Cyfaddef dynladdiad Keyron Curtis, oedd ar fin dod yn dad
- Cyhoeddwyd

Roedd Keyron Curtis yn disgwyl ei blentyn cyntaf ymhen rhai wythnosau pan fu farw
Mae dyn wedi cyfaddef dynladdiad dyn 21 oed oedd ar fin dod yn dad yn ne Cymru.
Bu farw Keyron Curtis, o Gwmdâr, yn dilyn ymosodiad tu allan i'r Colliers Arms yn ardal Penywaun, Rhondda Cynon Taf ar 17 Hydref.
Yn Llys y Goron Casnewydd fe wnaeth Daniel Howells-Thomas, 24, bledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad yn achos Mr Curtis, ac i gyhuddiad o ymosod ar ddyn arall.
Fe wnaeth y Barnwr Daniel Williams ohirio'r achos a bydd Howells-Thomas yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021