18% o bobl heb fynychu apwyntiad brechlyn wythnos diwethaf
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhoddwyd cyfanswm o 47,800 dos o frechlyn Covid-19 yng Nghymru ar 19 Rhagfyr
Ni wnaeth 18% o'r bobl a gafodd gynnig brechlyn Covid dros yr wythnos diwethaf yng Nghymru fynychu eu hapwyntiad, meddai'r llywodraeth.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflymu'r rhaglen frechu yn sgil yr amrywiolyn Omicron.
Ond roedd y ffigwr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr lawer yn is - 1.3% o'r bobl a gafodd gynnig brechlyn wnaeth ddim mynychu dros yr wythnos diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod amrywiaeth rhwng byrddau iechyd i'w ddisgwyl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflymu'r rhaglen frechu yn sgil yr amrywiolyn Omicron
Nod y llywodraeth yw cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y mis.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd mwy o bobl eu brechu yng Nghymru ddydd Sul nag ar unrhyw ddiwrnod arall yn y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai pobl wneud eu hapwyntiadau am frechlyn "yn flaenoriaeth".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn annog pawb i wirio gwefan a chyfryngau cymdeithasol eu bwrdd iechyd lleol dros y dyddiau nesaf ar gyfer trefniadau.
"Mae pob bwrdd iechyd wedi rhannu a diweddaru eu manylion ar y cyfryngau cymdeithasol. Plis peidiwch a ffonio eich bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu."
Canran is yn y gogledd
Yn ôl bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, 1.3% o bobl a gafodd gynnig y brechlyn dros yr wythnos diwethaf wnaeth ddim mynychu.
Dywedodd cyfarwyddwr ardal y bwrdd iechyd, Ffion Johnstone: "Wythnos diwethaf, fe roddwyd 66,000 o frechlynnau i bobl, sef y nifer uchaf ar hyd gogledd Cymru - 14,000 yn uwch na'n cyfanswm uchaf blaenorol.
"Roedd hyn yn gymysgedd o apwyntiadau a brechlynnau cerdded-i-mewn..."
Wrth ddiolch i bobl am ddod i gael y brechlyn, ychwanegodd Ms Johnstone: "Rydym yn annog unrhyw un sydd ag apwyntiad yn ystod Rhagfyr i ddod heblaw bod ganddyn nhw Covid, eu bod wedi gael prawf positif o fewn 28 diwrnod i'w apwyntiad neu os ydynt yn hunan-ynysu ar hyn o bryd."
Dywedodd y llywodraeth bod disgwyl i "gyfraddau'n amrywio ar hyd y byrddau iechyd i gyd yn ddibynnol ar bwy sy'n cael eu gwahodd ar gyfer brechlynnau, ar ba gam y mae nhw ac yn y blaen".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y cyfamser, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Llun eu bod yn gohirio triniaethau nad sydd yn argyfwng tan 4 Ionawr 2022 i ganolbwyntio ar y rhaglen frechu.
Dywedodd y bwrdd eu bod yn gohirio llawdriniaethau, gweithredoedd ac apwyntiadau cleifion allanol lle nad oes brys er mwyn "lleoli staff mor effeithiol â phosibl".
Ychwanegodd llefarydd bod staff yn "mynd allan o'u ffordd i roi pigiadau atgyfnerthu i'r holl oedolion cymwys dros y 10 diwrnod nesaf cyn y cynnydd disgwyliedig mewn achosion Omicron ym mis Ionawr".
'Newyddion pryderus i gleifion'
Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Yn anffodus, bu'n rhaid i ni benderfynu gohirio triniaethau lle nad oes brys ac apwyntiadau cleifion allanol tan 4 Ionawr, 2022.
"Hon yw'r ffordd orau o amddiffyn ein gweithlu a chyflwyno ein rhaglen frechu sydd wedi cael ei chyflymu ar garlam i gael ei chwblhau erbyn diwedd y mis hwn. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i amddiffyn ein gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf.
"Deallwn y bydd hyn yn newyddion pryderus i gleifion sy'n disgwyl cael llawdriniaeth neu i dderbyn eu hapwyntiad dros yr wythnosau sydd i ddod ac ymddiheuraf yn ddiffuant am hyn," ychwanegodd.
"Byddwn yn adolygu'r newidiadau hyn yn rheolaidd yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd a chyfraddau trosglwyddo'r feirws ar draws gogledd Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021