Ysbytai dan bwysau i ateb galwadau ffôn wrth deuluoedd
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru yn chwilio am staff i ateb a gwneud galwadau ffôn o ysbytai.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn recriwtio Swyddogion Cyswllt Cleifion er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cyfathrebu gyda'u teuluoedd tra'n yr ysbyty.
Mae teuluoedd wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu â'u hanwyliaid, na chael gwybodaeth am eu cyflwr gan nad oes unrhyw un yn ateb y ffôn.
Cafodd llinell ffôn dros dro ei sefydlu ym mis Ionawr ar ôl i'r bwrdd sylwi ar gynnydd mewn galwadau uniongyrchol i aelodau o deuluoedd ar wardiau yn ystod y pandemig.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn dal i "wynebu heriau gyda lefelau staffio ar draws eu hysbytai".
Bu farw tad Debbie Dawkins, Jeffery, yn 77 oed fis Hydref ar ôl treulio cyfnodau rhwng gwahanol ysbytai yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Dywedodd bod y cyfathrebu oddi wrth yr ysbytai "ddim yn bodoli".
"Fe wnes i drio am ddyddiau i ffonio a ches i ddim unrhyw ateb ar y rhifau wnes i drio," dywedodd.
Ychwanegodd bod gan ei thad ffôn symudol yn yr ysbyty ond bod y batri wedi marw, a dywedodd y staff wrthi bod y gwefrydd ffôn wedi mynd ar goll yn yr ysbyty.
"Pan roedd fy nhad yn cael ei drosglwyddo rhwng ysbytai, mae'n rhaid bod un o staff yr ambiwlans wedi troi'r ffôn arno. Dyna'r tro diwetha' i fi siarad gyda fe."
Dywedodd Debbie bod diffyg cyfathrebu yn "achos pryder" a'i fod wedi achosi cymhlethdod ynglŷn â pha ysbyty roedd ei thad ynddo a beth oedd cyflwr ei iechyd.
Derbyniodd un alwad oddi wrth yr ysbyty.
Ar ôl i'w thad farw, sylwodd Debbie bod 511 o alwadau ffôn heb eu ateb ganddi ar ffôn ei thad.
Mae'n croesawu'r ffaith bod y bwrdd iechyd yn recriwtio Swyddog Cysylltu Cleifion ond ychwanegodd bod angen iddynt gael yr hyfforddiant cywir i gyflawni eu gwaith.
Mae BBC Cymru wedi gweld Adroddiad Ymchwiliad Digwyddiad Difrifol gan y bwrdd iechyd ym mis Mai 2021.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod lle i wella ynghylch cyfathrebu gyda theuluoedd cleifion yn ystod y pandemig.
Cynnydd yn y galw
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Ry'n ni'n deall yn llwyr pa mor anodd yw hi pan fo teuluoedd yn methu cael diweddariadau ar eu hanwyliaid, ac mae hyn yn sefyllfa ry'n ni'n edifar yn fawr.
"Ry'n ni'n parhau i wynebu heriau gyda lefelau staffio ar draws ein hysbytai," ychwanegodd.
"Mae ein wardiau yn brysur iawn ar hyn o bryd ac mae ein staff yn gweithio'n galed i ymdopi â'r cynnydd yn y galw.
"Hoffwn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi profi anghyfleustra neu dristwch oherwydd y sefyllfa bresennol, ond plîs byddwch yn ymwybodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn i wella ein cyfathrebu gyda pherthnasau'n cleifion."
Yn ôl Jemma McHale, Prif Swyddog gyda Chyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan, roedd cyfathrebu gydag anwyliaid yn yr ysbyty yn fater "gofidus" ar ddechrau'r pandemig.
"Dyma un o'r pethau cyntaf glywon ni amdano fel cyngor iechyd cymunedol pan ddechreuodd y pandemig," meddai.
"Doedd pobl ddim yn gwybod o'r naill ddiwrnod i'r llall os oedd eu hanwyliaid ar yr un ward neu os oedden wedi'u symud," ychwanegodd.
Dywedodd un person o Flaenau Gwent wrth y cyngor cymunedol: "Er fod gennym wahanol ffyrdd o gysylltu ag ef [aelod o'r teulu oedd yn yr ysbyty] ar y ffôn, recordio neges fideo, dydyn ni ddim yn derbyn y gefnogaeth i allu gwneud hyn."
Mae'r Cyngor Iechyd Cymunedol wedi croesawu'r nod o gael rhagor o Swyddogion Cyswllt Cleifion gan ddweud ei fod yn "ddatrysiad cynhyrchiol i'r broblem".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021