Terfyn cyflymder ger Castell Gwrych wedi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno tu allan i'r castell ble bydd rhaglen I'm a Celebrity yn cael ei ffilmio eleni yn dilyn marwolaeth dynes yno y llynedd.
Cafodd Sharn Hughes, 58 o Brestatyn, ei tharo gan gar yn Llanddulas ger Castell Gwrych fis Tachwedd y llynedd tra'n tynnu lluniau.
Cyn i'r rhaglen ailddechrau ddydd Sul, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod cyfyngiadau cyflymder wedi'u rhoi mewn lle.
Ychwanegodd y llu y byddai unrhyw yrwyr sy'n parcio yno'n anghyfreithlon yn cael eu symud.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr a'r cyhoedd, felly byddwch yn ymwybodol o'r cyfyngiadau a byddwch ddiogel.
"Mi fydd swyddogion yn patrolio'r ardal er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ac rydym yn gweithio'n agos hefo cynhyrchwyr y rhaglen, Cyngor Sir Conwy a phartneriaid er mwyn cyflawni hyn."
Ychwanegodd y llu y bydd uned plismona'r ffyrdd a Gan Bwyll yn yr ardal er mwyn sicrhau fod modurwyr yn cadw at y terfynau cyflymder.
Bu farw Ms Hughes wedi iddi gael ei tharo gan gar ar ôl penderfynu stopio ar ardal dywyll o'r A547, ble roedd terfyn cyflymder o 60mya.
Clywodd y cwest i'w marwolaeth mai ei bwriad oedd tynnu llun o'r castell er mwyn ei yrru at ffrind.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020