Plant o Bontypridd yn gwrthod gwobr hinsawdd dros ymateb cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau ifanc grŵp amgylcheddol wedi gwrthod gwobr gan eu cyngor sir, gan ddweud nad yw'n gwneud digon i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae aelodau Cyfeillion Ifanc y Ddaear Pontypridd wedi bod yn ymgyrchu am newidiadau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Ond maen nhw'n teimlo nad ydy Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gwneud digon ers i'r dref gael ei tharo gan lifogydd difrifol yn ystod Storm Dennis yn 2020.
Yn ôl un aelod 13 mlwydd oed, byddai derbyn y wobr yn "rhagrithiol".
Dywedodd Alice: "Byddai'n rhagrithiol i ni dderbyn y wobr oherwydd ry'n ni'n teimlo nad yw cyngor RCT, a'r byd, yn gweithredu dros newid hinsawdd.
"Byddai'r newidiadau mawr y gallem wneud fel sir yn benderfyniadau mawr, nid rhai bach dydd i ddydd.
"Dyw'r byd ddim yn ei sefyllfa orau a dyw nhw ddim yn gwneud diogon amdano," ychwanegodd.
"Pan ddaeth Covid roedd e'n teimlo fel bod gweithredu'n digwydd yn syth ac mae angen hynny gyda newid hinsawdd, oherwydd os na gaiff ei sortio, efallai na fyddwn ni yma."
Fis Chwefror diwethaf, fe achosodd storm Dennis lifogydd difrifol ar hyd de Cymru.
Pontypridd oedd un o'r trefi a welodd effaith waethaf y storm gyda chartrefi a busnesau wedi'u dinistrio.
Ychwanegodd Alice: "Pan welon ni'r llifogydd yn y dref y llynedd roedden ni'n gwybod bod newid hinsawdd yn gwaethygu, er gwaethaf yr hyn roedd pobl yn dweud amdano'n gwella, dyw e ddim.
"Roeddwn i wedi fy nychryn yn gweld dŵr yn llifo ar hyd y brif stryd oherwydd os oes dŵr yn gallu cyrraedd yr uchder yna oherwydd storm, dychmygwch sut allai fod ymhen deng mlynedd."
Dywedodd aelod arall, Dan, 12 (ar y dde), y dylai cyngor Rhondda Cynon Taf fod wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud hynny.
"Roeddwn i wedi disgwyl y byddai cyngor RCT wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud.
"Nhw yw un o'r nifer fach o gynghorau yng Nghymru i beidio gwneud hynny ac ar ôl storm Dennis, fyddwn i'n meddwl mai dyna'r peth cyntaf y bydden nhw wedi gwneud.
"Dwi'n poeni, gyda'r capiau iâ yn toddi, y bydd rhan fwyaf arfordir Cymru a RCT yn gweld llifogydd ac y byddwn ni'n colli trefi cyfan a chartrefi pobl. Ry'n ni angen gweithredu fel nad ydym ni'n colli'r holl hanes hefyd."
Dywedodd Rowan, 10, y byddai'r pwnc yn denu mwy o gyhoeddusrwydd os na fyddan nhw'n derbyn y wobr, er eu bod "wedi cyffroi" o fod wedi'i dderbyn.
"Os yw pobl yn clywed amdanom ni'n ei wrthod efallai y byddan nhw'n gweithredu dros achub ein dyfodol a'n planed.
"Dwi ddim yn credu fod pobl yn deall pa mor wael yw pethau.
"Dwi'n teimlo'i bod hi'n drawmatig, edrych i'r dyfodol, efallai y bydd gen i ddyfodol gyda darnau o fynyddoedd yn syrthio ac aer llygredig, dw i ddim eisiau i hynny ddigwydd."
Mewn ymateb i lythyr y plant yn diolch i'r cyngor ond yn gwrthod y wobr, ysgrifennodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan:
"Mae'r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i gyrraedd Sero Net erbyn 2030, ac wedi gwneud cynnydd tuag at gyrraedd y nod a chyfrannu at dargedau byd eang, rhyngwladol a lleol.
"Mae'r cyngor eisoes yn prynu 100% o'i ynni trydanol o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac wedi gostwng ei ôl troed carbon gan 37% neu 12,725 tunnell dros y pum mlynedd diwethaf."
Ychwanegodd 20 o esiamplau eraill lle'r oedd y cyngor yn mynd i'r afael â newid hinsawdd, gan gynnwys gosod 108 o baneli solar ar hyd ysgolion ac adeiladau.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis o Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd hefyd yn ymwneud â materion newid hinsawdd y cyngor ei fod yn "siom fawr" na dderbyniodd y bobl ifanc y wobr.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n siom fawr nad ydyn nhw wedi derbyn y wobr, oherwydd wrth gwrs rydym ni eisiau cydnabod eu hymdrechion o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch newid hinsawdd a thaclo newid hinsawdd o gwmpas Pontypridd ac ardal ehangach RCT.
"Hoffwn eu sicrhau, yn nhermau'r pryderon a godwyd, bod gan gyngor Rhondda Cynon Taf gynllun i daclo newid hinsawdd a gwneud ein sir yn garbon niwtral erbyn 2030 ond wrth gwrs, fel cyngor, ry'n ni'n croesawu safbwyntiau pobl ifanc, busnesau, trigolion a'r holl gymuned."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2021