Gwahardd cŵn o gaeau: Newid positif neu gam llawdrwm?
- Cyhoeddwyd

Cyngor Caerffili yw'r nawfed sir yng Nghymru i wahardd cŵn o gaeau chwarae
Mae elusen yr RSPCA wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Caerffili i wahardd cŵn o gaeau chwarae cyhoeddus.
Caerffili yw'r cyngor diweddaraf i wneud hynny yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Bellach mae dros ddwy ran o dair o gynghorau Cymru'n defnyddio Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus i geisio rheoli baw cŵn.
Ond mae'r RSPCA yn dweud eu bod nhw'n cosbi perchnogion cyfrifol a bod ganddyn nhw amheuon ynglŷn ag a fydd modd gweithredu'r rheolau.
Archwilio'r cae am faw ci cyn pob gêm
I dimau pêl-droed Sir Caerffili, fel sawl sir arall, mae cerdded y cae i chwilio am faw cŵn yn rhan o'r ddefod cyn pob gêm.
Yn ôl Harrisson, sy'n chwarae i dîm ieuenctid Llanbradach, dyw hi ddim yn broblem newydd.
"Mae'n rhaid i ni edrych dros y cae... rhag ofn bod ein chwaraewyr ni yn cwympo ynddo fe. Mae'n anffodus fod pobl ddim yn clirio lan ar ôl eu cŵn."

Mae'r gwaharddiad yn beth "positif" yn ôl un o hyfforddwyr Llanbradach, Tony Wilding
Caerffili yw'r nawfed sir i wahardd cŵn o gaeau chwarae yn benodol. Fe allai pobl gael dirwy o hyd at £100 am dorri'r rheolau.
Mae Tony Wilding, un o hyfforddwyr Llanbradach, yn croesawu'r gwaharddiad: "Dwi'n credu fod e'n beth positif i'r clybiau a'r hyfforddwyr.
"Mae rhai achosion yn ddiweddar mae bois wedi cwmpo a chael baw arnyn nhw sy'n amlwg yn beryglus.
"Un o'r pethe mwyaf anodd i 'neud yw dal pobl tra eu bod nhw'n cerdded ar y caeau, chi jyst yn dibynnu ar bobl i ymddwyn yn gall a dilyn y rheolau."
'Cosbi pobl gyfrifol'
Mae RSPCA Cymru yn poeni fod hyn yn llawdrwm, ac yn ôl Billie-Jade Thomas o'r elusen fe fydd perchnogion cyfrifol ar eu colled hefyd.
"Mae e yn rhoi cyfyngiadau ar bobl sydd â chŵn ac mae'n meddwl bod llai o lefydd gyda nhw i fynd a chael ymarfer corff.
"I rai pobl y cae rygbi neu'r cae pêl-droed fydd yr unig gae sydd gyda nhw yn agos iddyn nhw.
"Mae hyn yn cosbi pobl cyfrifol oherwydd ymddygiad pobl anghyfrifol felly mae'n siomedig."

Yn ôl Billie-Jade Thomas o'r RSPCA, fe fydd perchnogion cyfrifol ar eu colled hefyd
Mae'r RSPCA hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â pha mor ymarferol fydd gweithredu'r rheolau newydd.
"Mae e'n mynd i gostio arian ar gyfer y cyngor hefyd. Mae cynghorau dan bwysau ariannol enfawr felly sut mae'n nhw'n mynd i orfodi rhywbeth fel hyn?
"Bydd rhaid i chi gael rhywun yn gwylio dros gaeau'r sir drwy'r amser."
Er yn cydnabod nad yw'r drefn yn berffaith mae'r cynghorydd James Fussell yn gobeithio y bydd yn help i geisio newid agweddau.
"Mae rhaid i ni gael y neges mas yna i bobl sy'n berchen ar gŵn", meddai.
"Mae'r drefn newydd yn sicrhau bod mwy o swyddogion ar gael i weithredu. Yr heddlu, heddlu cynorthwyol a swyddogion y cyngor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021