5 gair gaeafol a'u hystyron

  • Cyhoeddwyd

Mae mis ola'r flwyddyn yn llawn geiriau gaeafol. Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol sy'n ein dysgu am rai o'r geiriau Cymraeg sy'n gysylltiedig â thymor oera'r flwyddyn.

Ôd

Ffynhonnell y llun, Pixabay

Eira yw ystyr ôd, ac odi fyddai bwrw eira - dyma eiriau sydd bellach yn gyfyngedig i ambell ardal yn y gogledd-ddwyrain, fel Rhosllannerchrugog.

Yn 1469 (neu o bosibl 1486), ac yntau'n byw yn abaty Glyn-y-groes yn Llangollen, cadwodd y bardd Gutun Owain gofnod o'r tywydd am y deuddeng niwrnod rhwng dydd Nadolig a nos Ystwyll (5 Ionawr) ͏- dyma, efallai, yw'r dyddiadur tywydd cynharaf yn Gymraeg.

Credai pobl ers talwm fod y tywydd yn ystod y deuddeng niwrnod hyn yn arwydd pwysig o'r tywydd i ddod yn y flwyddyn ganlynol yn ogystal ag arwydd o ffawd unigolion. Er enghraifft byddai gwynt cryf ar ddydd Nadolig yn arwydd o flwyddyn drychinebus i bobl gyfoethog a phwerus.

Ar 28 Rhagfyr, cofnododd Gutun Owain bod 'ôd yn fynych' yn ystod y dydd ac ar y diwrnod canlynol fod tywydd braf yn ystod y dydd ond 'ôd y nos honno'.

Robin goch

Ffynhonnell y llun, Andrea_Hill

Robin goch ar ben y rhiniog

Yn gofyn tamaid heb un geiniog,

Ac yn dwedyd yn ysmala:

'Mae hi'n oer fe ddaw yr eira.'

Y robin goch neu'r robin yw un o'r adar anwylaf a ddaw i'r ardd yn ystod misoedd llwm y gaeaf - mae'n hoff o gwmni ac mae modd dofi ambell un i gymryd bwyd o'ch llaw. Does ryfedd, felly, fod rhai'n credu bod ymweliad gan robin yn arwydd fod aelod agos o'r teulu a fu farw yn ceisio cysylltu.

Ceir sawl enw arno yn Gymraeg ͏͏- bronrhuddyn, brongoch, hobi goch, a'r gair hobi, fel robin, yn tarddu yn y pen draw o'r enw Robert. Mae'r enwau i gyd yn tynnu sylw at liw coch trawiadol bron y robin - ond arhoswch funud bach, onid oren yw'r lliw mewn gwirionedd?

Y gwir amdani yw y gallai coch ers talwm gyfeirio at sbectrwm eang o liwiau - o oren i frown (fel siwgr coch am siwgr demerara). Os trowch at Eiriadur Prifysgol Cymru fe welwch mai dim ond ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae oren a brown wedi bod yn enwau ar liwiau yn Gymraeg - cyn hynny byddai coch yn ddigonol, a byddai cyfuniadau fel melyngoch, rhuddgoch, dugoch, llwytgoch, ac ati, yn cyfleu union wawr y lliw pe bai angen.

Llosg eira

Ffynhonnell y llun, Blueastro

Un o felltithion y gaeaf yw llosg eira neu losgi eira, ymadrodd perffaith i ddisgrifio'r chwyddi neu'r cochni poenus a choslyd sy'n effeithio ar y traed a'r dwylo ar ôl bod allan ar ddiwrnod rhewllyd yn y gaeaf, yn enwedig o'u cynhesu'n rhy gyflym o dan y tap dŵr poeth neu o flaen tanllwyth o dân.

Llech eira medd eraill, a'r gair llech yn disgrifio chwyddi ar y croen (gair a ddefnyddid hefyd ers talwm am glwy'r pennau ac am ricets). Dieithr i mi, sy'n dod o Wynedd yn wreiddiol, yw malaith neu maleithiau, ac fel y gair cibi neu gibws, tuedda i gyfeirio at fath arbennig o losg eira yn sawdl y troed.

Hen air arall am y cyflwr yw perfigedd. Yn y bymthegfed ganrif canodd y bardd Llywelyn ap Gutun, a oedd yn dioddef o losg eira ar y pryd, gerdd i ofyn am gi gan ryw Gutun Siancyn - gan fod y ci arbennig hwnnw'n gallu gwella llosg eira drwy lyfu'r traed poenus!

Starfio

Ffynhonnell y llun, PrettyVectors

Pan fydd hi'n eithafol oer, cwynwn ein bod bron â fferru neu'n rhynnu. Mae'r ddau air yn sylfaenol yn golygu cyffio gan oerfel, bron fel petai'r cymalau wedi rhewi'n gorn. Gair arall am yr un cyflwr yw starfio. Ei ystyr fwyaf arferol, efallai, yw newynu neu lwgu am fwyd, ond mewn rhai ardaloedd gall hefyd olygu fferru gan oerfel.

Mae'n amlwg mai o'r gair Saesneg 'starve' y daw'r gair hwn, ac mae hanes y gair Saesneg yn esbonio'r ddwy ystyr wahanol hyn a geir i starfio yn Gymraeg.

Marw yw ystyr sylfaenol 'starve', fel yr Almaeneg 'sterben', a chyffredin ers talwm - a llawer rhy gyffredin heddiw - oedd marw gan oerfel neu farw gan newyn. O'r herwydd magodd y ferf 'starve' y ddwy ystyr hyn yn gynnar yn yr iaith Saesneg, a'u trosglwyddo i'r Gymraeg pan ddaeth y ferf starfio i'n hiaith dros 350 o flynyddoedd yn ôl.

Annwyd

Ffynhonnell y llun, julkirio

Ystyr sylfaenol y gair annwyd yw oerfel: 'Rhag annwyd ni weryd cannwyll', meddai hen ddihareb a gadwyd yn Llyfr Coch Hergest, llawysgrif a ysgrifennwyd tua 1400. Hynny ydi, dydi cannwyll yn dda i ddim rhag yr oerfel - ni fydd hi'n cynhesu dim arnoch chi gan mai prin iawn yw'r gwres a ddaw ohoni.

Yn ddiweddarach y daeth annwyd i olygu'r haint a gysylltir, yn gam neu'n gymwys, â bod yn oer; haint sy'n cynnwys symptomau fel trwyn yn rhedeg, peswch, cur yn y pen ac ati.

Yn hollol annibynnol, digwyddodd yr un datblygiad ystyr i'r gair 'cold' yn Saesneg. Yn ôl y bardd Guto'r Glyn, a ganai yn y bymthegfed ganrif, roedd ychwanegu sbeisys fel sinamwn, clofs, cwmin, pupur a sinsir at fwyd yn llesol iawn er mwyn gwarchod rhag yr annwyd a gwella ohono.

Rydym bellach yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd sbeisys o'r fath mewn bwyd, gan fod nifer ohonynt yn cynnwys sylweddau gwrthfiotig a gwrthfirol effeithiol.

Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ar 5 Rhagfyr 2021.

Pynciau cysylltiedig