'Tswnami o achosion Omicron yn debygol' mewn wythnosau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
OmicronFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib nad yw cynlluniau cyfredol Cymru i fynd i'r afael â'r amrywiolyn Omicron yn mynd yn ddigon pell ac fe ellir fod angen rhagor o gyfyngiadau, yn ôl ymgynghorydd iechyd sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Cymru'n debygol o weld "tswnami o achosion" yn yr wythnosau nesaf.

Mae gofyn i bobl ddilyn rheolau pellter cymdeithasol newydd mewn siopau ac yn y gwaith o 27 Rhagfyr ymlaen a bydd clybiau nos yn cau.

Ac mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford eisoes wedi rhybuddio bod rhagor o gyfyngiadau a newidiadau o ran digwyddiadau chwaraeon torfol yn bosib.

Cadarnhaodd Boris Johnson ddydd Sadwrn fwriad i gynnal cyfarfod o'r pwyllgor argyfyngau COBRA er mwyn trafod y sefyllfa ddiweddaraf gyda chynrychiolwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ddydd Sadwrn hefyd, fe gyhoeddodd yr awdurdodau yn Llundain ddatganiad digwyddiad difrifol ac fe gafodd dros 10,000 o achosion Omicron eu cadarnhau yn y DU.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Dr Shankar: "Mae'n ymddangos ein bod wythnos neu ddau ar ôl yr hyn sydd i'w weld yn Llundain, mwyafrif Lloegr a'r Alban.

"Mae'n rhaid i ni fanteisio ar hynny oherwydd mwya' po'r amddiffyniad trwy frechiad atgyfnerthu, gorau oll."

Mae'r rhaglen frechiadau atgyfnerthu wedi ei chyflymu yn y dyddiau diwethaf, wrth i ddadansoddiadau cynnar awgrymu na yw dau ddos o frechlyn Covid-19 yn ddigonol i amddiffyn pobl rhag yr amrywiolyn Omicron newydd.

Y nod yw cynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.

Dr Giri Shankar
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yng Nghymru tua wythnos neu bythefnos ar ôl rhannau eraill o'r DU, medd Dr Giri Shankar

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru'n annog pobl i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, cwrdd yn yr awyr agored os yn bosib, a gadael bwlch o ddiwrnod rhwng digwyddiadau cymdeithasol.

Ond o 27 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn cael eu cyflwyno, sy'n cynnwys cau clybiau nos a rheolau ychwanegol i fusnesau i warchod cwsmeriaid a staff, fel systemau unffordd.

Fel aelod o'r grŵp cyngor technegol (TAC), mae Dr Shankar yn un o'r arbenigwyr sy'n rhoi cyngor gwyddonol i Lywodraeth Cymru.

Menyw'n caael ei brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i gynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru cyn diwedd Rhagfyr

Pan ofynnwyd am y cyngor ar gyfer y newid presennol i'r rheolau Covid, atebodd ei fod yn cynnwys "rhywfaint o'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi, gan gynnwys cyfyngu ar nifer cysylltiadau cymdeithasol, cael brechiad atgyfnerthu... pellter cymdeithasol, gweithio o adref, golchi dwylo, gorchuddio'r wyneb."

Ychwanegodd: "Rwyf hefyd yn meddwl y gallwn ni weld sefyllfa ble, er yr holl fesurau hynny a chydymffurfio da gyda'r mesurau hynny, gall niferoedd achosion a'r baich ar y system olygu bod angen cyfyngiadau pellach, o bosib."

Ddydd Iau, roedd yna 267 o gleifion gyda Covid-19 yn ysbytai Cymru - y nifer isaf ers diwedd Awst a llai o lawer nag yn ystod brig mis Ionawr.

Ond pwysleisiodd Dr Shankar bod Omicron yn trosglwyddo'n gyflym iawn "a gyda niferoedd mawr o heintiadau, mae'n anochel y bydd cyfran fach o'r rheiny angen triniaeth ysbyty.

"Mae hyd yn oed y ganran fach yna... yn ddigon i droi'r fantol o fewn y system iechyd a gofal."

'Sefyllfa heriol ers mis Medi'

Mae'r sefyllfa o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y gorllewin yn "heriol iawn ar y foment", yn ôl y prif weithredwr, Steve Moore.

"Mewn gwirionedd, mae wedi bod yn heriol iawn, mwya' tebyg, ers dechrau Medi pan welson ni lefelau tebyg i'r gaeaf yn y galw... a dyw e heb stopio ers hynny.

"I'r staff, mae wedi bod yn ddi-baid ers rhai misoedd a ninnau ar drothwy ein cyfnod prysuraf."

Ysbyty prysurFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd eisoes y byddai'r GIG yn cael trafferth ymdopi petai mwy o angen am driniaeth ysbyty yn sgil ton enfawr o achosion

Mae pryder yn arbennig y gallai ton o achosion Omicron ledu'n eang ac yn gyflym mewn cyfnod byr, gan greu pwysau mewn sawl gweithle os yw nifer sylweddol yn gorfod hunan-ynysu.

Pan ofynnwyd ar y rhaglen ynghylch y potensial o'r fath bwysau, atebodd Mr Moore: "Rydym yn ceisio cadw nifer o blatiau'n troelli ar yr un pryd.

"Mae gyda ni raglen frechu atgyfnerthu anferthol ar waith... rhaid hefyd cadw gwasanaethau gofal brys i fynd, boed at Covid neu beidio. Rhaid hefyd symud ymlaen cyn belled ag y gallwn ni gyda gofal wedi ei gynllunio, yn achos degau ar filoedd o bobl sydd wedi gorfod aros.

"Yn amlwg, wrth i bethau godi gêr, rhaid gwneud penderfyniadau sut rydyn ni'n blaenoriaethu'r pethau hyn oherwydd dydyn ni ddim yn mynd i allu gwneud popeth os yw rhai o'r rhagolygon a'r modelu yn cael eu gwireddu."

Cur pen cynnal gwasanaethau gyda llai o staff

Yn ôl arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r modelu'n awgrymu'r posibilrwydd y gallai "mwy na 30% o'r boblogaeth gael eu heintio".

Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan: "Pe taswn ni'n colli dim ond 20% o ein staff, 20% o ein gweithwyr casglu sbwriel, 20% o weithwyr gofal cymdeithasol, 20% o athrawon mewn ysgolion, byddai hynny'n cael effaith anferthol ar ddarparu gwasanaethau.

"Ac yn y pen draw, byddai'r impact ar wasanaethau cyngor yn effeithio ar breswylwyr felly mae llawer o gynlluniau gwahanol yn cael eu trefnu, rhag ofn i'r gwaethaf ddigwydd."

Dywedodd Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru: "Rydym yn gweld staff yn hunan-ynysu [trwy eu cysylltiadau]... mae'n anochel y byddwn ni'n gweld staff yn dal y feirws wrth iddo ledu trwy'r boblogaeth.

"Mae ond yn fater o faint o staff sydd gyda ni ar gael i gadw gwasanaethau i fynd ar yr adeg gwaethaf posib o'r flwyddyn."

Mae BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul 19 Rhagfyr ac yna ar iPlayer.