Dim disgwyl newidiadau sylweddol i reoliadau Covid
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad coronafeirws Cymru ddydd Gwener yn annhebygol o weld newidiadau sylweddol i gyfyngiadau Covid y wlad, mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall.
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi a fydd unrhyw newidiadau i reoliadau yfory.
Mae'n dilyn y symudiad i Gynllun B yn Lloegr, sy'n debyg i reolau pandemig cyfredol Cymru.
Mae gweinidogion wedi dweud bod Cymru yn wynebu ton fawr o'r amrywiolyn Omicron newydd, gyda disgwyl uchafbwynt ym mis Ionawr.
Fe wnaeth aelodau o Lywodraeth Cymru drafod y sefyllfa ddiweddaraf mewn cyfarfod cabinet ddydd Iau, cyn yr adolygiad ddydd Gwener.
Galw am gyfnod clo?
Mae'r blog gwleidyddol Guido Fawkes wedi cyhoeddi honiadau bod Mark Drakeford wedi galw am gyfnod clo rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ystod galwad ffôn rhwng uwch weinidogion y DU a gweinidogion datganoledig.
Gwrthododd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wneud sylw ar yr adroddiad, gan ddweud nad yw'r weinyddiaeth yn "rhoi sylwadau ar adroddiadau a ddatgelwyd o drafodaethau cyfrinachol".
Ychwanegodd: "Er bod pryder cynyddol am yr amrywiolyn omicron, nid ydym yn rhagweld gwneud newidiadau sylweddol i'r rheoliadau presennol ar hyn o bryd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos ar gyfer llawer o'r pandemig.
Er nad hwn fyddai'r tro cyntaf i'r amseru gael ei newid, credir y gall gweinidogion nawr symud i'w hadolygu'n fwy rheolaidd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021