Hosbis yn cefnu ar gefnogwyr wedi ffrae am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae elusen hosbis yn Wrecsam wedi torri pob cysylltiad â grŵp o'u cefnogwyr yn dilyn ffrae am y defnydd o'r iaith Gymraeg.
Mae Tŷ'r Eos yn cynnig gofal diwedd oes i gleifion yn y gogledd ddwyrain.
Ers blynyddoedd, mae grŵp Ffrindiau Tŷ'r Eos wedi bod yn codi arian i'r elusen trwy drefnu digwyddiadau'n bennaf yn yr iaith Gymraeg.
Ond mae'r hosbis wedi dweud nad ydyn nhw bellach eisiau cael eu cysylltu â Ffrindiau Tŷ'r Eos gan ddweud bod y grŵp wedi "ymyrryd" ac yn "amharu" ar waith yr elusen.
Mae'r grŵp yn gwadu hynny ac yn dweud eu bod wedi eu "tristáu" gan y sefyllfa ddiweddaraf.
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn dweud eu bod yn gobeithio gweithio gyda'r elusen yn y dyfodol.
'Achosi gofid mawr i staff'
Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, dywedodd Alison Brebner, cadeirydd pwyllgor codi arian elusen Hosbis Tŷ'r Eos, fis Medi: "Er bod yr elusen yn parhau'n ddiolchgar am gyfraniad eich grŵp, allwn ni ddim caniatáu i'r lefel o ymyrraeth yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd barhau'n hirach.
"Rydych wedi amharu ar waith yr adran codi arian ac wedi achosi gofid mawr i rai aelodau staff.
"Fedrwn ni ddim caniatáu rhagor o gysylltiad rhwng Ffrindiau Tŷ'r Eos a'r Hosbis."
Yn ôl Gareth Williams, cadeirydd Ffrindiau Tŷ'r Eos, roedd gan y grŵp berthynas dda iawn gyda'r elusen ac wedi ceisio eu hannog am flynyddoedd i wneud rhagor o ddefnydd o'r Gymraeg yn eu cyfathrebiadau cyhoeddus.
"Nid jest mater o gael polisi iaith Gymraeg ydy o - mae o ynglŷn ag agwedd gyffredinol," meddai.
Dywedodd bod y grŵp wedi cynnig gwirfoddolwyr i gyfieithu arwyddion a dogfennau ac ateb llinellau ffôn, ond mai ychydig o ymateb oedd wedi bod.
Ychwanegodd bod pethau wedi "suro" yn ddiweddar a bod y grŵp wedi gofyn am gyfarfod i "gyfaddawdu". Cafodd y cais hwnnw ei wrthod yn llythyr Ms Brebner.
Dywedodd aelod arall o bwyllgor Ffrindiau Tŷ'r Eos, Bob Edwards, ei fod o wedi bod mewn dau gyfarfod gyda'r hosbis i gynnig help i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, ond mai ychydig oedd wedi newid.
'Dim gweledigaeth'
Yn ôl Einir Jones, mae'n "loes calon fod pethau wedi dod i hyn".
"Mae'n fater sensitif iawn. 'Den ni'n gwybod pa mor bwysig ydy'r hosbis i bobl," meddai.
"Mae'r pethau bach o bwys. Does 'na ddim gweledigaeth. Os mai Cymraeg ydy eich iaith gyntaf chi, pan 'dech chi'n wael, mae'n bwysig gweld y Gymraeg o'ch cwmpas."
Roedd pob aelod o bwyllgor Ffrindiau Tŷ'r Eos a siaradodd â BBC Cymru'n dweud eu bod wedi eu tristáu ac eisiau parhau i gefnogi'r hosbis.
Ond mae'r pwyllgor wedi penderfynu dod â'u gwaith i ben ac wedi cynnal eu cyfarfod olaf.
Un arall fu'n gohebu â'r hosbis ynglŷn â'u defnydd o'r Gymraeg oedd John Morris, a gafodd ei ddigio gan gylchlythyr print yr hosbis o'r gwanwyn eleni oedd yn uniaith Saesneg.
"'Den ni ddim isio pob gair i fod yn ddwyieithog. Ond 'den ni isio nhw ddangos parch i ni, yn enwedig mewn cylchlythyr fel hyn a llythyrau at bobl sy'n codi'r arian," meddai.
"Maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg gyda'r cleifion dwi'n credu, ond dwi'n dweud bod y defnydd o'r Gymraeg yn yr ochr farchnata, gyda'r gwirfoddolwyr, yn warthus."
Dywedodd Gareth Williams nad oedd Mr Morris yn aelod o bwyllgor Ffrindiau Tŷ'r Eos nac wedi ysgrifennu ar ran Ffrindiau Tŷ'r Eos ar unrhyw achlysur.
Dywedodd Mr Williams ei fod "wedi, ac yn ymddiheuro" os oedd unrhyw ohebiaeth ganddo fo wedi amharu ar staff yr hosbis.
'Ymyrryd ac amharu ar waith yr hosbis'
Mae polisi iaith Gymraeg yr elusen yn nodi bod fersiynau Cymraeg o'r cylchlythyrau i fod ar gael yn ddigidol, bod arwyddion parhaol a dros dro i fod yn ddwyieithog, yn ogystal â'u deunydd marchnata a'u gwefan.
Mewn datganiad mae elusen Hosbis Tŷ'r Eos yn dweud "oherwydd ymddygiad parhaus grŵp penodol o gefnogwyr, bu'n rhaid i ni ofyn iddyn nhw roi'r gorau i ymyrryd ac amharu ar waith yr hosbis.
"Does dim hawl gan ddim un grŵp, waeth ba mor sylweddol eu cyfraniad ariannol, i geisio dylanwadu ar waith yr elusen a rhaid i reolaeth o'r elusen fod yn nwylo bwrdd yr ymddiriedolwyr bob amser.
"Yn anffodus, dirywiodd y sefyllfa i'r graddau nes effeithio ar staff yr Hosbis, a gafodd eu gadael yn eu dagrau gan rai aelodau o'r grŵp, a doedd gan yr hosbis ddim dewis ond torri cysylltiadau â'r grŵp dan sylw.
"Nid ar chwarae bach y penderfynwyd ar hyn gan fod ar yr Hosbis angen help cynifer o wirfoddolwyr codi arian ag sy'n bosib, ond mae dyletswydd hefyd i'w staff i warchod eu lles a'u hiechyd meddwl a gweithredu o fewn y rheolau a'r canllawiau."
Ychwanegodd y datganiad fod yr hosbis "yn falch o'u defnydd o'r Gymraeg".
"Ble bo'n bosib, mae cyhoeddiadau'r hosbis yn Gymraeg a Saesneg ac mae'r hosbis yn ceisio cysylltu'n Gymraeg gyda chymaint ag sy'n bosib o'r cleifion a'u teuluoedd," meddai.
"Mae'r hosbis yn gweithredu polisi iaith Gymraeg swyddogol. Rhaid i bopeth mae'r elusen yn ei wneud sy'n gofyn am wariant gael eu mesur yn erbyn prif waith yr elusen.
"Mae'r hosbis yn darparu gofal diwedd oes i gleifion a'u hanwyliaid. Dyna fydd ein blaenoriaeth bob tro."
'Cynnig cymorth' i'r hosbis
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi cysylltu â Hosbis Tŷ'r Eos "i gynnig cymorth iddynt ddatblygu eu defnydd o'r Gymraeg" yn dilyn cais gan aelod o'r cyhoedd.
"Er mwyn rhannu arferion da a syniadau creadigol am sut i ddefnyddio'r Gymraeg, rydym yn cynnal rhwydwaith elusennau, ac wedi gwahodd Tŷ'r Eos i ymuno yn y rhwydwaith," meddai.
"Nid ydym wedi derbyn ymateb eto, ond rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda'r hosbis a'u cefnogi wrth iddynt gynllunio'u gwasanaethau Cymraeg yn y dyfodol."
Yn ôl yr elusen daeth y cynnig gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar adeg pan oedd y bwrdd newydd asesu eu polisi iaith Gymraeg, a'r teimlad oedd nad oedd angen cymorth ar hyn o bryd, ond y bydd hynny'n cael ei adolygu yn barhaus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020