Dyn meddw wedi chwydu ar fachgen 6 oed yng ngêm Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd bachgen chwech oed oedd yn gwylio ei gêm rygbi gyntaf yn Stadiwm Principality mewn "llif o ddagrau" wedi i gefnogwr meddw chwydu drosto.
Roedd Joey yn y stadiwm i wylio buddugoliaeth Cymru dros Awstralia ddydd Sadwrn gyda'i rieni pan wnaeth dyn oedd yn eistedd tu ôl iddyn nhw daflyd i fyny "dros bobman".
Yn ôl mam Joey, Sophie Delaney, roedd y cefnogwr mor feddw "ni ddywedodd yr un gair ar ôl hynny", ac nid oedd yn gallu cydnabod yr hyn roedd wedi'i wneud.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn "ddrwg gennym i glywed am brofiad y teulu" ac y byddan nhw'n adolygu adroddiad y stiward i'r digwyddiad.
Dywedodd Mrs Delaney, o Gas-gwent, bod ei mab "mewn llif o ddagrau" wedi i gyfog "fynd ar hyd ei gefn, ei gôt, drosta i a dros y llawr".
Ychwanegodd wrth Radio Wales fore Llun bod rhywun eisoes wedi colli cwrw dros Joey yn gynharach, ond fod y cefnogwr wnaeth daflyd i fyny "wedi syrthio'n swp i'w gadair ac yn amlwg yn feddw iawn, iawn".
"Roedd hi'n anodd iawn oherwydd roedd e [Joey] yn gofyn i adael ond ro'n i'n meddwl 'os ni'n gadael nawr, dyna'r teimlad fydd yn aros 'da ni'," meddai Mrs Delaney.
"Doeddwn i ddim eisiau hynny i fod ein hatgof olaf.
"Ro'n i'n brwydro'r dagrau yn ôl oherwydd roedd o mor drist, ro'n i'n drist, roedd fy ngŵr yn drist, ac ychydig yn flin."
Dywedodd fod cefnogwyr gerllaw wedi pasio hancesi, hylif diheintio a chynnig sgarffiau i'w mab i geisio helpu'r teulu a chysuro Joey.
"Fe ddaeth dyn draw ac roedd e eisiau rhoi ei grys Cymru iddo - roedd yr ymateb wir yn un i godi calon."
Cafodd y teulu eu cymryd i seddi newydd i fwynhau'r 10 munud olaf, ond dywedodd nad yw'r digwyddiad wedi atal Joey rhag bod eisiau mynd i ragor o gemau yn y dyfodol.
"Mae Joey wedi bod yn anhygoel. Ddoe 'naeth e ddim hyd yn oed crybwyll y peth - oll oedd e'n siarad amdano trwy'r dydd oedd y pethau positif," meddai Mrs Delaney.
'Ymyrryd pan fo pobl yn feddw'
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn "ddrwg gennym i glywed am brofiad y teulu".
"Daeth dros 275,000 o gefnogwyr i gemau Cyfres yr Hydref ac mae'r mwyafrif o gefnogwyr yn mwynhau eu hunain mewn ffordd gyfrifol ac ystyriol," meddai llefarydd.
"Mae'n bolisi gennym i staff ymyrryd pan fo pobl yn amlwg yn feddw. Mae hyn yn digwydd mewn tair ardal gan fwyaf; y giatiau ble gal pobl gael eu gwrthod, y bariau os ydyn nhw'n ceisio prynu alcohol, ac yn eu seddi."
Mewn datganiad pellach brynhawn Llun, dywedodd yr undeb eu bod wedi cysylltu gyda'r teulu Delaney i drafod y mater ac yn bwriadu adolygu adroddiad y stiward.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019