'Dryswch' am ganolfannau brechu cerdded-i-mewn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ystradgynlais
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na giwiau y tu allan i'r ganolfan frechu yn Ystradgynlais wrth i bobl aros heb apwyntiad am frechiad

Mae "cryn ddryswch" am ganolfannau brechu cerdded-i-mewn yng Nghymru, meddai un Aelod o'r Senedd.

Dywed gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, y bydd brechlyn atgyfnerthu Covid - neu booster - ar gael mewn canolfannau heb apwyntiad ar gyfer grwpiau penodol o bobl.

Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru fod "anghysondeb" rhwng yr hyn a ddywedodd Ms Morgan a'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod pobl yn rhydd i fynychu canolfannau brechu pryd bynnag maen nhw eisiau, yn debyg i'r golygfeydd sydd wedi'u gweld yn Lloegr.

'Cryn ddryswch'

Dywedodd Ms Morgan na fyddai system cerdded-i-mewn "rhydd i bawb" yn digwydd yng Nghymru, gan gymharu'r golygfeydd yn Lloegr i rai o'r "cryfaf yn goroesi".

Ond mae BBC Cymru wedi clywed adroddiadau bod trydydd pigiad yn cael ei roi heb apwyntiad mewn rhai lleoliadau, heb gyfyngiadau i grwpiau penodol.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd hefyd wedi dweud y bydd modd i bobl archebu lle ar-lein neu alw mewn i feddygfeydd penodol.

Bydd staff clinigol yn symud i ganolfannau brechu wrth i'r GIG flaenoriaethu rhoi trydydd pigiad Covid i gymaint o bobl â phosib cyn diwedd y mis mewn ymgais i ddelio â'r amrywiolyn Omicron.

Cafodd tua 18% o holl apwyntiadau brechu Cymru o fewn yr wythnos ddiwethaf eu colli, yn ôl y Llywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ganolfan yn Llandudno yn dawel fore Mercher

Dywedodd Mr ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae'n amlwg bod cryn ddryswch ynghylch mater canolfannau cerdded-i-mewn ac anghysondeb sylweddol rhwng yr hyn y mae'r gweinidog yn ei ddweud sy'n digwydd... a beth sy'n digwydd mewn gwirionedd."

Mae pobl "eisiau gwybod bod eu rhai nhw yn digwydd mewn ffordd drefnus, y bydd eu tro yn dod yn gyflym".

Mae'n achosi dryswch, meddai, "os yw pobl yn clywed am rai cerdded-i-mewn yn digwydd mewn rhai ardaloedd, ond mae'r llywodraeth wedi dweud wrthyn nhw am aros eu tro".

"Mae gwir angen i'r llywodraeth gael gafael ar hyn," meddai.

Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Ms Morgan nad oedd system Cymru am fod yr un peth a Lloegr ac na fyddai "rhyddid i bawb" gerdded mewn i gael eu hwb frechlyn.

"Dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn rhynnu y tu allan yn oerfel y gaeaf yn ciwio, fel sy'n digwydd yn Lloegr," meddai.

Dywedodd Claire Williams, arweinydd cynllun brechu Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod yn cynnig apwyntiadau cerdded-i-mewn ers yr haf.

"Ry'n ni'n parhau i wneud hynny oherwydd bod hwb mawr ar hyn o bryd a ffocws ar y brechlyn atgyfnerthu," meddai wrth raglen Radio Wales Breakfast.

"Ac ry'n ni'n gwybod os nad ydych chi wedi cael eich dos cyntaf a'r ail, ry'ch chi hyd yn oed yn fwy bregus gyda'r amrywiolyn newydd."

Ychwanegodd Ms Williams bod 10-15% o bobl oedd ag apwyntiadau am hwb frechlyn heb ddod i'w derbyn.

"Beth dwi'n gofyn yw bod y cyhoedd yn blaenoriaethu eu hapwyntiad yn yr un ffordd ag y' ni'n blaenoriaethu'r cynnig iddyn nhw," meddai.

Dywedodd na fydd y ganolfan ar agor ar ddydd Nadolig na dydd San Steffan.

Ond mewn datganiad gan y bwrdd iechyd yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd "nad oedd modd cael brechlyn atgyfnerthu trwy gerdded i mewn heb apwyntiad" a bod hynny'n "cael ei adolygu ar gyfer grwpiau risg uchel yn unig".

Ychwanegodd y bydd opsiwn cerdded-i-mewn yn parhau mewn canolfannau brechu cymunedol i bobl sydd heb dderbyn dos cyntaf neu ail o'r brechlyn.

'Angen i'r cyfarwyddiadau fod yn ddealladwy'

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Ar hyn o bryd mae na weithgarwch enfawr yn digwydd a chymaint o newyddion i bobl amsugno.

"Felly y prif beth yw gwneud yn siŵr bod y newyddion hynny yn dod allan, a'r cyfarwyddiadau sydd wedi eu rhoi yn ddealladwy i bobl fel eu bod yn gallu cyrraedd yr apwyntiadau allweddol.

"Yn amlwg dyw cyfradd o 10-15% sydd ddim yn dod i apwyntiad ddim yn dda i unrhyw un yn enwedig i'r bobl sy'n ymdrechu, fel roedd Claire yn dweud, pobl yn cymryd amser allan o dreulio amser gyda theulu ar yr adeg hon o'r flwyddyn."

Bangor: Ciwio am bigiad cerdded-i-mewn

Un oedd yn ceisio cael pigiad heb apwyntiad ddydd Mercher oedd Siwan Jones o Gaerwen.

Dywedodd Ms Jones wrth aros mewn ciw i gael ei brechlyn atgyfnerthu ei bod yn ceisio cael ei phigiad "mor fuan â phosib".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siwan Jones yn ciwio am bigiad heb apwyntiad ym Mangor

"Dw i 'di dod off chance lly i weld os oedd gyda nhw walk-ins."

"Chi'n clywed pobl yn sôn yn y gwaith, ac ychydig o sibrydion, 'mae hwn a'r llall efo walk-ins, maen nhw'n cymryd rhai, maen nhw'n gwrthod'."

"Dwi'n meddwl bod y system yn Lloegr bach yn haws," meddai, "bo' chi'n gallu cofrestru pawb dros 18 'wan".

"Byse 'na ddiolch sa Cymru'n caniatáu i ni 'neud apwyntiad a gwybod lle ni'n sefyll."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ricky Williams nad yw'n glir a oes brechiadau cerdded-i-mewn ar gael

Dywedodd Ricky Williams o'r Felinheli bod ei ffrindiau wedi gofyn iddo weld a oedd y ganolfan yn cynnig pigiadau cerdded-i-mewn wrth fynd i'w apwyntiad ef.

"O'n i'm yn gwybod bod 'na walk-ins yn fama... 'di o ddim yn dweud yn unman - os oes, dwi heb 'di gweld o."

Dywedodd fod yna giw wrth ochr y ganolfan o bobl yn ceisio cael apwyntiad cerdded-i-mewn.

"Jyst chance di o, medden nhw, pa mor brysur ydy hi."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Lisa Azzu am ei brechlyn atgyfnerthu ym Mangor ddydd Mercher

Dywedodd Lisa Azzu o Ynys Môn ei bod wedi ceisio newid apwyntiad ei chwaer-yng-nghyfraith yn ystod ei aphwyntiad hi ei hun.

"Sgen hi ddim apwyntiad tan mis Ionawr, felly o'dd hi isho i fi holi heddiw os gall hi ddod i mewn i gael o.

"Ond dydy o ddim yn bosib ar hyn o bryd tan wythnos nesaf," meddai hi.

Pynciau cysylltiedig