Ystyried gwahardd cŵn o 18 o draethau yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ci ar draethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried gwahardd cŵn o 18 o draethau, a phenodi dau swyddog newydd i geisio rheoli problemau baw ci yn y sir.

Bydd cabinet y cyngor yn trafod mesurau newydd i fynd i'r afael â'r broblem yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lle cafwyd dros 1,300 o ymatebion.

Yn ogystal â gwahardd cŵn o draethau penodol rhwng 1 Ebrill a 30 Medi, gallent gael eu heithrio o feysydd chwarae plant, tir ysgolion, meysydd chwarae a chyfleusterau chwaraeon gydol y flwyddyn.

Roedd yr holiadur yn gofyn am farn trigolion y sir ar Orchymyn Diogelu Gofod Cyhoeddus, a fyddai'n disodli'r pwerau presennol.

Roedd mwyafrif y rhai wnaeth ymateb o blaid y gorchymyn, a llawer am i'r cyngor fod yn fwy llym ar y rhai sy'n gadael i'w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus.

'Peri pryder gwirioneddol'

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd a Materion Bwrdeistrefol bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifri ac yn sicrhau eu bod yn glanhau ar eu hôl.

"Ond, rydyn ni'n gwybod nad yw hyn yn wir am bawb," meddai, "ac mae'r sylwadau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn tanlinellu bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Cyngor barhau i fynd i'r afael ag ef."

Roedd yr arolwg yn dangos bod baeddu cŵn yn "rhywbeth sy'n peri pryder gwirioneddol i drigolion Gwynedd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ac yn gweithredu".

"Roedd pobl hefyd yn awyddus i weld cŵn yn cael eu heithrio o leoedd megis tiroedd ysgolion, caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon yn ogystal â chyfyngiadau tymhorol ar rai o'n traethau."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhagor o finiau baw ci'n cael eu gosod os caiff yr adroddiad ei dderbyn

Mae adroddiad a fydd yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddydd Mawrth, 27 Gorffennaf hefyd yn argymell cyflwyno mwy o finiau, bagiau am ddim i waredu baw ci, ac arwyddion newydd ledled y sir.

"Rydym hefyd yn gobeithio cyflwyno dau warden rheoli cŵn newydd a fydd â phwerau gorfodaeth, ond a fydd hefyd yn gweithio ar ymgyrchoedd newid ymddygiad i geisio lleihau achosion baeddu yn y sir.

"Pe bai'r cabinet yn cefnogi cyflwyno'r mesurau hyn, rwy'n gobeithio y byddant yn arwain at ostyngiad mewn baeddu cŵn ar ein strydoedd, ac yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyfyngiadau cŵn a chaniatáu i berchnogion cŵn gael lle a rhyddid i ymarfer eu hanifeiliaid anwes yn gyfrifol."

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell:

  • Bod pobl sydd ddim yn clirio llanast eu cŵn mewn unrhyw le cyhoeddus yn wynebu dirwyon yn y fan a'r lle.

  • Rhaid cadw cŵn ar dennyn os bydd swyddog gorfodaeth Cyngor Gwynedd yn gofyn iddynt wneud hynny.

  • Bod y cyngor yn cyflogi dau warden rheoli cŵn a fydd yn gweithio ar ymgyrchoedd newid ymddygiad yn ogystal â gorfodi.

  • Cyflwyno mwy o finiau, bagiau am ddim ac arwyddion newydd ledled y sir.

Pynciau cysylltiedig