Northern Soul a Wigan Casino: 'Ffordd o fyw'
- Cyhoeddwyd
Northern Soul ydy'r diwylliant cerddorol wnaeth fyth farw.
Wedi ei seilio ar gariad at gerddoriaeth brin o America fe ffrwydrodd y sin tanddaearol ymhlith dosbarth gweithiol Prydain yn yr 1970au cynnar.
Ei ganolbwynt oedd clwb y Wigan Casino ac mae 40 mlynedd wedi bod ers iddi gau ym mis Rhagfyr 1981.
Yn ei anterth roedd miloedd o bobl yn teithio cannoedd o filltiroedd i Wigan i ddawnsio trwy'r nos gan fynd yn erbyn ffasiwn prif-ffrwd a cherddoriaeth y siartiau.
Ers y dechrau un mae torfeydd o ogledd Cymru wedi bod yn gwneud y daith yma yn ddi-dor ac un oedd yno yn y dyddiau cynnar ydy'r DJ Vaughan Evans o Ynys Môn.
'Ffordd o fyw'
I Vaughan Evans mae Northern Soul yn "ffordd o fyw" ac yn Wigan Casino wnaeth pob dim ddechrau pan agorwyd hi yn 1973.
"Ro'n i tua ugain oed a es i i mewn i siop Guests yn Llangefni ac roedd 'na magazine Blues and Soul ar y shilff. Nes i jest darllen hwnnw a ffeindio tudalen 'Wigan Casino All Nighter' ac mi oedd Edwin Starr yn chwarae yno," meddai Vaughan, sefydlydd gorsaf radio Môn FM.
"Adeg honno oedda' chdi unai yn Mod neu Rocker. Nes i ddewis fod yn Mod ac roeddwn i'n licio Motown a'r teip yna o fiwsig.
"Roeddan ni'n dawnsio i ganeuon Edwin Starr a dyma fi'n cael criw at ei gilydd a holi os oeddan nhw ffansi mynd am Wigan. Roedd hyn yn 1974.
"Roeddan ni'n hogia dosbarth gweithiol o Ynys Môn oedd heb fod i lawar o lefydd pell iawn. Ar y trên aethon ni ar y trip cyntaf. Trip hir rhyw dair awr.
"Roedd o'n all nighter oedd yn para o hanner nos tan wyth y bora. Roedd 'na filoedd ar filoedd o bobl yna. Wnaethon ni fopio efo'r atmosffer."
'Amser fyddai byth yn anghofio'
Lledaenodd y si ar draws gogledd Cymru ac am flynyddoedd byddai torfeydd yn gwneud eu ffordd am Wigan bob penwythnos.
"Roeddan ni'n cael bws o'r Iorwerth Arms ym Mryngwran i Gaergybi i ddal trên. Roeddwn yn cerddad mewn i'r dafarn a fydda pobl yn gofyn 'ew, lle ti'n mynd?' 'I Wigan Casino', a fydda nhw'n deud 'ti'n gall dŵad, trwy nos?!' tra ti'n clywed miwsig charts fel Slade ar y jiwcbocs," meddai Vaughan.
"Roedd y mwyafrif o bobl ro'n i'n nabod yn licio stwff y charts. Roedd raid i chdi fod yn wahanol i licio Northern Soul dwi'n meddwl.
"Underground music oedd o. Doedd o ddim yn cael ei bigo ar y radio. Yr unig le oeddat ti'n gallu clywed y math yma o fiwsig oedd yn y Casino ei hun."
"Wnaethon ni wneud lot o ffrindiau. Roedd pobl yn dod o bob rhan o Brydain yna. Roeddan ni wir wedi mopio efo'r atmosffer ac yn dawnsio heb stopio drwy'r nos.
"Mae o jest yn amser fyddai byth yn anghofio."
'Codi dy galon'
Roedd y 70au cynnar yn gyfnod o galedi mawr ym Mhrydain, ar drothwy cyfnod Margaret Thatcher a sin y pyncs.
"Roedd hi'n gyfnod reit galed yn y 70au cynnar. Roedd 'na lot o streics yn mynd ymlaen. Doedd 'na ddim llawer o waith o gwmpas. Doedd gan lawer o neb llawer o bres deud y gwir - tua £15 yr wythnos oedd rhywun yn cael," meddai Vaughan oedd yn gweithio fel saer coed ar y pryd.
Roedd Northern Soul a'r Casino yn ddihangfa. Mae chwedlau am bobl ifanc yn eu harddegau yn sleifio o'u cartrefi "i aros i dŷ ffrind" heb i'w rhieni wybod eu bod yn dawnsio rhwng 2 a 8 y bore mewn clwb yng ngogledd Lloegr.
"Oedda chdi'n living for the weekend. Roedd o'n amser tywyll ofnadwy - tlawd a strygl i drio byw. Ond oeddat ti yn mynd i fanna ar benwythnos ac roedd o jest yn rhyddhad.
"Roedd Northern Soul yn cynnig rwbath gwahanol. Roedd mynd i fanna yn codi dy galon di."
Y gerddoriaeth
Cerddoriaeth gan bobl ddu o ddinasoedd diwydiannol yr Unol Daleithiau oedd Northern Soul. Fe ddechreuodd gyda Motown, enw sy'n deillio o 'motor town' yn Detroit, a cherddoriaeth soul melys y 60au.
Ond roedd y sŵn yn fwy amrwd gyda churiad cyflymach wedi ei gynhyrchu mewn stiwdios bach yn rhad ar gyfer labeli lleol.
Y newyddiadurwr cerddoriaeth Dave Godin wnaeth fathu'r term 'Northern Soul'. Sylweddolodd fod cefnogwyr pêl-droed o ogledd Lloegr yn mynd i'w siop recordiau yn Llundain yn gofyn am gerddoriaeth dawns trwm prin gan gerddorion du o America.
"Roedd y gerddoriaeth yn cael ei recordio yn America oedd ddim yn dod yn boblogaidd yno ond roeddan nhw'n glanio mewn siopau ail law yno," meddai Vaughan.
"Wnaeth na lot o DJ's fynd draw o fama i America a mynd rownd a hel rhain a dod a nhw'n ôl a chwarae nhw yn y clybiau. Dyna ydi Northern Soul.
"Doedd gan lot o'r bandiau yma ddim syniad bod eu record nhw yn boblogaidd ym Mhrydain. Roeddan nhw yn cael galwad i ofyn os ddaw nhw i ganu yn fyw a roeddan nhw yn gobsmacked fod y gân mor boblogaidd yma."
Dod a'r gerddoriaeth i Fôn
Ar ddiwedd pob un noson roedd yr un tair cân, neu'r "three before eight" yn cael eu chwarae gan gynnwys ffefryn Vaughan, I'm on My Way gan Dean Parrish, fuodd farw eleni.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Nes i ddechrau prynu records yn Wigan. Roeddan nhw'n cael eu gwerthu fyny grisiau. Roeddan nhw werth tua £5 oedd yn lot o bres adeg honno," meddai.
Daeth Vaughan a'r sŵn yn ôl i Ynys Môn ble ddechreuodd cynnal nosweithiau ei hun gyda'i ffrindiau.
"Dwi'n cofio gofyn wrth y Number 10 Club yn Fali os gai chwarae slot yno. A dyma fi'n cael o a dyma fo yn dod yn beth o fanno.
"Wedyn ddaru ni ddechrau heirio llefydd fel Glantraeth. Roedd 'na coach house yn y cefn. Roeddan ni'n gwneud soul nights ac mewn dim roedd pobl ifanc Ynys Môn yn pigo fo fyny.
"O'n i'n cael galwadau ffôn o bob man wedyn."
Delwedd
Mae delwedd y sin, o'r dillad i'r dawnsio, yn ddarn hynod bwysig arall. Deilliodd o isddiwylliant y Mod o'r 60au.
"Wnaethon ni bigo fyny ar y ffasiwn," meddai Vaughan, "y trowsusau llydan efo'r bell bottoms 'ma a'r t-shirts a'r cotiau."
"Oeddat ti yn mynd i Wigan ac yn gweld pobl efo'r crysau 'ma a'r badges 'ma ac roeddan nhw yn gwerthu nhw. Oedd 'na siopau wedyn o gwmpas Ynys Môn wedi pigo fo fyny.
"O ran y dawnsio... mae gan bawb ei steil ei hun. Ti'n copïo lot ohono fo. Yn gweld y moves ac yn ymarfer.
"Roedd y miwsig jest yn catchy ofnadwy. Mae'r beat a'r rhythm yn pigo fyny a fedri di ddim ista lawr yn gwrando arno fo.
"Dwi'n cofio ar ddechrau wicend cyn ni fynd i Wigan roeddan ni'n cyfarfod yn dŷ ffrind ym Mhencraig, Llangefni ac yn mynd i'r stafell ffrynt ac yn ymarfer dawnsio ar y carpad...
"Dyma dad y boi yn dod mewn a gweiddi a chega arna ni ein bod ni yn gwisgo ei garped o allan! Roedd 'na lwyth o hogia' yn sbïo arna ni drwy ffenest..."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y sin wnaeth fyth farw
Mae Vaughan yn un o DJ's mwyaf Ynys Môn a gogledd Cymru ar y sin. Sefydlodd orsaf radio Môn FM yn 2012 ble'r oedd yn cynnal rhaglen Soul on Sunday am flynyddoedd.
Un dywediad ym myd Northern Soul ydy "you're only as good as your collection" a dydi bywyd DJ ddim yn hawdd. Byddai DJ yn cael ei daflu oddi ar y llwyfan os na fyddai pobl yn dawnsio i ddwy gân ar ôl ei gilydd ac mae'r ffyddloniaid yn troi eu trwynau ar unrhyw beth sydd tu allan i ddiffiniad sŵn Northern Soul.
Mae llawer iawn o'r un wynebau yn dal i afael yn dynn yn y dywediad "Keep the Faith" sy'n tarddu o Wigan. Mae digwyddiadau yn cymryd lle ar hyd a lled Prydain o hyd.
"Mae'n rhaid i chdi fod yn licio'r miwsig ac mae o yn bwysig ofnadwy i chdi fod yn rhan o'r teulu. Dwi 'di bod yn hel ers y 70au ac mae gen i filoedd," meddai Vaughan.
"Dwi'n chwarae yn y Manchester Soul Festival bob blwyddyn - mae na tua 40 mil o bobl yn mynd i hwnnw.
"Mae o mor boblogaidd heddiw os nad fwy poblogaidd. Mae 'na lot o bobl sydd yn cofio'r miwsig 'ma.
"Mae rhai ohonyn nhw yn eu 70au a 80au ac maen nhw dal i fynd pob penwythnos."