Gallai pecyn cig newydd 'arbed tunelli o wastraff plastig'
- Cyhoeddwyd
Fe allai pecynnau cig ailgylchadwy gafodd eu dyfeisio gan fyfyriwr Prifysgol Abertawe arbed miloedd o dunelli o wastraff plastig.
Fe wnaeth Alaa Alaizoki, sy'n gwneud gradd doethuriaeth mewn peirianneg, ddyfeisio pecyn sydd ddim yn cynnwys darn o badin plastig ar wahân, ac mae modd ei ailgylchu'n llawn.
Gallai'r dechnoleg gael ei defnyddio mewn cynhyrchion eraill fel clytiau, yn ôl Mr Alaizoki.
Dywedodd Hybu Cig Cymru bod cwsmeriaid yn dymuno gwybod bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd "amgylcheddol gyfrifol".
Mae tua 800,000 tunnell fetrig o wastraff pecynnu cig yn cael ei gynhyrchu yn y DU bob blwyddyn.
Mae rhwng 5% ac 8% o hyn yn dod o'r padin amsugnol.
Mae dyfais Mr Alaizoki yn barod yn cael ei ddefnyddio gan rhai o ddarparwyr a gwerthwyr bwyd mwyaf y DU, gan gynnwys Sainsbury's ac Asda, mewn partneriaeth gyda'r gwneuthurwyr pecynnu Klöckner Pentaplast.
Mae pecyn cig Mr Alaizoki yn gwbl ailgylchadwy ac mae'n galluogi cwsmeriaid i edrych ar y cig o bob ongl trwy blastig clir.
'Rhwystro suddion rhag gollwng'
"Mae pecynnau traddodiadol yn gweithio'n debyg i glytiau neu dywel misglwyf," meddai Mr Alaizoki, "trwy dynnu lleithder i mewn a'i droi mewn i gel sydd methu gollwng yn ôl mewn i'r cig."
Ond mae modd golchi pecynnau Mr Alaizoki o dan y tap, sy'n golygu ei fod yn gemegol a'n fiolegol ddiogel i'w ailgylchu.
"Fedri di ei droi ben i waered, ei ysgwyd, ei ollwng, ond mae ffiseg yr hylif yn golygu nad oes modd i'r sudd ddianc nes i ti ei olchi," meddai.
Mae'r dechnoleg wedi cael patent ar gyfer ei ddefnyddio i becynnu bwyd, ond dywedodd Mr Alaizoki y gallai gael sawl defnydd arall.
"Ffiseg yw ffiseg, does dim ots a yw'n pecynnu bwyd neu unrhyw beth arall," meddai.
"Mae gan hyn y potensial i gael ei ddefnyddio mewn clytiau a thywelion mislif."
'Safonau uwch'
Dywedodd Mr Alaizoki, sy'n wreiddiol o Syria, ei fod yn falch o fedru rhoi rhywbeth yn ôl i'r wlad wnaeth ei dderbyn.
"Mae Abertawe wedi cefnogi fy addysg ac wedi rhoi'r cyfle i mi gyflawni fy mhotensial," meddai.
"Mae gen i wraig a phlentyn yma nawr, ac mae'n teimlo fel adref, er bod y mwyafrif o'n nheulu dal yn Syria.
"Rydw i mor falch o fod wedi dyfeisio rhywbeth fydd yn gwella bywydau pawb yn fy nghartref mabwysiedig."
Dywedodd Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru, bod mwy o gwsmeriaid eisiau gwybod fod y bwyd maen nhw'n ei brynu wedi ei gynhyrchu yn y ffordd fwyaf "amgylcheddol gyfrifol".
"Mae'r sector cig oen a chig eidion yng Nghymru yn arwain y byd o ran cynaliadwyedd. Gallai dyfais pecynnu fel hon ddarparu safonau sydd hyd yn oed yn uwch," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021