Trefnydd hediad Emiliano Sala i apelio yn erbyn dedfryd

  • Cyhoeddwyd
David Henderson yn cyrraedd y llys ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Henderson yn apelio yn erbyn y ddedfryd a gafodd

Mae'r dyn a gafodd ei garcharu am drefnu'r hediad laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala a'r peilot yn apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd David Henderson, 67 o Sir Efrog, ei garcharu am 18 mis yn gynharach eleni.

Roedd wedi ei gael yn euog o beryglu diogelwch yr awyren, oedd yn cael ei hedfan gan David Ibbotson ac yn cario Sala i Gaerdydd.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Henderson bod y cais i apelio wedi ei wneud ddydd Mawrth.

Cadarnhaodd y cyfreithwyr mai'r ddedfryd yn unig sydd dan sylw, ac nad yw'n bwriadu apelio'r euogfarn.

Pynciau cysylltiedig