Trolio 'erchyll' merch ysgol ar ôl rhannu profiad Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Maisy Evans: "Fy mhrofiad i o Covid ac anti-vaxxers Twitter"

Mae merch ysgol wnaeth dreulio cyfnod yn yr ysbyty eleni yn dioddef o Covid-19 wedi siarad am y tro cyntaf am y negeseuon "erchyll" a gafodd hi yn sgil ei salwch.

Cafodd Maisy Evans, 18, brawf Covid positif ym mis Awst ychydig ddyddiau wedi ei brechiad cyntaf, ond o fewn pythefnos roedd ei chyflwr wedi gwaethygu ac roedd hi'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Wrth iddi ddechrau gwella, fe gyhoeddodd neges ar Twitter gyda llun ohoni mewn masg ocsigen, gan annog eraill i wisgo mwgwd a chael eu brechu os yn bosib.

Ond ar ôl derbyn negeseuon yn dymuno'n dda iddi, dechreuodd gael rhai yn herio ei stori a'i chyhuddo o ledaenu celwydd am y brechlyn a'r feirws.

'Negeseuon gwarthus'

"O'dd y llun ddim yn hyfryd ond o'dd rhaid i fi ledaenu'r neges rywsut, a nes i ddweud yn y tweet, fi'n gwybod yn union pa fwgwd fysen i'n licio gwisgo yn y dyfodol," meddai.

"Yn gyntaf ges i gannoedd o negeseuon hyfryd gan bobl ledled y byd yn dweud 'brysia wella', 'dymuniadau gorau' ac yn y blaen.

"Ond wedyn daeth y casineb o'r gymuned anti-vax.

"'Naeth nifer enfawr o bobl ddod tuag ato fi yn dweud pethau hynod o gas, yn dweud mai fi fydd ar fai am unrhyw farwolaethau sy'n dod o'r brechlyn, mai fi oedd Satan, bo' fi yn Nazi.

Disgrifiad o’r llun,

Fe bostiodd Maisy Evans y lluniau uchod at Twitter, gan ddweud ei bod hi'n "hawdd" gwybod pa fwgwd y byddai'n well ganddi wisgo

"O'dd rhai negeseuon yn warthus, o'dd y geirfa o'n nhw'n defnyddio yn erchyll."

Ymhlith y negeseuon roedd nifer yn cwestiynu ai Covid oedd wedi achosi ei salwch - oedd yn cynnwys clot ar yr ysgyfaint - gan geisio beio brechlyn Pfizer yn lle hynny.

Ond roedd eraill hyd yn oed yn fwy sarhaus, gan gynnwys rhai yn ei chyhuddo o beryglu bywydau pobl ifanc eraill, ac hyd yn oed ei chyhuddo o fod yn 'actores' oedd wedi dyfeisio'r stori.

Er iddi hi a'i ffrindiau gwyno wrth Twitter am rai o'r negeseuon, mae'n dweud ei bod hi wedi bod "rhy sâl i ddarllen pob un".

"Ond y rhai nes i weld, o'n nhw'n horrible, a 'naeth cwpl o bobl... sy'n enwog am beidio derbyn y brechlyn hefyd ymgysylltu gyda'r tweet."

'Lwcus iawn'

Dywedodd Maisy ei bod wedi profi "pob symptom posib" o Covid yn ystod y dyddiau cyntaf, hyd yn oed cyn iddi orfod mynd i'r ysbyty.

Wedi iddi orfod mynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor, treuliodd dros wythnos ar uned resbiradu dibyniaeth uchel wedi i feddygon ddod o hyd i geulad ar ei hysgyfaint, a niwmonia wedi ei achosi can Covid.

Fe wnaeth meddygon gadarnhau wrthi mai'r afiechyd oedd yn gyfrifol am ei salwch, ac mae'n dweud ei bod ei diolch i staff y gwasanaeth iechyd yn enfawr.

"Hebddyn nhw ni fyswn i yma heddiw," meddai. "Rwy'n lwcus, lwcus iawn i fod yn fyw."