Dymuniadau da i Archesgob Cymru ar ei ymddeoliad

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedicaf John Davies
Disgrifiad o’r llun,

John Davies yw 13eg Archesgob Cymru

Bydd Archesgob Cymru, John Davies, yn ymddeol ddydd Sul ar ôl pedair blynedd yn arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd yr Archesgob John, 68 oed, yn ymddeol hefyd o fod yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu - swydd y mae wedi ei chyflawni am y 13 o flynyddoedd.

John Davies oedd 13eg Archesgob Cymru a bu'n arwain yr Eglwys yng Nghymru wrth iddi gyrraedd ei chanmlwyddiant yn 2020 ac yng nghyfnod y pandemig.

Wrth ffarwelio ag ef disgrifiodd Archesgob Caergaint ac arweinydd y Cymundeb Anglicanaidd, Justin Welby ef fel "cydweithiwr gwerthfawr" ac fe roddodd deyrnged i'w ddoethineb a'i allu.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Davies ei eni yng Nghasnewydd a'i ordeinio yn 1984 wedi gyrfa ym myd y gyfraith

Wrth ymddeol dywedodd yr Archesgob John: "Mae arwain wedi bod yn fraint ac yn her. Yn ystod fy nghyfnod yn Esgob ac Archesgob rwyf wedi ceisio wynebu pob her gyda gweledigaeth, dewrder ac amynedd gan sicrhau Eglwys sy'n llai o ddirgelwch ac yn fwy croesawus.

"Dan yr amgylchiadau eithriadol o anodd presennol, fe wnaeth cydymdeimlad, dychymyg a blaengaredd nifer o bobl argraff anferth arnaf - pobl sydd wedi llwyddo i wneud yr Eglwys yn fwy perthnasol."

Yn ystod ei gyfnod fel arweinydd dangosodd yr Archesgob John ddiddordeb dwfn mewn materion cyfiawnder cymdeithasol, gan roi barn ar lawer o faterion gan gynnwys digartrefedd a thai, problemau gwledig, rhoi organau a thlodi.

Bu'n gadeirydd ar Housing Justice Cymru ers iddo gael ei lansio yn 2016, ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolydd Cymorth Cristnogol, gan gadeirio ei Bwyllgor Cenedlaethol yng Nghymru am bron i naw mlynedd o 2010.

Disgrifiad o’r llun,

Esgob Bangor, Andy John, fydd yn arwain yr Eglwys yng Nghymru tan y bydd Archesgob newydd yn cael ei benodi

Esgob Bangor, Andrew John, fydd yn arwain yr Eglwys nes y bydd Archesgob newydd yn cael ei ethol yn hwyrach yn y flwyddyn.

Dywedodd: "Mae John wedi bod yn gadarn a phendant yn yr amseroedd anodd iawn yma, gan gynnig sefydlogrwydd yr oedd mawr ei angen a llais cysurlon, i'r rhai yn yr Eglwys ac yn y gymuned ehangach.

"Ar ran ei gyd-esgobion, rwy'n diolch iddo am yr oruchwyliaeth y mae wedi ei rhoi i ni ac yn anfon ein dymuniadau gorau un am ymddeoliad hir a hapus."

Dywedodd prif weithredwr yr Eglwys, Simon Lloyd, "Daeth yr Archesgob John â'i brofiad eang, ei wybodaeth enfawr, ei hiwmor a'i gariad dwfn at yr Eglwys i'w swydd. Bu'n eiriolwr llawn perswâd dros newid ac arweiniodd yr Eglwys i ddynodi a rhoi adnoddau i lawer o gyfleoedd newydd. Rwy'n dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo."

Daw John Davies yn wreiddiol o Gasnewydd ac mae wedi arwain yr Eglwys yng Nghymru ers ymddeoliad y Dr Barry Morgan yn Ionawr 2017 - yn gyntaf fel uwch esgob, ac yna yn Archesgob yn dilyn ei ethol ym Medi'r un flwyddyn.

Cyfreithiwr oedd e'n wreiddiol yn arbenigo ar gyfraith droseddol ond yna gadawodd y gyfraith i ddod i'r weinidogaeth ac fe gafodd ei ordeinio ym 1984.

Gwasanaethodd yr Archesgob John mewn nifer o blwyfi gwledig yn Esgobaeth Mynwy i ddechrau. Yn 2000 fe'i penodwyd yn Ddeon Aberhonddu ac wyth mlynedd wedi hynny cafodd ei ethol yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.

Pynciau cysylltiedig