Senedd Ieuenctid: Cyhoeddi'r aelodau newydd

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae aelodau Senedd Ieuenctid newydd Cymru wedi cael eu cyhoeddi, wedi i bron i 300 o bobl ifanc ymgeisio am 60 sedd.

Fe wnaeth miloedd o bobl ifanc bleidleisio dros y 40 aelod fyddai'n cynrychioli eu hetholaeth.

Cafodd yr 20 aelod arall eu dewis gan sefydliadau partner i sicrhau cynrychiolaeth i grwpiau amrywiol o bobl ifanc.

Un o'r aelodau newydd fydd y person anabl cyntaf i gael ei ethol i'r Senedd.

Bydd y Senedd Ieuenctid yn cwrdd ym mis Ionawr i ddechrau ar eu gwaith o gynrychioli pobl ifanc 11-17 oed.

"Mae pobl ifanc yn cyfrannu llawer i'n cymdeithas ac nid yw eu rhan yn ein gwlad damaid yn llai na rhan neb arall," meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones AS.

"Mae'n hanfodol bod ganddyn nhw gyfle i gymryd rhan yn ein democratiaeth."

Dyma fydd ail Senedd Ieuenctid Cymru, gyda'r cyntaf wedi ei hethol yn 2018.

Mae'r Senedd Ieuenctid yn cwrdd yn rheolaidd, ymgynghori â phobl ifanc, arwain ymchwiliadau, ac yn lobïo Aelodau'r Senedd llawn am faterion sydd o bwys i bobl ifanc.

'Ysu am newid'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd un o'r aelodau newydd, Poppy Jones, ei bod yn teimlo fod "yn rhaid" iddi sefyll yn yr etholiad.

"I mi, dwi'n teimlo bod gwleidyddiaeth nawr yn bwysicach fyth," meddai'r disgybl yn Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon, ac aelod newydd dros etholaeth Arfon.

Bu'n rhaid i'r ymgeiswyr grybwyll y tri phwnc fydden nhw'n dymuno canolbwyntio arnynt fel aelodau, a gweithredu ar newid hinsawdd oedd un o bynciau Poppy.

Gan ddweud nad oedd "llawer wedi cael ei wneud" ar y pwnc yn uwchgynhadledd COP26, penderfynodd Poppy i sefyll "er lles pobl ifanc eraill".

Dywedodd Qahira Shah, Aelod newydd y Senedd Ieuenctid Cymru dros Dde Caerdydd a Phenarth, ei bod yn "ysu i weld newidiadau yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc".

"Mae rhoi llais i bobl di-lais yn hollbwysig a byddwn ni ddim yn gweld gwelliant tan ein bod yn gwrando a gweithredu."

'Gosod esiampl'

Un arall sydd wedi cael ei ethol yw Seth Burke, 13 o Fro Morgannwg.

Seth fydd y person anabl cyntaf i gael ei ethol i'r Senedd.

Dywedodd ei fod yn dymuno "gosod esiampl i blant eraill yng Nghymru i ddilyn eu breuddwydion".

Mae gan Seth gyflwr prin Dystroffi'r Cyhyrau Duchenne a bydd yn cynrychioli Tŷ Hafan, ble mae'n derbyn gofal.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones AS bod yn rhaid i'r Senedd weithio'n galetach i sicrhau ei bod yn cynrychioli pobl Cymru'n "llawn".

"Mae'r Senedd Ieuenctid yn dangos i ni sut mae gwneud hynny."

Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru 2021-2023:

Gogledd Cymru:

  • Ynys Môn: Isaac Floyd-Eve

  • Arfon: Poppy Jones

  • Aberconwy: Owain Williams

  • Gorllewin Clwyd: Dylan Chetcuti

  • Dyffryn Clwyd: Finley Mills

  • Delyn: Laura Green

  • Alun a Glannau Dyfrdwy: Leaola Roberts-Biggs

  • Wrecsam: Bartosz Pawel Firmanty

  • De Clwyd: Rhys Rowlandson

  • GISDA: Keira Bailey-Hughes

  • EYST: Samantha Ogbeide

  • Tros Gynnal Plant Cymru: Amir Alenezi

Canolbarth a Gorllewin Cymru:

  • Ceredigion: Lloyd Warburton

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed: Tilly Jones

  • Preseli Penfro: Finn Sinclair

  • Dwyfor Meirionnydd: Iago Llŷn Evans

  • Maldwyn: Jake Dillon

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: Zach Davis

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: Iestyn Jones

  • Llanelli: Freddie Webber

  • Talking Hands: Kelsey Hannah Brookes

  • Anabledd Dysgu Cymru: Tegan Skyrme

  • Clwb Ffermwyr Ifanc: Cerys Harts

Dwyrain De Cymru:

  • Gorllewin Caerdydd: Ffion Williams

  • Gogledd Caerdydd: Ruben Kelman

  • Canol Caerdydd: Ellis Peares

  • De Caerdydd a Phenarth: Qahira Shah

  • Merthyr Tudful a Rhymni: Andrew Millar

  • Blaenau Gwent: Kasia Tomsa

  • Torfaen: Tegan Davies

  • Mynwy: Tobias Baysting

  • Caerffili: Harriet Wright-Nicholas

  • Islwyn: Maddie Mai Malpas

  • Gorllewin Casnewydd: Sonia Marwaha

  • Dwyrain Casnewydd: Fatma Nur Aksoy

  • Rhondda: Ruby Cradle

  • Cwm Cynon: Jack Lewis

  • Pontypridd: Ffion Fairclough

  • Bro Morgannwg: Evie Kwan

  • DIGON: Ffred Hayes

  • NYAS: Milly Floyd Evans

  • Girl Guiding Cymru: Fiona Garbutt

  • Race Council Cymru: Hanna Mahamed

Gorllewin De Cymru:

  • Gŵyr: Hermione Vaikunthanathan-Jones

  • Gorllewin Abertawe: Bisan Ibrahim

  • Dwyrain Abertawe: Ella Kenny

  • Castell-nedd: Jake Dorgan

  • Aberafan: Stella Orrin

  • Ogwr: Roan Goulden

  • Pen-y-bont: Ewan Bodilly

  • Tŷ Hafan: Seth Burke

  • Anabledd Dysgu Cymru: Georgia Miggins

  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: Ollie Davies

  • Urdd: Elena Ruddy

  • Clwb Bechgyn a Merched Cymru: Shania Adams

  • YMCA Abertawe: Bowen Raymond Cole

  • Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru (NDCS): Daniel Downton

  • Tros Gynnal Plant Cymru: Sultan Awolumate

  • Voice from Care Cymru: I'w gadarnhau

  • Llamau: I'w gadarnhau

Pynciau cysylltiedig