed yr elusen fod ymchwil yn dangos y gallai'r rhai sydd wedi cael genedigaeth gynamserol fod yn fwy tebygol o fod ag iselder ôl-enedigol, neu ddatblygu symptomau straen ôl-drawmatig.
"Gall y goblygiadau tymor hir i famau fod yn wirioneddol ddinistriol."
Mae Bliss wedi bod yn gweithio gyda NSPCC Cymru i wthio am well cefnogaeth iechyd meddwl a lles yng Nghymru, gyda'r mater wedi ei godi yn y Senedd yr wythnos hon.
Gyda Seth wedi cyrraedd mor gynnar, cafodd Ceri a'i gŵr Elis eu symud i Dŷ Enfys, cartref arbennig i rieni plant yn yr uned gofal dwys.
Maen nhw'n canolbwyntio ar gerrig milltir bychain er mwyn dygymod â'r straen.
"Roedden ni'n canolbwyntio ar ddathlu'r pethau bach," meddai Ceri.
"Ro'n i'n sgwennu dyddiadur, roedd y gŵr yn gwneud ffilm fach i gofnodi yr adegau yna.
"Dwi'n cofio gwirioni 'mod i'n cael ei wisgo fo am y tro cyntaf am ei fod o wedi cael symud o'r incubator... gallu cysgu heb fasg ocsigen, gallu tynnu'r tiwb bwydo. Tasa fo wedi dod yn 37 wythnos 'sa ni heb gael y profiadau yna."
Roedd y gofal meddygol iddi hi a'i meibion yn "anhygoel", meddai.
Mae'n canmol y gofal gan y meddygon yn yr ysbyty a'r gofal wedi hynny gan nyrs arbenigol ac ymwelydd iechyd yn y cartref.
Ond mae'n ymwybodol o siarad â rhieni eraill nad yw'r gofal yr un peth ym mhob man, ac mae'n gresynu nad oes grwpiau i gefnogi rhieni babanod cynnar wedi iddyn nhw fynd adref.
"Does 'na ddim clybiau na grwpiau babis i rieni sy' wedi bod trwy rywbeth fel be 'da ni wedi bod trwyddo fo yn yr ardal yma," meddai.
Mae Dr Mair Parry, sy'n ymgynghorydd iechyd plant yn Ysbyty Gwynedd, yn cydnabod bod wastad amser i wneud mwy.
"Mae yna lot o heriau a mi 'da ni'n dod yn well fel ma' amser yn mynd yn ei flaen," meddai
"'Dan ni'n dysgu mwy am be sy'n gweithio a beth sy' ddim. Ond mae o dal yn anodd a 'da ni yn deall hynny a thrio'n gorau. Does 'na'm un ateb sy'n siwtio pob teulu a siwtio pob babi.
"Un o'r pethau gorau fedrwn ni 'neud ydy bod yn hyblyg fel bo' ni'n gallu newid sut 'da ni'n cynllunio gyrru babi adra i siwtio'r teulu penodol hwnnw."
Wrth godi'r mater yn y senedd yr wythnos hon ar ddiwrnod ymwybyddiaeth babanod cynnar gofynnodd aelod Canol De Cymru, Joyce Watson, i'r prif weinidog beth oedd yn cael ei wneud i wella gwasanaethau i rieni babanod newydd-anedig mewn gofal dwys.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cydnabod bod y cyfnod yn aml yn hynod ofidus, ond bod arian newydd nawr ar gael i fyrddau iechyd i'w cynorthwyo i wella'r ddarpariaeth.
"Mae gwell mynediad i therapïau seicolegol yn parhau'n flaenoriaeth," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2019