Trenau newydd i 'wella' profiadau teithwyr wedi cwynion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tren newydd Metro De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un o drenau newydd cynllun Metro De Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd trenau newydd yn gwella profiadau teithwyr yn dilyn cwynion yn ystod y pandemig.

Yn ôl llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, mae teithwyr ar drenau fel "sardinau" ar hyn o bryd.

Mae'r cyntaf o drenau Metro De Cymru bellach wedi cyrraedd Caerdydd, a byddan nhw'n cael eu cyflwyno i'r rheilffyrdd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod trenau yn "sylfaenol ddiogel".

Daeth rheolau pellhau cymdeithasol ffurfiol i ben yng Nghymru ar 7 Awst ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi gofyn i deithwyr gadw "pellter parchus oddi wrth eraill" pan yn bosib.

Mae'n rhaid gwisgo mygydau yn y mwyafrif o fannau cyhoeddus dan do yng Nghymru, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwaith adeiladu yn Ffynnon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith adeiladu ym mhencadlys Metro De Cymru'n parhau yn Ffynnon Taf

Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, fod glanhau trenau yn rheolaidd ymhlith y mesurau oedd yn golygu nad oedd coronafeirws wedi'i ddarganfod ar unrhyw un o'i gwasanaethau.

"Rwy'n gwerthfawrogi nad yw'n teimlo'n iawn i fod ar drên gorlawn yng nghanol Covid, ond nid yw'r holl brofion rydyn ni wedi'u gwneud, a'n cydweithwyr yng ngweddill y DU wedi'u gwneud, am Covid ar drenau wedi darganfod unrhyw Covid ar wasanaethau trên," meddai.

"Felly rydyn ni'n credu, gyda'r holl fesurau rydyn ni'n eu rhoi ar waith, fod trenau yn sylfaenol ddiogel o'u cymharu â lleoedd eraill y mae pobl yn mynd iddyn nhw. Ond rydyn ni am wneud yn well."

Fe wnaeth arolwg barn diweddar gan YouGov ddangos fod 22% o bobl yng Nghymru yn credu bod darpariaeth reilffyrdd yn eu hardal yn ddrwg, gydag 11% yn dweud nad oes ganddynt unrhyw wasanaethau trên lleol o gwbl.

Dywedodd 22% arall fod eu gwasanaethau rheilffordd yn dda.

Yn ôl Mr Price mae eu hymchwil gyda chwsmeriaid yn dangos bodlonrwydd llawer uwch erbyn hyn, ond dywedodd ei fod yn "deall yn ddwfn" am bryderon cwsmeriaid.

James Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Price o Drafnidiaeth Cymru bod trenau yn "sylfaenol ddiogel"

Mae Ashley Caldwell, arlunydd o Gaerffili, yn teithio ar y trên yn rheolaidd i Gaerdydd.

Wrth deithio i'r brifddinas i weld arddangosfa yn ddiweddar, dywedodd bod y trên yno ar amser, gyda digon o seddi gwag, ond ar y ffordd adref roedd oedi, seddi yn eithaf llawn, ac nad yw'n "teimlo bod gwerth gwneud y siwrne".

"Profiad ofnadwy, ofnadwy a dweud y gwir - 22 munud yn hwyr, trên dan ei sang," meddai.

"Nid wy'n teimlo ei fod yn wasanaeth y gallwch chi ddibynnu arno o gwbl, yn enwedig yn ystod yr oriau brig.

"Alla i ddim deall sut mae'r profiad yma yn parhau i ddigwydd.

"Mae'n ymddangos fod yr un trenau, ar yr un amseroedd, yn cael eu gohirio neu eu canslo."

Ashley CaldwellFfynhonnell y llun, Ashley Caldwell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashley Caldwell wedi disgrifio'r profiad o deithio ar drên i'r brifddinas fel un "ofnadwy"

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar AS, ei bod am i weinidogion fynd i'r afael â phrofiadau "arswydus" ei hetholwyr.

"Yn blwmp ac yn blaen mae'r ymateb gan fy etholwyr wedi bod yn ddychrynllyd," meddai.

"Mae llawer ohonyn nhw wrth eu boddau yn mynychu digwyddiadau chwaraeon sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, a dros y penwythnosau diwethaf, pryd bynnag y bu digwyddiad chwaraeon, mae fy ebost wedi bod yn llawn negeseuon gan bobl sy'n hollol gandryll.

"Nid yn unig maen nhw'n cael eu hyrddio i mewn i drenau fel sardinau, ond does dim teimlad o bellhau cymdeithasol chwaith."

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod eu trenau'n "sylfaenol ddiogel" ac y bydd y trenau newydd ar gael i wella profiad teithwyr yn 2022.

Natasha Asghar
Disgrifiad o’r llun,

"Yn blwmp ac yn blaen mae'r ymateb gan fy etholwyr wedi bod yn ddychrynllyd," meddai Natasha Asghar

Wrth i Drafnidiaeth Cymru gynnal digwyddiad i arddangos y trenau cyntaf yng nghynllun newydd Metro De Cymru, amddiffynnodd y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd, Lee Waters AS ei benderfyniad i ddefnyddio car i gyrraedd y lansiad.

Dywedodd: "Pan oedd gen i swydd arferol, roeddwn i yn teithio i bobman ar feic ac ar drên.

"Nid yw fy swydd bresennol yn swydd arferol, felly mae'n anghynrychiadol, ac mae'n bwynt hawdd i'w wneud i ddweud fy mod i'n rhagrithiwr am wneud hynny."

Dywedodd fod teithiau'r mwyafrif o bobl yn "deithiau syml, ailadroddus, bob dydd" a bod y system drafnidiaeth gyhoeddus wedi'i "chynllunio i helpu'r rhan fwyaf o bobl i wneud y siwrneiau hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na mewn car".

"Gallwch chi ddewis rhywun a dweud nad yw hyn yn gweithio iddyn nhw - ond mae hynny'n baralel ffug," meddai.

Lee Waters AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Water wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddefnyddio car i gyrraedd lansiad trenau newydd Trafnidiaeth Cymru

Mae oedi o "fisoedd nid blynyddoedd" i'r prosiect Metro De Cymru oherwydd y pandemig, gyda gweithwyr yn parhau i uwchraddio trac ac adeiladu'r pencadlys yn Ffynnon Taf.

Mae disgwyl i'r system metro gwerth £750m gael ei chwblhau erbyn 2023. Bydd teithwyr yn gallu defnyddio'r un tocyn i deithio ar drenau, tramiau a bysiau ledled de Cymru.

Dywedodd Mr Waters ei fod yn gobeithio y bydd y trenau newydd yn "newid syniad pobl o sut beth yw trafnidiaeth gyhoeddus".

Pynciau cysylltiedig