Plannu coed: Cynllun i geisio cadw tir yn nwylo pobl leol

  • Cyhoeddwyd
Keith Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen eisiau helpu ffermwyr i wneud y mwyaf o'u tiroedd yn hytrach na'u gwerthu

Mae cynlluniau newydd ar y gweill i helpu ffermwyr ddefnyddio'u tiroedd tlotaf er mwyn creu elw, yn hytrach na'u gwerthu i gwmnïau sy'n dymuno eu troi'n goedwigoedd.

Mae cwmnïau mawr wedi bod yn prynu ffermydd ar draws Cymru ar gyfer plannu coed er mwyn gwrthbwyso allyriadau carbon.

Ond mae Undeb Ffermwyr Cymru wedi rhybuddio bod hynny'n fygythiad i ddiwylliant cymunedau gwledig a'r iaith Gymraeg.

Mae prosiect newydd o'r enw Ceiniogi'r Coed eisiau cadw tir yn nwylo pobl leol.

Mae'r grŵp yn erfyn ar ffermwyr i beidio â gwerthu eu tir, ac i edrych ar wrthbwyso allyriadau carbon eu hunain ar dir sy'n anaddas ar gyfer tyfu cnydau.

Mae 12 lleoliad wedi cael eu gwerthu'n ddiweddar i gwmnïau corfforaethol.

Y rheswm mae cwmnïau mawr y tu allan i Gymru yn prynu'r tir yw i gymryd mantais ar grantiau Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o annog pobl i blannu coed er mwyn gwella ansawdd yr aer a lleihau nwyon tŷ gwydr.

Plannu gan gwmnïau mawr yn 'drychineb'

Yn y Mynyddoedd Duon ger Y Fenni mae miloedd o goed eisoes wedi cael eu plannu ar dir gwael.

Mae hwn yn dir comin, ond ar draws Cymru mae yna filoedd o erwau o dir fel hyn sydd wedi eu gorchuddio gyda rhedyn, sy'n aml ddim yn cael eu defnyddio ac felly yn creu dim elw i'r perchnogion.

Ond mae'n dir y mae planwyr coed y Mynyddoedd Duon yn dweud all nawr fod yn allweddol at achub ffermydd teuluol a ffordd o fyw.

"Rydyn ni wedi gweld ffermydd yn cael eu prynu a'u plannu gan gwmnïau mawr," meddai Keith Powell o Ceiniogi'r Coed.

"Fel elusen sy'n plannu coed fe fyddech chi'n meddwl ein bod ni'n credu fod hyn yn beth gwych, ond rydyn ni'n meddwl ei fod yn drychineb.

"Os ydych chi'n dinistrio'r economi leol, does dim swyddi, dim cymuned. Bydd hefyd yn effeithio ar ein diogelwch bwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Ynghyd â difrod ecolegol posib, mae pryderon y gallai colli tir amaethyddol niweidio cymunedau gwledig

Mae'n Mr Powell credu nad oes digon o dir yng Nghymru i'r wlad gael diogelwch bwyd domestig, ac mae eisiau i ffermwyr wneud y mwyaf o'u "tir anghynhyrchiol".

Mae'r prosiect yn gweithio gyda Choed Cymru, sy'n darparu gwybodaeth am grantiau i ffermwyr.

"Rydyn ni'n gobeithio gwneud e'n bosib i ffermwyr gael dewisiadau eraill [heblaw am werthu i gorfforaethau] ac mae ffermwyr wir yn cefnogi hwn o'r nifer o ymholiadau ry'n ni'n eu derbyn," meddai'r cyfarwyddwr Gareth Davies.

Gwarchod bywoliaethau

Mae cwmni gwasanaethau UW, sydd wedi ei leoli yn Llundain, wedi rhoi arian i'r prosiect.

Mae'r prif weithredwr Andrew Lindsay yn credu bod cael ei gysylltu gyda'r cynllun - sy'n plannu coed tra'n peidio dinistrio tir all gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd - yn ffordd o gael marchnata da.

Mae'n credu y bydd cwmnïau mawr arall yn dod i ddifaru prynu ffermydd er mwyn gwrthbwyso allyriadau carbon yn unig, pan allan nhw dal fod yn gynhyrchiol mewn ffyrdd eraill.

"Ni bendant yn gweld cwmnïau mawr yn dod gyda llyfrau siec mawr yn dweud bod rhaid i ni blannu coed, ond nid yw'n mynd i weithio os yw e wastad am arian," meddai.

"Mae coed yn bwysig, ond mae pobl yn bwysig, mae'r gymuned wledig eisoes dan bwysau. Rydyn ni eisiau cael ein gweld fel cwmni sy'n poeni am gymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw hyd yn oed defaid yn crwydro i diroedd gwael rhai ardaloedd o'r Mynyddoedd Duon

Mae NFU Cymru yn cefnogi'r cynlluniau, gan ddweud mai ffermwyr fydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ble mae coed yn cael eu plannu, a bywoliaethau'n cael eu gwarchod.

"Mae Cymru wedi cael ei hecsbloetio o'r blaen, mae pobl o du allan i Gymru wedi gwneud symiau arwyddocaol o arian ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn buddio o'r cyfleoedd y gall Cymru ddarparu," meddai prif weithredwr yr elusen, John Davies.

Dywedodd gweithredwr sirol Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer Gwent a Bro Morgannwg, Sharon Pritchard ei bod yn bwysig i gymunedau gwledig "sefyll gyda'i gilydd".

"Mae'n fygythiad mawr. O'n i ym Maesteg yr wythnos ddiwethaf, lle yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae dros 500 o erwau wedi cael eu gwerthu i brynwyr o du allan i Gymru, fel bod cyllid ar gyfer grantiau yn mynd i'r person yna tu allan i Gymru," meddai.

"Mae'r arian ar gyfer amaeth Cymreig yn cael ei golli. Rydyn ni'n gweld hyn yn digwydd yn wythnosol - pryderon bod y tir amaethyddol gorau, cynhyrchiol yn cael ei gymryd mas o gynhyrchu bwyd."