Porthcawl: Dyn yn euog o ddynladdiad gydag un ergyd

  • Cyhoeddwyd
Carl ChinnockFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn 50 oed ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru gydag anaf difrifol i'w ben

Mae dyn o'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ei gael yn euog o ddynladdiad dyn lleol ym Mhorthcawl ar ôl rhoi un ergyd i'w wyneb.

Cafodd Carl Chinnock, 50, ei ddarganfod gydag anaf difrifol i'w ben ym maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl ychydig cyn hanner nos ar 23 Mehefin, a bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mr Chinnock wedi disgyn a tharo'i ben ar y llawr yn dilyn ergyd i'w wyneb gan Christopher George.

Roedd George, 27 o Heol-y-Berllan, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ddynladdiad, ond fe'i cafwyd yn euog ar ddiwedd achos tair wythnos yn Llys y Goron Caerdydd.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Lewis ddydd Gwener: "Fel mae'r achos hyn yn ei brofi, mae un ergyd yn gallu lladd - mae unrhyw un sydd yn credu ei fod yn iawn i fod mor dreisgar tuag at rywun arall yn gamblo gyda bywyd eu dioddefwr a'u bywyd nhw eu hunain."

'Chwilio am drwbwl'

Roedd George wedi bod yn yfed gyda'i ffrindiau, ond fe wnaeth eu gadael am tua 23:30 i fynd at Mr Chinnock, oedd yn gwaeddi yn y maes parcio.

Fe wnaeth Mr Chinnock ddisgyn i'r llawr a tharo'i ben yn dilyn ergyd George, yn ôl disgrifiad ffrindiau Mr Chinnock i'r llys.

Cafodd y dyn 50 oed ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, gydag anaf difrifol i'w ben, ble bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Salt LakeFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Chinnock ei ganfod ym maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl ar 23 Mehefin

Yn dilyn y digwyddiad, fe ddywedodd George wrth yrrwr ei dacsi adref ei fod wedi rhoi "slap" i rywun.

Doedd y dau ddyn ddim yn adnabod ei gilydd.

Dywedodd Prif Ditectif Arolygydd Mark Lewis: "Rydyn ni'n gwybod o fod wedi siarad gyda thystion fod y diffynnydd wedi bod yn defnyddio cyffuriau ac alcohol a'i fod yn chwilio am drwbwl y noson honno.

"Fe wnaeth bywyd Christopher George newid mewn chwinciad y noson honno, ond fe wnaeth y dioddefwr, Carl Chinnock, golli ei fywyd yn ddireswm."

Bydd George yn cael ei ddedfrydu ar 7 Ionawr 2022.

Pynciau cysylltiedig