Carcharu dyn am drefnu'r hediad a laddodd Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
David Henderson yn cyrraedd y llys ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

David Henderson yn cyrraedd y llys ddydd Gwener

Mae'r dyn busnes a drefnodd yr hediad a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar.

Cafwyd David Henderson, sy'n 67 oed ac o Swydd Efrog, yn euog fis diwethaf o beryglu diogelwch awyren.

Roedd yn gwadu'r cyhuddiad hwnnw ond fe bleidiodd yn euog i gyhuddiad o geisio trefnu taith heb ganiatâd priodol.

Bu farw'r pêl-droediwr Archentaidd 28 oed a Mr Ibbotson yn Ionawr 2019 pan blymiodd eu hawyren i'r môr.

Roedd Sala newydd arwyddo cytundeb i ymuno â CPD Caerdydd yn teithio i'r ddinas o Nantes yn Ffrainc.

Dywedodd y barnwr yn Llys Y Goron Caerdydd, Mr Ustus Foxton bod Henderson wedi amlygu "agwedd di-hid" a "heb hyd yn oed gadw'r cofnodion mwyaf sylfaenol".

Roedd Henderson, meddai, yn fwriadol wedi torri rheolau'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) "er mwyn gwneud elw", ac roedd yn "ddiofal, yn hytrach nag esgeulus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Sala ei ddarganfod, ond doedd dim modd dod o hyd i Mr Ibbotson, 59, o Crowley, Sir Lincoln

Dywedodd cyfreithiwr Henderson y bydd ei dîm cyfreithiol "nawr yn ystyried a fydd apêl yn erbyn yr euogfarn a / neu'r ddedfryd".

"Nawr bod yr achos wedi dod i ben mewn Llys y Goron, dymuna Mr Henderson fynegi ei gydymdeimlad yn ffurfiol i deuluoedd Emiliano Sala a David Ibbotson," dywedodd Andrew Shanahan.

"Mae'n bwysig nodi bod yr Awdurdod Hedfan Sifil wastad wedi derbyn nad y ffordd y cafodd yr hediad ei drefnu na'i weithredu achosodd i'r awyren blymio.

"Bydd y crwner yn y cwest yn penderfynu'n derfynol beth achosodd i'w awyren blymio... Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil wastad wedi derbyn bod yr awyren wedi ei chynnal yn briodol, ac felly nid oedd Mr Henderson wedi gwybod na rhagweld unrhyw nam."

Penderfynodd y barnwr na fyddai datganiad ar ran mam Mr Sala, Mercedes Taffarel yn cael ei ddarllen i'r llys gan fod y cyhuddiadau'n canolbwyntio ar drefniadau'r hediad, ond trwy wneud hynny "nid oedd bwriad i leihau impact llethol" y ddamwain arni.

Clywodd y llys hefyd bod y CAA wedi ysgrifennu at y diffynnydd yn dweud y bydd ei drwydded yn cael ei dileu, ond bod Henderson heb hedfa awyren ers 2019 am resymau meddygol. 

Dywedodd cyfarwyddwr diogelwch a rheoli gofod awyr y CAA, Rob Bishton bod "hediadau masnachol anghyfreithlon yn cynrychioli risg sylweddol i ddiogelwch ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu gan benderfyniad y llys heddiw

"Mae system y diwydiant awyrennau'n dibynnu ar onestrwydd pawb sy'n rhan ohono. Dylai unrhyw un sy'n trefnu hediad masnachol wastad bod â'r drwydded â'r caniatâd angenrheidiol."