Canfod achos Omicron yng Nghymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos gyntaf o amrywiolyn Omicron o'r coronafeirws wedi ei gadarnhau yng Nghymru.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mae'r achos wedi ei ganfod, ac mae'n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod effeithiau meddygol yr amrywiolyn yn dal i gael eu hasesu, ac nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn achosi salwch mwy difrifol.
Yn Ne Affrica y daeth yr amrywiolyn i'r amlwg yn gyntaf, ac mae wedi arwain at ehangu'r cynllun o frechiadau atgyfnerthu i geisio lleihau effeithiau'r salwch.
Mae Lloegr a'r Alban eisoes wedi cofnodi achosion o'r amrywiolyn, gafodd ei gadarnhau yn y DU gyntaf ar 27 Tachwedd.
'Pawb sydd angen ynysu yn gwneud hynny'
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth BBC Radio 4 brynhawn Gwener ei fod yn deall nad yw'r claf wedi'i daro'n rhy wael gan y feirws.
"Mae'r unigolyn wedi cael ei adnabod ac mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi cysylltu â nhw a'u cysylltiadau agos, ac ry'n ni'n hyderus fod y bobl sydd angen bod yn ynysu yn gwneud hynny nawr," meddai.
"Rwy'n deall eu bod yn gwneud yn weddol dda, ac nad ydyn nhw wedi cael eu taro'n wael gan y salwch."
Dywedodd Dr Eleri Davies, dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru, mai'r disgwyl yw y bydd rhagor o achosion o'r amrywiolyn yn dod i'r amlwg yma.
"Mi oedden ni'n disgwyl y byddai fe'n cyrraedd Cymru - does dim ond angen edrych ar y ffigyrau ar draws y Deyrnas Unedig a'r nifer o wledydd eraill ar draws y byd sydd wedi darganfod yr amrywiolyn yma," meddai.
"Felly dyw e ddim yn syndod o gwbl bod e yma. Fi'n credu bod disgwyl y gwelwn ni fwy.
"Yn yr achos yma does dim tystiolaeth o achosion pellach yn gysylltiedig â'r achos cyntaf yma, ond wrth gwrs mae'n bosib y bydd achosion eraill wedi dod i mewn i Gymru."
'Dim trosglwyddiad ehangach'
Ychwanegodd Dr Meng Khaw, cyfarwyddwr cenedlaethol gwasanaethau diogelu iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes "tystiolaeth o drosglwyddiad ehangach yn y gymuned".
"Mae nifer y mwtaniadau yn yr amrywiolyn Omicron yn peri pryder, ond rhagwelir amrywiolynnau newydd.
"Rydym yn adolygu amrywiolynnau yn barhaus, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i nodi, canfod a monitro amrywiolynnau newydd a hysbys.
"Amrywiolyn Delta yw'r straen amlycaf yng Nghymru o hyd.
"Yr un peth gorau y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun, eich cymuned a'r GIG rhag amrywiolynnau newydd o'r coronafeirws yw derbyn y cynnig o frechlyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021