20 wedi gwneud honiadau o gamdriniaeth Ynys Bŷr

  • Cyhoeddwyd
Ynys Bŷr

Mae'r heddlu bellach wedi clywed gan 20 o bobl sy'n honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol ar Ynys Bŷr flynyddoedd yn ôl, yn ystod eu plentyndod.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, ers Tachwedd 2017 mae 14 person arall wedi cysylltu â nhw i ddweud bod y mynach Thaddeus Kotik wedi eu cam-drin rhwng 1977 a 1987 ar yr ynys oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae un o'r bobl yma wedi galw eto am gynnal ymchwiliad cyhoeddus.

Bu farw Kotik yn 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol.

Dyw abad Ynys Bŷr heb ymateb i geisiadau gan y BBC am gyfweliad.

Y llynedd, derbyniodd chwe menyw iawndal yn dilyn cytundeb y tu hwnt i'r llys, ac fe ymddiheurodd yr abad pan ddaeth hi i'r amlwg nad oedd ei ragflaenydd wedi trosglwyddo cwynion am Kotik i'r heddlu yn 1990.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Thaddeus Kotik yn 1992

Mae dioddefwr arall wedi siarad gyda BBC Cymru ynglŷn ag effaith gweithredoedd Kotik ar ei bywyd.

Mae Jenny, nid ei henw iawn, yn dweud bod Kotik wedi ei cham-drin hi a'i dwy chwaer yn rhywiol yn y 1970au.

Roedden nhw'n mynd i'r ynys ar wyliau yn gyson yn ystod eu plentyndod.

Roedd Jenny yn ymwybodol iddi gael ei cham-drin, ond doedd hi ddim yn cofio pwy oedd yn gyfrifol tan ddiwedd y llynedd.

Dywedodd bod hyn wedi cael "effaith enfawr" ar ei bywyd.

'Anhwylder bwyta'

"Fel oedolyn, doeddwn i ddim yn ymddwyn mewn ffyrdd arferol ac roeddwn i'n sâl heb ddeall pam, roedd gen i deulu da a doedd pethau ddim yn gwneud synnwyr - pam bo fi'n ymateb mor afreolus?

"Ro' ni'n alcoholig, roedd gen i anhwylder bwyta ac roeddwn i'n cymysgu gyda phobl oedd yn gaeth i gyffuriau a phuteiniaid.

"Ro'n i'n cael perthynas gyda dynion treisgar oedd yn gaeth i alcohol, ac roedd y pethau ofnadwy yma bron a fy lladd."

Mae hi bellach wedi llwyddo i fyw heb alcohol a chyffuriau am 12 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ein gohebydd, Geraint Thomas, gais aflwyddiannus am gyfweliad gyda'r abad ar yr ynys

Yn chwech oed, dechreuodd Jenny gael hunllefau, oedd yn cynnwys gweld dyn yn edrych arni yn y gwely ac yn rhedeg ar ei hôl.

Wrth edrych yn ôl, sylweddolodd ei bod wedi cael ei cham-drin pan oedd rhwng pump a chwe blwydd oed ar ôl cymharu dau lun ysgol.

Dywedodd ei bod hi'n edrych fel tase hi wedi bod yn dioddef yn yr ail lun.

Ers rhoi'r gorau i yfed alcohol a chymryd cyffuriau, mae'n dweud bod cael atebion wedi bod yn flaenoriaeth iddi, a daeth o hyd i'r atebion y llynedd.

Y darnau'n syrthio i'w lle

Roedd hi'n ymwybodol bod un o'i chwiorydd wedi cael ei cham-drin gan Thaddeus Kotik, a'r llynedd, dywedodd ei chwaer arall wrthi ei bod hi wedi ei cham-drin ganddo wrth iddyn nhw ymweld â'r ynys ar wyliau yn y 1970au.

Ar ôl gwneud gwaith ymchwil, daethon nhw o hyd i erthyglau ar-lein ynglŷn ag honiadau ei fod e'n bedoffeil.

"Ar ôl hynny, syrthiodd y darnau i'w lle," meddai.

"Yn ffodus, mae mam yn cadw dyddiadur, ac yn ystod y cyfnod rhwng y ddau lun ysgol, pan o'n i'n bump ac yn chwech, daeth e i aros gyda ni am noson ym mis Tachwedd 1978.

"Dywedodd fy chwaer ei fod e wedi mynd lan lofft i weddïo, a dyna pryd fyddwn i wedi bod yn y gwely, yn cysgu, a dyna pryd roedd wedi tarfu arna i - a dyna ddechreuodd y gofid, yr hunllefau, cerdded yn fy nghwsg, yr holl broblemau oedd bron a'm lladd."

Ychwanegodd Jenny nad oedd hi a'i chwiorydd wedi sôn am y gamdriniaeth ar y pryd ond dywedodd nad oedd ymateb yr abaty wedi bod yn foddhaol yn gyffredinol.

"Dwi'n credu dylen nhw fod yn fwy agored," meddai.

"Mae'n ymddangos nad y'n nhw'n dweud digon. Dwi'n credu bod angen edrych ar y modd yr oedd y fynachlog yn cael ei rhedeg."

Mae BBC Cymru wedi gwneud sawl ymgais i gysylltu â'r abaty, ond heb gael ymateb.

Fe es i'r ynys yr wythnos hon er mwyn ceisio cael cyfweliad gyda'r abad, ond roedd yr ymgais yma hefyd yn un aflwyddiannus.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Jayne Butler, bod swyddogion arbenigol yn ymchwilio ac yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

"Os oes mwy o ddioddefwyr am rannu a chofrestru eu profiad, gwnewch hynny drwy ffonio 101," meddai.