Lansio 'profiad shot espresso' i 'danio dychymyg' myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth University sign

Mae myfyrwyr un o brifysgolion Cymru yn gallu ymgeisio am "brofiad shot espresso" mewn gwlad Ewropeaidd, yn dilyn rhodd gan gyn-fyfyriwr.

Nod cynllun Prifysgol Aberystwyth yw cynnig grantiau i fyfyrwyr dreulio cyfnodau byr dramor, er mwyn "tanio'r dychymyg" ac "ehangu gorwelion".

Daw'r arian o rodd gan William Parker, a astudiodd hanes yn y brifysgol rhwng 1978 a 1981.

Drwy grantiau o rhwng £500 a £3,000, bydd myfyrwyr yn cael astudio, gweithio neu fynychu cynadleddau yn yr Undeb Ewropeaidd am gyfnodau o hyd at bedair wythnos yn y flwyddyn gyntaf.

Ysbrydoli myfyrwyr

Mae gyrfa Mr Parker wedi golygu gweithio yn Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell ym meysydd peirianneg a thelegyfathrebu.

Mae'n credu bod ei ddiddordeb mewn ieithoedd wedi rhoi cyfleoedd na fyddai wedi dod fel arall.

Dywedodd bod y diddordeb wedi dechrau yn y brifysgol, a'i fod wedi cael cyfle i astudio Ffrangeg yn Ffrainc am fis yn dilyn grant achlysurol gan y brifysgol.

Dywedodd: "Fy ngobaith yw y bydd y gronfa newydd hon yn ysbrydoli myfyrwyr i ymweld â llefydd newydd, cwrdd â phobl newydd a sefydlu rhwydweithiau newydd at ddibenion astudio, gwaith a chymdeithasol.

"Yn fy mhrofiad i, mae cyfleoedd o'r fath yn golygu eich bod wedi eich paratoi'n well ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol."

Yn siarad ar Radio Cymru fore Iau, dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ei fod yn gobeithio ysbrydoli myfyrwyr.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan: "Mae e, fel mae William Parker wedi disgrifio fe ei hunan, yn ryw brofiad shot espresso - rhywbeth byr, rhywbeth i ysgogi, i danio'r dychymyg a rhoi'r cyfle hynny i ehangu gorwelion myfyrwyr Aberystwyth."

Nid cymryd lle y cynllun Ewropeaidd, Erasmus, yw'r nod, meddai, ond yn hytrach cynllun "llawer mwy hyblyg" i dreulio cyfnodau byr dramor.

Yn ogystal â thalu am gostau byw dramor, dywedodd y dirprwy is-ganghellor y byddai modd gwneud cais am arian ychwanegol i gyfrannu at ddulliau teithio cynaliadwy, a chostau hyfforddiant iaith.

"Mae 'na un fyfyrwraig wedi elwa eisoes o'r cyfle yma, wedi treulio wythnos yn Yr Eidal," meddai.

"Mae hi'n astudio celfyddyd gain ac wedi bod yn astudio techneg celf y Dadeni, ac felly mae hynny wedi bod yn brofiad eithriadol o dda iddi hi, felly ni'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoliaeth i sawl un arall."

Carys Wilson oedd y fyfyrwraig honno, a dywedodd bod cael cyfle i deithio i Sardinia wedi bod yn "fwyd i'r ymennydd".

Dywedodd ei bod wedi "dysgu llawer iawn" am hanes gwaith tempera wy, ac am "sut i'w ddefnyddio'n ymarferol gan arbenigwr yn ei stiwdio".

"Mae wedi cyflymu'r broses o ddysgu'n fawr iawn, ac wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn gynt o lawer a gyda mwy o hyder yn fy ngwaith fy hun wrth i mi symud tuag at fy sioeau MA y flwyddyn nesaf."

Pynciau cysylltiedig