Defnyddio gwymon yn lle plastig i atal llygredd?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plastic pollution in thesea
Disgrifiad o’r llun,

Mae un cwmni biotechnegol yn cynllunio i ddefnyddio gwymon yn lle plastig

Mae dyn o Wrecsam wedi dechrau gwneud bagiau cludo nwyddau ac eitemau eraill o galsiwm carbonad.

Dywed David Hughes o gwmni Happy Dolphin ei fod wedi dod i'r penderfyniad wedi iddo weld rhaglen Blue Planet, a oedd yn dangos maint ac effaith llygredd plastig yn y môr.

Mae calsiwm carbonad i'w ganfod mewn plisgyn ŵy.

Yn y cyfamser mae cwmni biotechnegol o Ynys Môn yn gobeithio y bydd modd defnyddio gwymon i becynnu bwyd.

Amcangyfrifir bod 13 miliwn tunnell o blastig yn cael ei ollwng i'r môr bob blwyddyn.

Er bod Cymru ymhlith gwledydd gorau yn y byd o ran ailgylchu dywed Mr Hughes bod nifer o'r cynlluniau wedi "dyddio".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed David Hughes bod defnyddwyr yn barod i dalu "ychydig bach mwy i wneud gwahaniaeth"

"Ry'n am i Lywodraeth Cymru weld bod yna genhedlaeth newydd o gynhyrchion y gellir eu compostio - mae'r rhain yn gweithio'n well ac fe all y deunydd newydd wneud cryn wahaniaeth," meddai.

Mae deunydd sy'n cynnwys calsiwm carbonad yn dadelfennu yn naturiol i'r amgylchedd.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, wrth blant yn ystod cynhadledd COP26 bod yn rhaid gostwng y defnydd o blastig ac nad ailgylchu deunyddiau plastig oedd yr ateb.

'Adnodd adnewyddadwy'

Mae cwmni PlantSea, sydd wedi'i leoli yng Ngaerwen ar Ynys Môn, yn ymchwilio i sut mae modd defnyddio gwymon ar gyfer pecynnu bwyd a dibenion eraill.

"Ry'n yn gweld y gall gwymon gael ei ddefnyddio'n rhannol yn lle plastig," medd Gianmarco Sanfrantello o'r cwmni.

"Mae gwymon yn adnodd adnewyddadwy ac mae digon yn ein moroedd.

"Ein nod yw ceisio cael gwared ar lygredd plastig."

Disgrifiad o’r llun,

David Hughes: "Fe allai'r deunydd newydd yma wneud gwahaniaeth mawr"

Dywed y ddau gwmni bod pris y ddau gynnyrch amgen yn "gystadleuol".

"Ry'n ni angen y llywodraethau ac yn enwedig archfarchnadoedd i'w treialu," meddai Mr Hughes.

Dywedodd bod defnyddwyr yn barod i dalu "ychydig bach mwy i wneud gwahaniaeth".

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod "wastad yn barod i gefnogi arloesedd yn y maes".

"Mae gan fusnesau a diwydiant ran bwysig i'w chwarae er mwyn cwrdd â'r gofyn," medd llefarydd.

"Rhaid i ni newid ein harferion, fel bod pobl yn defnyddio llai o eitemau un tro, be bynnag y deunydd."