Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Lily Sullivan, 18
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y teulu mewn datganiad fod Lily yn ferch "garedig a gofalgar"
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Lily Sullivan yn Sir Benfro.
Cafodd corff y fenyw 18 oed ei ganfod yng nghanol tref Penfro yn ystod oriau mân ddydd Gwener, 17 Rhagfyr.
Fe wnaeth Lewis Haines, 31, o Landyfái, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe trwy linc fideo fore Iau.
Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 14 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021