'Breuddwydio am y Beatles'… yn yfed te

  • Cyhoeddwyd
beatlesFfynhonnell y llun, Getty Images

"Be sydd yn sbesial am y Teatles yw darganfod yr arferol tu fewn i'r hynod"

Mae'r Beatles yn adnabyddus iawn am eu cerddoriaeth wrth gwrs, ac maent yn cael eu hystyried gan lawer fel y grŵp cerddorol mwyaf dylanwadol erioed.

Wedi'r cwbl nhw sydd wedi cael y nifer fwyaf o albymau rhif un, y mwyaf o senglau rhif un, a nhw sydd yn dal y record o fwyaf o werthiannau (600 miliwn!) yn fyd eang. Maen nhw hefyd yn cael eu hadnabod fel cymeriadau difyr - yn llawn hiwmor, direidi a chyfeillgarwch.

Ond fyddwch chi erioed wedi tybio fod paned o de wedi chwarae rhan mor bwysig ym mywyd a gwaith John Lennon, Paul McCartney, George Harrison a Ringo Starr?

Mae'n ymddangos fod te wedi chwarae rhan enfawr ym mywydau'r Fab Four, ac un sydd yn ymwybodol iawn o hyn yw Huw Spink, sydd yn newydd ryddhau rhifyn 11 o'i gylchgrawn The Teatles sy'n cofnodi lluniau o'r pedwar yn yfed te.

Ffynhonnell y llun, Huw Spink
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o'r 10 cyfrol cyntaf o'r Teatles

'Breuddwydio am y Beatles'

Daw Huw Spink o ardal Aberystwyth yn wreiddiol ond Lerpwl yw ei gartref ers deunaw mlynedd, sydd ddim yn syndod gan fod y grŵp yn enedigol o Lannau'r Merswy.

"Rwy'n gweithio fel llyfrgellydd ond dwi'n treulio rhan fwyaf o fy amser yn breuddwydio am y Beatles," meddai Huw.

"Un diwrnod daeth ffrind drosodd o Fanceinion yn benderfynol o ddod o hyd i lun welodd hi o George Harrison yn cal paned. Ar ôl crwydro am amser hir dyna fo, yn dal ei baned yn edrych mor falch. Dechreuais edrych am fwy o luniau a phedwar blynedd yn ddiweddarach, fi'n dal yn! Ma 'na gannoedd ohonyn nhw!"

Ffynhonnell y llun, Huw Spink
Disgrifiad o’r llun,

Huw ym mharc eiconig Strawberry Fields yn Lerpwl

Mae Huw yn hel y lluniau o bob mathau o lefydd. O'r we, o fideos, o lyfrau a hen gyfrol Beatles Book Monthly o'r 60au, yn ogystal â gan bobl sydd yn anfon lluniau ato yn ddyddiol.

"Rhybudd bach - os wyt ti'n dechrau edrych am gwpane o de mewn lluniau o'r Beatles, mae'n anodd stopio!"

'Does byth ddiwedd i stori'r Beatles'

Er bod yr holl rifynnau o'r Teatles yn cynnwys lluniau newydd o'r Beatles yn yfed te mae'n mynd y tu hwnt i hynny yn unig. Mae'n ddathliad o stori "anhygoel" y grŵp drwy eiriau ffeithiol a ffuglennol y bobl sydd a'r un obsesiwn a Huw.

"Mae'n anodd crynhoi'r holl beth am y Beatles heb gloncian am oriau, ond yr ateb syml yw bod eu cerddoriaeth yn wych, ma' nhw fel pobl yn llawn cymeriad ac mae eu stori yn llawn diddordeb. I fi mae popeth ynglŷn â nhw yn hudolus," meddai Huw.

"Bydd byth diwedd i'r stori am y Beatles - mae pobl yn darganfod nhw pob dydd. Un peth am Y Teatles Books yw - dydyn nhw ddim ond yn sôn am y Beatles. Mae'r rhan fwyaf o'r erthyglau am ffans o'r Beatles.

"Rwy'n credu fod gan bob ffan stori werth rhannu, a dyna be fi'n trio gwneud gyda cylchgrawn bach fi - torri lawr y gwahaniaeth rhwng awduron a darllenwyr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ymhlith tudalennau'r cylchgrawn mae darnau ffeithiol am hanes a bywyd y grŵp yn ogystal â straeon ffantasi a darluniau comig gan ffans sydd eisiau cadw stori'r grŵp yn fyw yn eu dychymyg. Mae eraill yn sôn am foment arbennig yn eu bywydau yn ymwneud a'r grŵp neu am sut wnaethon nhw eu darganfod.

O Ddulyn i Dehli ac o Lerpwl i Gaernarfon mae'r cylchgrawn yn cael ei anfon ar draws y byd. Mae Huw wedi anfon ei 3000fed rhifyn erbyn hyn sy'n "rhyfeddol," meddai.

"Mae'r ymateb wedi bod mor neis, mor gyfeillgar a cefnogol. Rwy'n gobeithio bod y bobl sy'n darllen a chyfrannu yn teimlo rhyw fath o berchnogaeth. Dyna'r syniad."

Ffynhonnell y llun, Huw Spink
Disgrifiad o’r llun,

Y cloriau cefn o gylchgronau The Teatles

'Te ym mhob man!'

Fe ryddhaodd y Beatles 21 albym a 277 can mewn cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 1960 a 1970. Yn y cyfnod hwnnw fe newidiodd eu cerddoriaeth, eu personoliaethau a'u steil yn aruthrol.

O sŵn roc a rôl a blues y dyddiau cynnar mewn albymau fel Beatles For Sale a Rubber Soul i synau mwy arbrofol a seicadelig albymau fel Revolver a Sgt Pepper's Lonely Hearts Club Band roedd y grŵp yn parhau i esblygu. Er hynny, roedd un peth yno i gadw eu traed ar y ddaear.

"Heb fod yn rhy pretentious mae'n hynod ddiddorol gweld nhw yn rhannu pot o de trwy gydol eu gyrfa - yng ngardd y McCartneys yn Lerpwl, yn stiwdio EMI, ac wrth iddyn nhw deithio'r byd o Efrog Newydd i India. Mae te bob man!" meddai Huw.

Ffynhonnell y llun, Huw Spink
Disgrifiad o’r llun,

Y gyfrol diweddara' o The Teatles

"Wrth iddyn nhw newid fel pobl, wrth i'r miwsig a'i ffasiwn newid, un peth oedd yn aros oedd eu te!"

"Be sydd yn sbesial am y Teatles yw darganfod yr arferol tu fewn i'r hynod. Does dim llawer yn gyffredin rhyngof i a John Lennon, ond mae'r ddau ohonom ni yn cymryd ein te gyda llaeth a dau siwgr!"

'Rhywbeth ym mhob llun'

I Huw un peth mae'r lluniau yma yn dangos yw'r cyfeillgarwch oedd yn bodoli rhwng y pedwar wrth iddyn nhw yfed te a hynny hyd at gyfnod olaf y grŵp yn recordio Abbey Road pan roedd eu perthynas wedi dirywio wedi deng mlynedd gyda'i gilydd.

"Roedd yfed te yn rhywbeth roeddent yn wneud gyda'i gilydd. Rhywbeth hollol egalitaraidd. Rhywbeth a oedd yn eu cadw fel uned trwy bopeth," esbonia Huw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae 'na bethau bach yn dod trwodd hefyd. Er enghraifft y ffordd mae John yn dal ei gwpan - mor delicate! Fel petai dyna'r ffordd wnaeth ei Modryb Mimi dysgu fe. Mae'n anodd dewis ffefryn - mae rhywbeth ym mhob llun."

"Mae yna pob tro rhywbeth i'w darganfod. Er enghraifft mae 'na fersiwn o Lucy in the Sky lle gallet ti clywed John yn cymryd sip o'i de cyn dechrau canu. Gwych!"

Hefyd o ddiddordeb: