Cynllun tai yn Llandudoch yn 'faes chwarae i'r cyfoethog'

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llandudoch
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl Llandudoch wedi llunio deiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau

Mae cynlluniau posib i godi o leiaf 15 o dai newydd yn Llandudoch ar lannau Afon Teifi wedi cythruddo rhai o bobl y pentref - ar adeg pan mae'r ddadl am effaith ail gartrefi yno ar ei hanterth.

Yn 2012, fe roddwyd caniatâd amodol i godi 16 o dai ar lain o dir ger Stryd y Peilot sydd yn ffinio gyda llwybr yr arfordir ac Afon Teifi.

Nawr, mae cwmni Enzo's Estates o Cross Hands wedi llunio cais newydd ar gyfer 15 o dai ar yr un safle gyda'r tai yn amrywio o rai 3 neu 4 ystafell wely.

Mae mudiad 'Llandudoch Yfory' wedi llunio deiseb yn erbyn y cynlluniau, ac mae dros 450 o bobl wedi ei harwyddo hi, hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran asiant y datblygwr, Cwmni Cynllunio Geraint John, bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle wedi ei dderbyn yn sgil y caniatâd blaenorol.

'Maes chwarae ar gyfer y cyfoethog'

Mae'r Parchedig Rhosier Morgan yn byw gyferbyn â'r safle gyda'i wraig Jane. Mae'n dweud fod natur y gymuned leol wedi newid ers iddo symud i Landudoch yn 2013.

"Pan ddes i yma yn gyntaf nôl yn 2013, roedd cymdogion gen i, naill ochr, ond erbyn hyn mae'r tŷ drws nesa yn wag y rhan fwyaf o'r amser, mae'n ail dŷ. A fan hyn wrth gwrs, roedd yna deulu bach yn byw yma, ond maen nhw wedi symud bant a nawr mae'n cael ei rentu allan dros yr haf. "

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Rhosier Morgan yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn gryf

Mae'n gwrthwynebu'r cynlluniau yn gryf.

"Prin yw'r Gymraeg yn y pentref fel mae hi," meddai.

"Mae hi wedi mynd yn llai dros y blynyddoedd, a nawr ni'n gweld y tai yma yn mynd i gael eu codi.

"Byddan nhw ddim ar gael i bobl gyffredin. Byddan nhw ddim ar gael ar gyfer y person post, athrawon cynorthwyol neu'r cigydd. Nid pobl leol fydd yn gallu fforddio rhain.

"Byddwn ni yn gweld mewnfudwyr breintiedig, cyfoethog. Iddyn nhw bydd y rhain. Bydd e'n faes chwarae ar gyfer y cyfoethog. Bydd e ddim yn fan i deuluoedd ac yn enwedig Cymry Cymraeg i fagu plant a mynychu'r ysgol leol ac adio at y gymuned. Bydd e'n tynnu i ffwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

'Fi'n credu y bydd y tai yn sinco neu'n syrthio,' medd June Smart

Mae yna bryder hefyd yn lleol nad yw'r safle yn addas ar gyfer adeiladu gan ei fod yn ffinio gydag Afon Teifi. Mae June Smart wedi ei geni a'i magu yn y pentref.

"Os bydd 15 o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle 'ma, mae rhyw deimlad 'da fi bydd y cwbl yn sinco a syrthio. Dwi ddim yn gweld bod nhw yn gallu adeiladu 15 o dai a'r rheiny yn executive housing. Mae'r lleoliad yn hollol anaddas," meddai.

Mae hi'n bryderus hefyd na fydd pobl ifanc yn medru fforddio'r tai newydd.

"Dy'n nhw ddim wedi meddwl am y bobl lleol sydd yn y pentref. Dwi'n gwybod am sawl person sydd yn byw yn cartrefi eu mamau neu eu tadau oherwydd dyw nhw ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn Llandudoch ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r tai gael eu hadeiladu ar dir ger Stryd y Peilot

Mae'r Parchedig Liz Rowe, sydd yn offeiriad yn Llandudoch, yn pryderu y bydd mwy o bobl yn gorfod osgoi'r gwaith adeiladu a cherdded ar Stryd y Peilot.

"Mae miloedd o bobl yn cerdded ar y llwybr yma dros yr haf. Dwi'n bryderus am beth sydd yn mynd i ddigwydd unwaith bydd y pethau yn mynd ymlaen ar y site yma.

"Dyw'r tir ddim yn rhy sefydlog ac efallai wedyn byddan nhw'n gallu newid ble mae pobl yn gorfod symud a cherdded ar Stryd y Peilot. Mae hynny yn bryderus iawn. Mae cymaint o ddamweiniau. Dwi'n bryderus iawn am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Liz Rowe, sydd yn offeiriad yn Llandudoch, yn rhannu pryderon y gymuned leol

Mae'r Parchedig Rowe hefyd yn rhannu'r ofnau am ddyfodol y gymuned leol.

"Mae'n anodd iawn i brynu rhywle nawr yn arbennig ar yr arfordir. Dyna ble mae pob un eisiau dod. Mae pobl yn dod o bob man ac mae'r pobl leol yn methu fforddio oherwydd hynny."

Asesiad ar gyfer tai fforddiadwy posib

Dywedodd llefarydd ar ran asiant y datblygwr, Cwmni Cynllunio Geraint John, bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle wedi ei dderbyn yn sgil y caniatâd blaenorol a roddwyd yn 2012, ac y bydd un tŷ yn llai yn cael ei godi na'r un ar bymtheg a ganiatawyd bryd hynny.

"Mae'r safle o fewn ffin anheddiad Llandudoch. Fe fydd asesiad dichonoldeb yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses gynllunio i weld a ydy hi'n bosib darparu tai fforddiadwy ar y safle neu beidio," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig