Pobl ifanc â gorbryder am newid hinsawdd 'angen help'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
newid hinsawddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arbenigwyr iechyd meddwl yn galw am fwy o weithredu i helpu pobl ifanc sy'n teimlo "wedi'u parlysu" gan bryder am newid hinsawdd.

Dywedodd Place2Be - elusen sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion - y byddai'r broblem yn dod yn "fwy a mwy amlwg".

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am gyngor i athrawon, a chyllid ar gyfer prosiectau amgylcheddol allai ddylanwadu ar les disgyblion.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd newidiadau y maen nhw wedi'u cyflwyno i'r cwricwlwm yn help.

Tra bod bygythiad newid hinsawdd i fywydau yn hawlio'r penawdau dyw'r effaith ar iechyd meddwl, efallai, ddim wedi cael cymaint o sylw.

'Ffeindio planed arall'

Dywed Cliona Vaughan, cwnselydd sy'n gweithio fel rheolwr prosiect i Place2Be, yn ne Cymru bod hi eisoes yn sylwi ar yr effeithiau wrth siarad â disgyblion.

"Maen nhw'n teimlo'n bryderus, yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i helpu," meddai.

"Ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn mae'r gorbryder yna'n mynd yn fwy problematig. Maen nhw'n gallu teimlo fel petai dim gobaith o ran y dyfodol a dyna pryd maen nhw'n dod am gwnsela."

Mae ofn y plant am ddifrod amgylcheddol yn gwaethygu gan bryderon nad yw gwleidyddion a busnesau mawr yn gweithredu'n ddigon cyflym, meddai.

"Daeth un plentyn ata i yn dweud 'bydd yn rhaid i ni ffeindio planed arall'.

"Ddylai plant ddim fod yn gorfod poeni fel hyn - mae ganddyn nhw eu breuddwydion a'u gobeithion ac fe ddylen nhw allu edrych ymlaen at y dyfodol. Ond y cyfan y maen nhw'n ei glywed yw 'dim ond hyn a hyn o amser sydd ar ôl' (i osgoi newid hinsawdd).

"Felly maen nhw'n mynd yn eitha' crac - ydy pobl yn gwrando? Ydy'r bobl mewn grym yn gwneud rhywbeth am hyn?"

Mae Ms Vaughan yn cynnal sesiynau 'galw-mewn' yn ystod amser cinio - sesiynau sydd yn sicrhau bod "plant yn teimlo'n well pan yn gadael".

"Fe fyddai'n dda o beth petai bob ysgol yng Nghymru â rhywbeth tebyg", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid i bobl gymryd bygythiad newid hinsawdd o ddifri,' medd Delyth Jewell AS

Dweud bod angen mwy o gyngor ar athrawon o ran adnabod arwyddion 'eco-bryder' a sut i ddelio ag e mae Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd.

Mae hefyd am sicrhau fod y cwricwlwm newydd yn ffocysu ar ffyrdd o ymateb i newid hinsawdd, gyda chyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer "prosiectau gweithredu ar y cyd" fel teithiau codi sbwriel, neu sefydlu rhandir yn y gymuned.

"Y peth ola' ni 'isie i ddigwydd yw i bobl beidio cymryd y bygythiad o ddifri ond mae'n bwysig bod ni'n fframio fe yn y ffordd gywir.

"Mae angen ffocysu ar be' mae pobl yn gallu gwneud - yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc. Y peth pwysig yw i'w hymbweru nhw, iddyn nhw deimlo - ydy - mae'r sefyllfa'n wael ond dyma'r ffordd ni'n gallu gwella pethau.

"Byddai hynny yn neud i'r ecobryder yma fod yn llai o broblem ond hefyd yn gwneud i bobl fod yn fwy tebygol o weithredu fel nad ydy'r argyfwng yn cyrraedd ei anterth."

Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen help ar unigolion sy'n gorbryderu,' medd Dr Marc Williams

Traean yn teimlo gorbryder, ofn neu ddicter

Mae Dr Marc Williams, seicolegydd clinigol o Brifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi papur yn ddiweddar sy'n awgrymu perthynas rhwng achosion o bobl yn chwilio ar y we am bynciau yn ymwneud â newid hinsawdd a thermau'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Mae'n credu bod angen mwy o ymchwil er mwyn deall ecobryder yn well.

"Mae'n bwysig i ni ddeall fel bo ni'n gallu helpu pobl sy'n ymateb yn ddifrifol i newid hinsawdd - bydd 'na rai sy'n gorbryderu, yn colli cwsg ac os y'ch chi'n cyrraedd y pwynt lle mae'n amharu ar fel ry'ch chi'n byw eich bywyd chi byddai'n dda cael mwy o ymchwil i helpu'r unigolion hynny.

"Ond ar yr un pryd ddylen ni ddim gor-ffocysu ar hyn fel ffenomenon sydd ond yn effeithio ar unigolion - dwi'n credu ei fod yn adlewyrchu'r ffaith bod 'na broblem go iawn o ran yr hinsawdd sydd angen i ni ddelio ag e."

Mae arolygon cyson Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd wedi dangos newid sylweddol mewn agwedd pobl at gynhesu byd eang yn ystod y blynyddoedd diweddar - gyda 40% o'r rhai a holwyd ar draws y DU erbyn hyn yn dweud eu bod yn "poeni'n fawr iawn" ynglŷn â'r sefyllfa.

Roedd traean yn nodi fod y sefyllfa yn arwain at deimladau o orbryder, ofn neu ddicter.

Beth yw barn pobl ifanc?

"Crac yw'r gair cywir am sut dwi'n teimlo," medd Molly, un o arweinwyr pwyllgor amgylchedd - sef Amgylch - Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd.

"A hynny achos dyw pobl sy'n arweinwyr byd ddim yn gweithredu dros y pethau sy'n effeithio ni fel disgyblion ifanc."

"Mae rhwystredig i weld pryd ni'n 'neud eitha' lot gyda'r grŵp Amgylch a dyw'r gwleidyddion ddim fel petai nhw'n gwneud unrhyw beth," ychwanega Rhiannon, un arall o'r arweinwyr.

"Mae'n anodd i weld."

Mae'r ddwy yn credu y gall gwneud "pethau bychain" helpu gyda theimladau o bryder.

"Defnyddio brws dannedd bamboo, gwisgo mwgwd anhafladwy - mynd i brotestiadau," awgryma Rhiannon.

"Mae bod yn ymwybodol, rhannu stwff ar Instagram a Twitter - addysgu pobl eraill - yn gallu rhoi bach o reassurance i'r meddwl hefyd," meddai Molly.

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cryfhau prif gysyniadau'r cwricwlwm ysgol newydd "i alluogi gwell dysgu ynglŷn â'r argyfwng hinsawdd".

"Bydd y cwricwlwm newydd yn golygu bod modd i bynciau mawr fel newid hinsawdd gael eu dysgu ar draws sawl maes a phrofiad, yn hytrach na fel un pwnc cul yn unig."

O ran y galwadau am gyllid, dywedodd bod y llywodraeth wedi bod yn talu am ddwy raglen addysgiadol newid hinsawdd mewn ysgolion drwy Gymru ers blynyddoedd - Maint Cymru ac Eco Ysgolion.

"Mae'r rhaglenni yma yn mynd ymhellach na gwaith yn y stafell ddosbarth. Maent yn cefnogi plant a phobl ifanc i weithredu, ymgysylltu â datblygiadau polisi gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed."